Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Casgliad

Cyflwyniad

Mae casgliad yr Asesiad Effaith Integredig (IIA) yn ymwneud â'r offeryn statudol drafft canlynol, "Gorchymyn Rheoli a Thrwyddedu Pysgota am Gocos (Ardal Benodedig) (Cymru) 2024".

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa'r Cabinet yn gosod yr OS drafft gerbron Senedd Cymru ar 19 Mehefin 2024, cyn ceisio cymeradwyaeth Senedd Cymru i'w wneud mewn sesiwn lawn ym mis Gorffennaf 2024.

Bydd yr OS drafft yn cael ei osod yn Senedd Cymru ochr yn ochr â'r IIA llawn.

Diben ac effaith y ddeddfwriaeth:

Diben yr offeryn hwn yw gwneud y canlynol:

  • cyflwyno mesurau rheoli newydd a mwy hyblyg a fydd yn addasu ac yn symleiddio'r drefn ar gyfer rheoli gwelyau cocos yn yr ardal benodedig i sicrhau cynaliadwyedd stociau cocos a diogelu'r amgylchedd ehangach ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol,
  • cyflwyno trefn drwyddedu newydd, wedi'i haddasu ar gyfer pysgota mewn gwelyau cocos yn yr ardal benodedig, a
  • dirymu a disodli ac addasu'r rheoliadau rheoleiddio gwelyau cocos yng Nghymru.

Y cefndir deddfwriaethol

Cyn 1 Ebrill 2010, roedd pysgota am gocos o amgylch arfordir Cymru yn cael ei reoli gan Bwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr a Phwyllgor Pysgodfeydd Môr De Cymru.

Diddymwyd y Pwyllgorau Pysgodfeydd Môr yng Nghymru ar 1 Ebrill 2010 pan ddiddymwyd Deddf Rheoleiddio Pysgodfeydd Môr 1966 gan adran 187 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 ("MCAA").

Mae Is-ddeddfau cyn-Bwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr a chyn-Bwyllgor Pysgodfeydd Môr De Cymru wedi cael effaith ers 1 Ebrill 2010 fel pe baent wedi eu gwneud gan Weinidogion Cymru mewn offeryn statudol yn rhinwedd erthygl 13(1) a (3) o Orchymyn Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Canlyniadol, Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru a Lloegr) 2010 ac Atodlen 4 iddo.

Cafodd Is-ddeddf 5 Pwyllgor Pysgodfeydd Gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr ei dirymu a'i disodli gan Orchymyn Cocos a Chregyn (Ardal Benodol) (Cymru) 2011. 

Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu ac yn disodli neu'n diwygio nifer o Is-ddeddfau a Gorchymyn Cocos a Chregyn Gleision (Ardal Benodedig) (Cymru) 2011. 

Daw pwerau Gweinidogion Cymru i wneud y Gorchymyn o adran 189(1) a 316(1) yr  MCAA. 

Mae adran 189(1) yn darparu pwerau i wneud darpariaeth mewn Gorchymyn mewn perthynas â Chymru, y gall Awdurdod Pysgodfeydd y Glannau ei gwneud o dan adran 155 o'r Ddeddf honno, gan gynnwys darpariaeth i reoli pysgota ym mhysgodfeydd y glannau mewn perthynas â Chymru.

Mae adran 316(1) yn darparu pwerau ychwanegol i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer gwahanol achosion ac i wneud darpariaethau cysylltiedig, canlyniadol, atodol neu drosiannol neu arbed. 

Gwneir y Gorchymyn drwy offeryn statudol ac mae'n ddarostyngedig i'r weithdrefn negyddol.

Yr effaith y bwriedir i’r ddeddfwriaeth ei chael

Bydd y Gorchymyn newydd yn cyflwyno cyfres o fesurau i ddarparu rheolaeth gadarn, gyson a hyblyg ar bysgodfeydd cocos yn yr ardal benodedig, yng Nghymru: Yr ardaloedd penodedig yn y Gorchymyn hwn yw'r ardaloedd lle mae cocos wedi'u categoreiddio'n rhai addas i'w bwyta gan bobl ac i'w hecsbloetio at ddibenion masnachol.

Mae natur etifeddol a hanesyddol y ddeddfwriaeth bresennol a ddefnyddir i reoli pysgodfeydd cocos yn creu ystod eang o anghysondebau ledled Cymru.  Oherwydd cyfyngiadau'r ddeddfwriaeth bresennol, pysgota am gocos yw un o'r heriau mwyaf o ran rheoli a gorfodi pysgodfeydd yng Nghymru.  Ar hyn o bryd, mae rheoli gweithgareddau pysgota am gocos yn hynod lafurddwys gan eu bod yn destun cwynion rheolaidd gan y cyhoedd a chyrff cyhoeddus eraill. 

