Neidio i'r prif gynnwy

Agorwyd llygaid Grace Lewis gan NASA, cafodd ei chefnogi gan Brifysgol De Cymru ac mae bellach yn brif beiriannydd yn Aston Martin.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mehefin 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Llywodraeth Cymru eisiau taflu goleuni ar yr ystod o fentrau sydd â'r nod o annog merched i yrfaoedd ym maes Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM), megis rhaglenni ariannu sy'n canolbwyntio'n benodol ar ferched, gyda'r nod o gynyddu'r niferoedd o ysgolion uwchradd sy'n ymgysylltu â diwydiannau STEM. Mae hefyd yn ariannu'n llawn brentisiaethau gradd mewn Peirianneg a Gweithgynhyrchu Uwch sy'n cyfuno dysgu yn y gweithle â chymhwyster addysg uwch.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg, Jeremy Miles: 

Mae Cymru'n lle gwych i gwmnïau technoleg a pheirianneg sefydlu, buddsoddi a thyfu, ac mae galw mawr am weithlu medrus. Yn hanesyddol, mae menywod wedi cael eu tangynrychioli yn y sector hwn, ac fel Llywodraeth, rydym yn benderfynol o newid hyn.

Bydd dysgu sgiliau peirianneg yn eich rhoi ar y llwybr cywir ar gyfer gyrfaoedd a fydd yn rhoi bywoliaeth dda a phrofiadau cyffrous i chi gydol eich bywyd gwaith. Yng Nghymru, gallwch chi lwyddo fel peirianwyr.

Un fenyw sy'n wedi dangos bod hyn yn bosibl yw Grace Lewis, Prif Beiriannydd Aston Martin ym Mro Morgannwg. Dywedodd:

Roeddwn i wrth fy modd gyda gwyddoniaeth a mathemateg pan oeddwn i yn yr ysgol ac roedd gen i ddiddordeb arbennig mewn Seryddiaeth a Theithiau i'r Gofod. Ar ymweliad gyda’r ysgol i’r safleoedd NASA, agorwyd fy llygaid i faint o bobl sy'n gweithio i sicrhau bod taith ofod yn llwyddiant. Roedd y rhan fwyaf o'r gweithwyr NASA wnes i eu cyfarfod yn beirianwyr, felly dyma pryd y dechreuais ofyn y cwestiwn ‘alla i fod yn beiriannydd?.’

Yn y brifysgol, roedd yr agwedd ddysgu seiliedig ar waith yn arbennig o gyffrous i mi, ac roedd yn fraint cael rhoi fy addysg ar waith mewn ffatri sy'n arwain y byd ym maes gwneud peiriannau awyrennau. Roeddwn wrth fy modd yn cymharu fy ngwybodaeth dechnegol ag arferion gorau'r diwydiant a chyflwyno technolegau newydd a thechnolegau sy'n dod i'r amlwg i'r gweithle.

Fel prentis graddedig o Brifysgol De Cymru, ymunodd Grace â'r tîm Datblygu Cynnyrch yn McLaren yn Surrey yn 2021, ac yn ddiweddarach cysylltodd Aston Martin â hi. Ychwanegodd:

Roedd yn teimlo fel yr amser iawn i ddychwelyd i Gymru, ac i weithio i frand mor eiconig. Yn ddiweddar, mae Aston Martin wedi sefydlu Rhwydwaith Cynhwysiant gyda ffrydiau i gefnogi pob grŵp lleiafrifol o fewn y busnes. Mae Aston Martin yn gweithio tuag at gynyddu nifer y benywod yn y busnes, yn enwedig mewn rolau peirianneg.

Grace yw un o Lysgenhadon STEM Llywodraeth Cymru. Wrth siarad am ei rôl, dywedodd:

Mae gwirfoddoli fel Llysgennad STEM wedi rhoi llwyfan i mi rannu fy sgiliau gyda dysgwyr ifanc a'u hannog i ystyried gyrfaoedd STEM. Fy nod yw helpu'r diwydiannau STEM i ddod yn lle tecach a mwy hygyrch i bobl ifanc - waeth beth fo'u rhyw, eu man geni neu i ba grŵp lleiafrifol y maent yn perthyn. Rwyf wedi bod yn ffodus iawn i gael croesawu myfyrwyr i'r safle ac i ymweld â nhw mewn ysgolion a cholegau.