Neidio i'r prif gynnwy

Ar Ddiwrnod Cerddoriaeth y Byd, mae Cymru Greadigol wedi cyhoeddi £300,000 o gyllid i helpu i dyfu a meithrin y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mehefin 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd ail rownd Cronfa Refeniw Cerddoriaeth Cymru Greadigol 2 yn agor ddydd Llun nesaf (Mehefin 24). Ffocws y rownd hon yw helpu busnesau cerddoriaeth gydag: 

  • ymgyrchoedd ar gyfer rhyddhau cerddoriaeth newydd
  • hyrwyddo cerddoriaeth fyw
  • cynhyrchu cerddoriaeth at ddefnydd cefndir neu achlysurol yn y cyfryngau
  • cherddoriaeth Gymraeg.

Y label gwledig The Road Records gafodd y cyllid refeniw yn y rownd flaenorol. Roedd y cyllid yn galluogi'r label i ryddhau record estynedig gan y ddeuawd gwerin traws-genre Cymreig, Samana.

Samana / The Road Records yw Franklin Mockett a Rebecca Rose a drawsnewidiodd eu tyddyn gwledig yn Sir Gaerfyrddin yn dŷ cynhyrchu a label artistig yn 2019, tra'n rhedeg rhaglen adfer natur yn y cwm i gynnig noddfa ar gyfer ymarferion artistig a anwyd o'r gwyllt.

Dywedodd Franklin:

"Fe wnaeth Cronfa Cerddoriaeth Refeniw Cymru Greadigol ein helpu i ryddhau'r record estynedig 'Dharma' yn 2023. Am iddi gael cymaint o sylw byd-eang ers inni ei rhyddhau, fe wnaethon ni ei ehangu'n albwm hyd llawn, eponymaidd - a nodwyd yn waith rhagorol gan gylchgrawn Mojo, casglwr recordiau a chylchgrawn KLOF, gan sicrhau adolygiadau 4/5 ac uwch yn gyffredinol. 

"Mae ein band a'n label wedi ennyn llawer iawn o ddiddordeb ers hynny a'r mis hwn byddwn ni'n cychwyn ein taith hudol 'In Tune With The Infinite' sydd wedi gwerthu pob tocyn; digwyddiad wedi'i guradu gan artistiaid a fydd yn ymddangos mewn nifer bach o fannau unigryw ledled y DU."

Dywedodd Gweinidog y Diwydiannau Creadigol, Sarah Murphy:

"Mae heddiw yn ddiwrnod i ddathlu ein sin gerddorol lewyrchus. I genedl fach mae gennym leoliadau, gwyliau, hyrwyddwyr, stiwdios a labeli recordio gwych.  Ar draws y byd mae pobl yn gwrando ar sêr Cymru - o berfformwyr sefydledig fel y Manic Street Preachers neu Funeral for a Friend i dalent llawr gwlad newydd fel Adwaith a Mace the Great.

"Rwy’n ymrwymedig i sicrhau bod talent ar draws y diwydiant - yn Gymraeg a Saesneg - yn cael ei meithrin, ei chefnogi a'i datblygu. Felly rwy'n annog busnesau i wneud cais am y cyllid hwn ac adeiladu ar enw da Cymru fel lle gwych i greu cerddoriaeth."

O ddydd Llun ymlaen bydd busnesau cerddoriaeth yn gallu gwneud cais am rhwng £20,000 a £40,000 i'w wario ar brosiectau fyddai'n elwa ar gymorth, oherwydd cyfyngiadau ariannol. 

Gallai'r prosiectau gynnwys: hyrwyddo cerddoriaeth fyw; rhyddhau ymgyrchoedd ar gyfer recordiau estynedig / albymau newydd; amser stiwdio ychwanegol; neu gerddorion sesiwn, er enghraifft.

Mae'r cyllid yn cwmpasu'r sbectrwm llawn o genres cerddoriaeth boblogaidd gyfoes (electronig, hip-hop, indi ac amgen, metel a phync, pop, roc, etc). Nid yw'n cwmpasu genres sydd eisoes yn cael cymorth fel cerddoriaeth glasurol neu jazz.