Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb o gwmpas a phwrpas bwrdd gweinidogol Adolygiad Diogelu Unedig Sengl (ADUS).

Cefndir

Yn 2018, gwnaeth adolygiad academaidd gan yr Athro Amanda Robinson o Brifysgol Caerdydd ac adolygiad ymarferwyr Llywodraeth Cymru gan Liane James ar:

  • Adolygiadau Lladdiadau Domestig (DHR)
  • Adolygiadau Ymarfer Oedolion (APR)
  • Adolygiadau Lladdiadau Iechyd Meddwl (MHHR)
  • Adolygiadau Ymarfer Plant (CPR)

O ganlyniad, gwnaed argymhellion ynghylch:

  • deddfwriaeth
  • llywodraethu
  • polisi
  • proses
  • storfa ganolog
  • llyfrgell genedlaethol
  • dysgu a hyfforddi

Tynnodd y ddau adolygiad sylw at yr angen i wella prosesau cydgysylltu, cydweithio, cyfathrebu a llywodraethu wrth gynnal adolygiadau diogelu yng Nghymru. Fe wnaeth y gwaith ddatgelu cymhlethdod cyrff datganoledig a heb eu datganoli yn cynnal adolygiadau ar wahân ac, mewn rhai achosion, heb yn wybod i Lywodraeth Cymru a heb ei chyfraniad, gan greu tirwedd adolygu anhrefnus yng Nghymru.

Cafodd yr argymhellion eu gwneud a'u derbyn gan Weinidogion Cymru i gael proses Adolygiad Diogelu Unedig Sengl (ADUS) gydag un corff yn darparu llywodraethu cyffredinol wedi'i chysylltu â storfa ganolog i hwyluso dysgu a hyfforddi ar lefel Cymru gyfan. Yn ategu hyn roedd yr angen am broses a allai uwchgyfeirio materion eithriadol, gan gynnwys newidiadau posibl i bolisi neu faterion sy'n cynnwys swyddogaethau datganoledig a heb eu datganoli, ar lefel ryng-Weinidogol i ddylanwadu ar y broses unigryw hon a’r canlyniadau, eu cefnogi a’u harwain.

Diben

Y bwrdd yw'r corff cyffredinol sy'n dwyn ynghyd yr agweddau datganoledig ac annatganoledig ar ddiogelu o dan un model llywodraethu. Nodir diben y bwrdd mewn 4 maes isod.

Arweiniad

O fewn maes arweiniad, pwrpas y bwrdd yw:

  • darparu fforwm cenedlaethol er mwyn helpu i atal digwyddiadau a rheoli adolygiadau diogelu yng Nghymru a dysgu ohonynt
  • annog y gwaith o ddatblygu a gweithredu dull cyson ledled Cymru gyda phartneriaid allweddol
  • ystyried unrhyw newidiadau posibl y gall fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru eu gwneud o ran cyfrifoldebau statudol sy'n gysylltiedig â deddfwriaeth, canllawiau, polisïau neu ddyrannu adnoddau, o ganlyniad i gynlluniau gweithredu ac argymhellion a ddaw i'r amlwg o ADUS

Proses

O fewn y maes prosesu, pwrpas y bwrdd yw:

  • goruchwylio'n strategol nifer yr adolygiadau diogelu cyfredol (gan gynnwys Adolygiadau Lladdiadau Domestig) a'r materion a’r patrymau cenedlaethol a'r themâu dysgu cyffredin sy'n dod i'r amlwg lle mae angen ymateb Cymru gyfan neu'r DU gyfan
  • sicrhau bod ffocws ar ddysgu gan yr asiantaethau priodol ac ar ganlyniadau o adolygiadau a gwblhawyd, a bod mecanweithiau ar waith i gyflawni yn unol â’r canlyniadau hynny
  • derbyn a gweithredu ar faterion a uwchgyfeiriwyd o ranbarthau na ellir eu datrys ar y lefel honno ac sydd angen ymateb ar lefel Cymru neu'r DU, gan gynnwys newidiadau posibl i bolisïau a deddfwriaeth sydd eisoes yn bodoli

Cadw a chynhyrchu gwybodaeth

O fewn y maes o gadw a chynhyrchu gwybodaeth, pwrpas y bwrdd yw:

  • derbyn themâu allweddol a nodwyd gan storfa ddiogelu Cymru ac unrhyw beth perthnasol a ddysgwyd
  • derbyn adroddiadau monitro ar y ffordd y mae'r dysgu sy'n deillio o'r wybodaeth a gafwyd o'r storfa yn cael ei roi ar waith

Cyfleoedd dysgu ehangach

Ym maes cyfleoedd dysgu ehangach, pwrpas y bwrdd yw i annog y gwaith o archwilio cyfleoedd diogelu o safbwynt rhyngwladol a nodi a rhannu arfer gorau.

