Landlordiaid cymdeithasol: arolwg boddhad tenantiaid 2024
Barn tenantiaid cynghorau a chymdeithasau tai am eu cartefi.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Data mis Mai 2024
Mae cyhoeddiad eleni yn cynnwys 12 cwestiwn safonol mae pob landlord wedi eu gofyn i’w tenantiaid yn ystod y ddwy flynedd diwethaf ar sail methodoleg safonol, ond gydag ystod o ddulliau casglu.
Darperir y data gan landlordiaid, ac mae Llywodraeth Cymru yn ei gyhoeddi er mwyn rhannu gwybodaeth â rhanddeiliaid fel y gallant roi sylw pellach iddi gyda’r landlordiaid. Nid yw’r data wedi’i ddilysu gan Lywodraeth Cymru.
Dylid bod yn ofalus iawn wrth gymharu lefelau boddhad tenantiaid, gan ystyried ystod o ffactorau gan gynnwys nifer yr eiddo sy’n cael eu rheoli gan landlordiaid yn ogystal ag oedran a lleoliad yr eiddo.
Data mis Mai 2023
Roedd cyhoeddiad y llynedd yn cynnwys yr un 12 cwestiwn safonol yr oedd pob landlord cymdeithasol wedi eu gofyn i’w tenantiaid yn ystod y ddwy flynedd cyn 2023 ar sail methodoleg safonol.
Nid oedd y data wedi’i ddilysu gan Lywodraeth Cymru.
Ewch i Landlordiaid cymdeithasol: arolwg boddhad tenantiaid 2023 [HTML] | LLYW.CYMRU
Data mis Mai 2022
Nid oedd y data wedi’i ddilysu gan Lywodraeth Cymru.
Ewch i Landlordiaid cymdeithasol: arolwg boddhad tenantiaid Mai 2022 | LLYW.CYMRU
Data mis Mai 2021
Fel rhan o’r cytundeb rhent tai cymdeithasol pum mlynedd presennol, cynhaliodd landlordiaid cymdeithasol arolwg safonol o foddhad tenantiaid. Y bwriad oedd y byddai canlyniadau’r arolwg ar gael i’w cyhoeddi erbyn mis Ebrill 2021 ac yna y câi arolygon eu cynnal bob dwy flynedd, o leiaf. Fodd bynnag, oherwydd effaith pandemig COVID-19, data cyfyngedig yn unig y gwnaethom ei gyhoeddi yn 2021, ym mis Mai, a hynny ar draws y meysydd a ganlyn:
- y gwasanaeth a ddarperir gan y landlord
- ansawdd y cartref
- atgyweiriadau a gwaith cynnal a chadw
- y gymdogaeth
- gwerth am arian
- pa mor dda mae’r landlord yn gwrando ar denantiaid
Ewch i Landlordiaid cymdeithasol: arolwg boddhad tenantiaid Mai 2021