Mae niferoedd cocos yn amrywio'n fawr ond mae eu cynaeafu trwy eu casglu â llaw yn amgylcheddol gynaliadwy o'i reoli'n dda.

Wrth gynaeafu cocos yn gynaliadwy, mae ffactorau amgylcheddol yn ystyriaeth allweddol wrth ei reoli. Ceir gwelyau cocos rhynglanwol o amgylch arfordir Cymru o fewn neu wrth Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) a Safleoedd Morol Ewropeaidd (EMS) a ddynodwyd oherwydd eu nodweddion rhynglanwol. Mae'r nodweddion hyn yn cynnwys adar rhydio sy'n bwyta cocos ac infertebratau eraill. Mae adfer nodweddion eraill fel gwelyau 'morwellt' a chynefinoedd morfeydd heli yn rhan o ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu a Sero Net Cymru.

O dan y Gorchymyn newydd, bydd modd addasu'r trefniadau rheoli mewn ymateb i newidiadau yn lefelau'r stoc a'r amgylchedd gan alluogi Llywodraeth Cymru i sicrhau cynaliadwyedd y gwelyau cocos a ffynhonnell gwaith ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Mae casglu cocos yn gallu bod yn waith peryglus hefyd.  Bydd y Gorchymyn yn cyflwyno archwiliadau cymhwysedd i sicrhau bod y rhai sy'n cael trwyddedau'n addas ac yn gallu gweithio mewn ffordd ddiogel.

Mae'r mesurau a gyflwynir gan y Gorchymyn newydd yn cynnwys:

i)      gwahardd pysgota am gocos a chymryd cocos o welyau cocos sydd ar gau a heb drwydded. 

ii)      darparu ar gyfer asesu ac agor a chau gwelyau cocos yn yr ardal benodedig.

iii)     darparu ar gyfer trefn newydd ar gyfer trwyddedu pysgota cocos gan gynnwys trwydded bysgota cocos a fydd yn caniatáu pysgota ar welyau cocos yn yr ardal benodedig ac a fydd yn cael ei chyhoeddi bob blwyddyn, newid y meini prawf cymhwysedd a ffi flynyddol am drwyddedau cocos,

iv)     darparu bod amodau ynghlwm wrth bob trwydded a roddir,

v)     darparu bod amodau ychwanegol ynghlwm wrth bob trwydded sy'n benodol i welyau cocos unigol ac sy'n gallu bod yn wahanol. 

vi)     darpariaeth sy'n safoni'r lwfans hamdden personol ar draws yr ardal benodedig.

Ymgynghori 

Lansiwyd ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos o hyd ar gynigion ar gyfer mesurau rheoli pysgodfeydd cocos newydd ar 11 Chwefror 2022 a daeth i ben ar 6 Mai 2022. Cafodd ystod eang o randdeiliaid wybod am yr ymgynghoriad gan gynnwys casglwyr, proseswyr a phrynwyr cocos, awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru, yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Yr Awdurdod er Atal Cam-drin Gweithwyr gan Feistri Gangiau, Cefas, Seafish a’r holl randdeiliaid a pherchenogion tir lleol sydd â diddordeb mewn pysgodfeydd cocos.

Derbyniwyd 174 o ymatebion gan amrywiaeth o unigolion a chyrff cyfansoddedig sydd â buddiant yn niwydiant cocos Cymru. Daeth 80 o'r ymatebion hyn i law trwy wefan Llywodraeth Cymru, cafwyd 80 o ffurflenni ymateb trwy e-bost, a chafwyd 14 o ymatebion ysgrifenedig trwy e-bost heb ddefnyddio ffurflen ymateb. Nid oedd yr 14 ymateb a ddaeth i law trwy e-bost heb ddefnyddio’r ffurflen ymateb wedi ateb cwestiynau penodol yr ymgynghoriad. Fodd bynnag, roeddent yn ymatebion uniongyrchol i'r ymgynghoriad, ac roeddent wedi cyrraedd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Felly, maent wedi cael eu hystyried yn yr ymatebion i'r ymgynghoriad.

Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr yn cytuno â phob un ond un o'r cynigion yn yr ymgynghoriad. Fe wnaeth terfyn y ddalfa ddyddiol arfaethedig rannu barn yn gyfartal. Ar ôl ystyried yr ymatebion yn ofalus, mae terfyn y ddalfa ddyddiol wedi'i gynnwys ym mesurau'r gorchymyn hwn. Hynny am fod y gallu i gyfyngu ar ddalfeydd a physgota yn hanfodol er mwyn gallu rheoli stociau cocos yn gynaliadwy. Defnyddir y dull hwn yn helaeth mewn pysgodfeydd cocos eraill. 

Mae dogfennau’r ymgynghoriad a chrynodeb o'r ymatebion ar gael ar gael yma: Mesurau Rheoli Pysgodfeydd Cocos 2022 | LLYW.CYMRU