Technoleg a’r Gymraeg
Daeth yr alwad am wybodaeth i ben 01 Hydref 2024.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Disgrifiad o’r alwad am wybodaeth
Rydyn ni angen help i gasglu gwybodaeth a syniadau i helpu llunio ein gwaith ar gyfer technoleg a’r Gymraeg, drwy helpu casglu:
- gwybodaeth a thystiolaeth am anghenion pobl sydd eisiau defnyddio technoleg iaith Gymraeg
- syniadau a barn am beth sydd ei angen i wneud technoleg iaith Gymraeg yn haws i ddefnyddio
Ein gwaith yn y maes hyd yn hyn
Pan gyhoeddon ni ein Cynllun gweithredu technoleg Cymraeg yn 2018, roedden ni am gynllunio datblygiadau technolegol fel bod modd defnyddio’r Gymraeg mewn ystod eang o sefyllfaoedd, gan ddefnyddio’r llais dynol, bysellfwrdd neu ddulliau eraill o ryngweithio. Mae’r adroddiad terfynol ar y Cynllun hefyd ar gael. Bydd y camau nesaf yn adeiladu ar y gwaith rydyn ni wedi gwneud cyn belled.
Blaenoriaethau’r Cynllun oedd datblygu a rhannu seilwaith newydd i’r Gymraeg, yn arbennig:
- technoleg lleferydd Cymraeg
- cyfieithu â chymorth cyfrifiadur
- deallusrwydd artiffisial sgwrsiol
Un o brif egwyddorion y Cynllun oedd datblygu diwylliant o arloesi agored. Roedden ni am i fwy o adnoddau digidol a data iaith Gymraeg fod ar gael, heb amodau diangen yn cyfyngu ar eu defnydd. Roedden ni am i’r adnoddau hyn cael eu rhannu o dan drwydded addas, agored a chaniataol lle bynnag y bo’n bosibl, er mwyn cefnogi ymdrechion i arloesi’n ddigidol er budd yr iaith Gymraeg.
Pam gofyn am wybodaeth
Ers i ni gyhoeddi’r Cynllun, rydyn ni wedi ariannu, wedi creu, ac wedi gweithio ar lawer o’r cydrannau sydd eu hangen ar yr iaith Gymraeg yn yr oes ddigidol.
Rydyn ni nawr yn edrych i’r camau nesaf ar gyfer technoleg iaith Gymraeg. Bydden ni’n hoffi clywed gan bawb sydd â diddordeb mewn technoleg Cymraeg, i glywed eu barn ar beth sydd dal angen ei datblygu.
Un nod yn ein strategaeth Cymraeg 2050: miliwn o siaradwyr yw i gynyddu’r defnydd o’n hiaith ni, felly hoffen ni wybod hefyd pa fath o dechnoleg fyddai’n helpu cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg.
Beth sydd angen gwella i’w gwneud hi’n haws i bobl ddefnyddio technoleg yn Gymraeg?
Sut gallwch chi roi gwybod i ni beth sydd angen
Daeth yr alwad am wybodaeth i ben 01 Hydref 2024.
Cwestiynau i helpu chi i ymateb
Gallwch chi gyflwyno gwybodaeth neu safbwynt am unrhyw fater sydd yn eich tyb chi’n berthnasol i ddefnydd pobl o dechnoleg iaith Gymraeg.
Rydyn ni’n awyddus i glywed am rai materion penodol, felly rydyn ni wedi llunio rhai cwestiynau i’ch helpu chi.
Does dim rhaid i chi ymateb i bob cwestiwn. Gallwch chi rannu lle mae gennych chi wybodaeth neu farn berthnasol.
Pobl sydd am ddefnyddio eu Cymraeg yn fwy
Rydyn ni am i dechnoleg gyfrannu at ein nod i gynyddu defnydd y Gymraeg bob dydd.