Aelodaeth

Cytunwyd ar aelodaeth y bwrdd yn y cyfarfod cychwynnol a bydd yn cael ei adolygu'n flynyddol neu pan fydd newidiadau’n cael eu gwneud i gyfrifoldebau gweinidogol. Ymhlith yr aelodau y mae:

  • Y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol (cadeirydd)
  • Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
  • Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg
  • Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai
  • Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip
  • Y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant
  • gweinidogion fel y bo'n briodol ar gyfer materion perthnasol
  • cyfarwyddwyr cyffredinol fel y bo'n briodol ar gyfer materion perthnasol
  • cadeirydd y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol
  • cadeirydd Bwrdd Diogelu Rhanbarthol
  • cadeirydd y Grŵp Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yng Nghymru
  • Arweinydd y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu Cymru ar ADUS
  • cadeirydd Grŵp Strategaeth ADUS
  • Uwch Gynrychiolydd y Storfa Ddiogelu Cymru
  • Prif Gwnstabl sy’n Gadeirydd Bwrdd Plismona Cymru Gyfan
  • Prif Weithredwr y GIG Cymru
  • Prif Weithredwr fel cynrychiolydd ar ran awdurdodau lleol (drwy Gymdeithas Prif Weithredwyr Awdurdodau Lleol)
  • cadeirydd Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Prif Weithredwr Cymorth i Ferched Cymru
  • Prif Weithredwr BAWSO (Black Association of Women Step Out)
  • Cynghorydd Cenedlaethol ar gyfer Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV), Llywodraeth Cymru
  • cynrychiolydd grŵp cyfeirio dioddefwyr a theuluoedd ADUS
  • pennaeth Bwrdd Cymunedau Mwy Diogel Cymru
  • Comisiynydd Cam-drin Domestig Cymru a Lloegr
  • Comisiynydd Plant Cymru
  • Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
  • cadeirydd y Bwrdd Goruchwylio Adolygiad Lladdiad ag Arf Ymosodol
  • cynrychiolydd y trydydd sector
  • Uwch Gynrychiolydd y Swyddfa Gartref
  • Uwch Grwner (barnwr arweinyddiaeth Cymru)
  • Prif Erlynydd y Goron Cymru
  • Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF, Cyfarwyddwr Prawf Rhanbarthol
  • Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (fel sy'n briodol ar gyfer eitemau agenda penodol)

Ysgrifenyddiaeth

Bydd cymorth ysgrifenyddiaeth yn cael ei ddarparu gan Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio Llywodraeth Cymru.

Mynychder cyfarfodydd ac amserlenni

Fel arfer, cynhelir cyfarfodydd bob 6 mis a byddant yn cael eu cynnal o bell gan ddefnyddio Microsoft Teams neu yn y cnawd yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru, yn ogystal â lleoliadau eraill ledled Cymru yn ôl y gofyn. Dylid cyflwyno eitemau agenda heb fod yn hwyrach na phythefnos cyn pob cyfarfod, a dylid caniatáu cyflwyno materion brys yn ddiweddarach.

Rheoli fersiynau

FersiwnStatwsEnw
1Drafft cychwynnol.Sarah Lamberton
2Diwygiadau wedi'u rhannu a'u dilysu gan y bwrdd (15 Mawrth 2024).Sarah Lamberton
3Ychwanegu Comisiynydd Plant Cymru, Comisiynydd Pobl Hŷn a Chadeirydd y Bwrdd Goruchwylio Adolygiad Lladdiad ag Arf Ymosodol. Newidiadau'r Cabinet i deitlau Gweinidogol. Cymeradwywyd gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol (7 Hydref 2024). Ychwanegu'r Cyfarwyddwr Prawf Rhanbarthol (hepgoriad blaenorol).Sarah Lamberton
4Cywiro cyfeiriadau at WSCB a CLlLC. Ychwanegu Prif Weithredwr fel cynrychiolydd awdurdodau lleol. Dileu adran aelodaeth "gwahoddiad sefydlog" ar wahân gan nad oes ei angen mwyach (Ebrill 2025).Sarah Lamberton