Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet
Yn 2022, fe wnes i ddatganiad yn nodi rhaglen o ddiwygiadau i ardrethi annomestig ar gyfer tymor presennol y Senedd, yn ogystal â chynnal ymgynghoriad ar ystod o gynigion penodol ar gyfer gwelliannau. Adlewyrchir y rhan fwyaf o'r cynigion hyn ym Mil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru), sy'n cael ei ystyried gan y Senedd ar hyn o bryd.
Fel rhan o'r agenda ddiwygio hon, ymrwymais i gynnal adolygiad o gynlluniau rhyddhad ardrethi annomestig. Rwy'n falch o gadarnhau, ar ôl cynnal proses gaffael gystadleuol yn gynharach eleni, fod contract ymchwil wedi'i ddyfarnu i Alma Economics i gynnal yr adolygiad hwn.
Bob blwyddyn, mae Llywodraeth Cymru yn gwario dros £250 miliwn ar gynlluniau rhyddhad ardrethi annomestig parhaol. Yn ogystal, rydym wedi gwario mwy na £1 biliwn ar gynlluniau rhyddhad dros dro ers 2020, i gefnogi busnesau cymwys yn y sectorau yr effeithir fwyaf arnynt gan heriau economaidd yn ystod y cyfnod hwn.
Cynhelir yr adolygiad i roi cipolwg ar effeithiolrwydd y cymorth ariannol sylweddol a gynigir i dalwyr ardrethi annomestig ac i lywio sut y gellir newid y pecyn presennol o ryddhad yn y dyfodol. Mae'r gwaith ymchwil yn cynnwys tair prif elfen, sef:
- Egwyddorion – datblygu set o egwyddorion allweddol i lywio newidiadau i gynlluniau rhyddhad ardrethi annomestig yn y dyfodol.
- Ymarferoldeb – profi a mireinio'r egwyddorion a ddatblygir, gan ystyried ymarferoldeb y cynlluniau rhyddhad a sut y cânt eu gweinyddu gan awdurdodau lleol.
- Canfyddiadau – ystyried safbwyntiau talwyr ardrethi presennol a'u cynrychiolwyr, i brofi a mireinio'r egwyddorion ymhellach.
Bydd yr adolygiad o gynlluniau rhyddhad yn cael ei gwblhau dros y deuddeg mis nesaf, gan arwain at gyhoeddi adroddiad Ymchwil Gymdeithasol gan y Llywodraeth. Gwahoddir rhanddeiliaid i gymryd rhan yn yr adolygiad wrth iddo fynd yn ei flaen. Anogaf bobl i gyfrannu pan fo'r cyfle yn codi.