- Pa fath o dechnoleg sydd angen ei datblygu i helpu pobl i ddefnyddio mwy o Gymraeg?
- Oes bylchau lle nad oes technoleg iaith Gymraeg ar gael o gwbl neu lle mae angen ei wella?
- Oes rhwystrau wrth ddefnyddio technoleg yn Gymraeg? Os oes, beth ydyn nhw?
Pobl sydd am ddefnyddio technoleg iaith Gymraeg mewn sefyllfaoedd gwahanol
Rydyn ni am sicrhau bod technoleg iaith Gymraeg yn gallu cael ei ddefnyddio mewn sefyllfaoedd gwahanol, er enghraifft yn gymdeithasol neu yn y gweithle. Gall y dechnoleg hefyd fod ar gyfer pobl sydd am ei defnyddio yn Gymraeg ac yn Saesneg.
- Beth sydd ei angen i’w gwneud hi’n haws i bobl ddefnyddio technoleg iaith Gymraeg yn y gweithle?
- Beth sydd ei angen i’w gwneud hi’n haws i bobl ddefnyddio gwasanaethau digidol yn Gymraeg?
- Beth sydd ei angen i’w gwneud hi’n haws i bobl ddefnyddio technoleg iaith Gymraeg yn gymdeithasol?
- Beth sydd ei angen i’w gwneud hi’n haws i bobl ddefnyddio technoleg yn Gymraeg a Saesneg (er enghraifft, gallu siarad â chynorthwyydd clyfar mewn un iaith neu’r llall)?
Pobl sydd ag anghenion penodol
Mae angen i ni sicrhau bod technoleg ar gael yn y Gymraeg ar gyfer pobl sydd ag anghenion penodol. Gallai hyn gynnwys pobl anabl, pobl hŷn, pobl sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, neu bobl sydd ag anghenion yn sgil triniaeth feddygol, amhariad gwybyddol neu gorfforol. Mae hyn nid yn unig fel bod modd i bobl allu defnyddio’r Gymraeg ond hefyd er mwyn iddyn nhw allu ei defnyddio yn hawdd, heb achosi heriau ychwanegol iddyn nhw.
- Beth fyddai’n gwella profiad pobl sydd ag anghenion dysgu ychwanegol wrth ddefnyddio technoleg iaith Gymraeg?
- Beth fyddai’n gwella profiad pobl sydd am ddefnyddio technoleg iaith Gymraeg am resymau meddygol, neu oherwydd bod ganddyn nhw amhariadau corfforol?
- Beth fyddai’n gwella profiad pobl hŷn sydd am ddefnyddio technoleg iaith Gymraeg?
Eich hawliau
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych chi yr hawl:
- i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a’u gweld
- i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
- (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
- (o dan rai amgylchiadau) i’ch data gael eu ‘dileu’
- (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data
I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych chi am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:
Y Swyddog Diogelu Data
Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
e-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn: 0303 123 1113
Gwefan: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (Saesneg yn unig)
Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (UK GDPR)
Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a roddir gennych chi wrth i chi ymateb i’r alwad am wybodaeth. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddan nhw’n dibynnu arnyn nhw i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maen nhw’n cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus.
Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom ni yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy’n gweithio ar y materion y mae’r alwad am wybodaeth yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgynghoriadau ar gyfer y dyfodol.
Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o’r ymatebion, gall trydydd parti achrededig (er enghraifft sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn.
Ni fydd unrhyw waith o’r fath yn cael ei wneud oni bai ei fod yn cael ei wneud o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o’r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.
Er mwyn dangos bod y galwad am wybodaeth wedi cael ei gynnal mewn modd priodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn ni’n cyhoeddi’r ymatebion yn llawn.
Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych chi’n dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn ni wedyn yn cuddio eich manylion.
Dylech chi hefyd wybod am ein dyletswyddau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth. Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb, bydd yr adroddiadau hyn yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na 3 blynedd.