Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae Cymru yn wlad Ewropeaidd flaengar a rhyng-gysylltiedig, ac mae’r adroddiad blynyddol hwn yn rhoi trosolwg o’n gwaith gartref a thramor i gyflawni ein blaenoriaethau, arddangos ein gwerthoedd a hyrwyddo ein cenedl yn y byd hwn sydd â chysylltiadau byd-eang.

Drwy adeiladu a datblygu cysylltiadau â’r byd ehangach, gallwn arddangos y gorau yng Nghymru drwy ddenu swyddi a buddsoddiad gan ddangos ar yr un pryd ein hymrwymiad i gyfrifoldeb byd-eang. Mae hyn yn golygu rhannu dulliau dysgu a gwerthoedd blaengar o wlad fach a hefyd ein hymrwymiad i ddatblygu cynaliadwy rhyngwladol drwy waith, gan gynnwys ein rhaglen Cymru yn Affrica.

Mae aflonyddwch byd-eang wedi parhau i effeithio ar eleni o ran heriau gan gynnwys gwrthdaro, newid yn yr hinsawdd a’r argyfwng costau byw. Nid yw Cymru’n ddiogel rhag y materion hyn ac, fel cenedl sy’n edrych tuag allan, mae gennym rôl bwysig i’w chwarae drwy ein gweithgarwch rhyngwladol.

Strategaeth ryngwladol

Mae ein gweithgarwch yn canolbwyntio ar dri nod y Strategaeth Ryngwladol; codi proffil Cymru, datblygu ein heconomi, a dangos ein hymrwymiad i gyfrifoldeb byd-eang.

Rydym yn gweithio i godi proffil Cymru ar y llwyfan rhyngwladol. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Cymru wedi cael ei gweld fwyfwy fel arweinydd agweddau mewn materion fel ein huchelgais i fod y genedl fwyaf cyfeillgar i bobl LHDTC+ yn Ewrop a dileu hiliaeth. Mae ein dulliau polisi arloesol mewn sawl maes – o’r economi gylchol i incwm sylfaenol – yn denu diddordeb rhyngwladol ac yn ysgogi cysylltiadau. Rydym yn gwneud cyfraniadau pwysig at flaenoriaethau rhyngwladol fel ieithoedd brodorol, drwy Ddegawd Ieithoedd Brodorol y Cenhedloedd Unedig, a thrwy ein partneriaethau â rhanbarthau eraill ledled y byd.

Rydym wedi parhau i ddatblygu ac ehangu ein perthynas â rhanbarthau drwy lofnodi cytundebau newydd dros y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys Silesia, Fflandrys, Birmingham (Alabama) a Baden-Württemberg, sy’n cwmpasu meysydd lle gallwn rannu dulliau dysgu a chydweithio ar draws llawer o bolisïau o feysydd ynni a digidol i ddiwylliant ac iaith.

Mae ein Strategaeth yn gosod cynlluniau uchelgeisiol i ddatblygu’r economi mewn hinsawdd ariannol heriol drwy ddenu mewnfuddsoddiad a chefnogi allforwyr Cymru i werthu eu nwyddau a’u gwasanaethau dramor. Gan weithio gyda phartneriaid allweddol, rydym yn mynd ati i hyrwyddo Cymru’n rhyngwladol fel y brif gyrchfan ar gyfer buddsoddi drwy dynnu sylw at feysydd o’r economi lle mae gan Gymru alluoedd dosbarth rhyngwladol (gan gynnwys meysydd seiber, lled-ddargludyddion cyfansawdd, technoleg ariannol, gwyddorau bywyd ac ynni adnewyddadwy), gan ddangos y rhain fel cyfleoedd i ddarpar fuddsoddwyr. Ar ben hynny, rydym yn cynnal cysylltiadau cryf â buddsoddwyr presennol, gan ddarparu cymorth i sicrhau eu presenoldeb a’u twf parhaus yng Nghymru. Ym mis Tachwedd 2023, fe wnaethom ddathlu 50 mlynedd o fuddsoddiad Japaneaidd yng Nghymru drwy ymuno ag un o’n cwmnïau byd-eang, Sony, mewn digwyddiad ym Mhen-y-bont ar Ogwr i nodi’r garreg filltir nodedig hon sydd wedi cael ei datblygu gan dimau Llywodraeth Cymru yng Nghymru a Japan ers degawdau.  Gan droi at allforion, mae ein Cynllun Gweithredu Allforio i Gymru wedi helpu cwmnïau yng Nghymru i archwilio marchnadoedd newydd dramor, canfod cwsmeriaid newydd a datblygu eu hallforion. Y llynedd, cafwyd teithiau masnach i amrywiaeth o farchnadoedd gan gynnwys UDA, y Dwyrain Canol ac Awstralia. Roeddem hefyd wedi cynnal taith fasnach i’r Iseldiroedd a oedd wedi’i hanelu’n benodol at gwmnïau sy’n newydd i allforio i ddangos y cymorth ymarferol y gall Llywodraeth Cymru ei ddarparu o ran cael mynediad at farchnad a chanfod cwsmeriaid. Cadwodd UDA, yr Almaen, Iwerddon, Ffrainc a’r Iseldiroedd eu safleoedd fel pum cyrchfan allforio mwyaf Cymru.

Mae’r ymrwymiad i gyfrifoldeb byd-eang yn parhau’n flaenllaw yn ein gweithgarwch rhyngwladol. Rydym wedi bod yn rhannu ein dull gweithredu arloesol ar gyfer Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol â llawer o rannau o’r byd, yn ogystal â’n gweithgarwch blaengar i gefnogi’r rheini sydd mewn angen, fel y rheini sy’n ffoi rhag gwrthdaro, neu rannu ein gwaith ar arloesi ym maes ynni adnewyddadwy fel rhan o ymdrechion i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.

Yn ymarferol, mae hyn wedi golygu ein bod yn canolbwyntio ar weithgareddau sy’n rhannu gwerthoedd a dulliau dysgu Cymru. Y llynedd, fe wnaethom rannu Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd 2023 sy’n chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gyfleu gwerthoedd Cymru ledled y byd. Roedd hyn yn canolbwyntio ar wrth-hiliaeth ac roedd ar gael mewn dros 50 o ieithoedd. Fel rhan o hyn, roeddem hefyd yn gallu cefnogi ymweliadau dwyochrog rhwng Cymru a Birmingham, Alabama, gan ddod â phobl ifanc at ei gilydd i ddysgu am weithredoedd ein gilydd yn erbyn anghydraddoldeb. Buom hefyd yn gweithio gydag Academi Heddwch i ddatblygu cysylltiadau rhyngwladol – fel yr un sy’n canolbwyntio ar Heddwch ac Iechyd gyda Chanolfan Taiji Norwy – gan adlewyrchu ein nod o hyrwyddo heddwch drwy bartneriaethau. Yn olaf, rydym wedi ymateb i ddiddordeb byd-eang cynyddol yn ein dull gweithredu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, gan gynnwys croesawu dirprwyaeth o Aelodau Cynulliad Deddfwriaethol Maharashtra i Gymru ar gyfer amrywiaeth o drafodaethau ynghylch sut mae’r Ddeddf yn cael ei rhoi ar waith a sut y gellid ei chopïo mewn mannau eraill.

Mae ein rhwydwaith tramor, mewn cydweithrediad â chydweithwyr yng Nghymru, yn hanfodol i’n nodau gartref a thramor. Drwy adeiladu rhwydweithiau a sefydlu cysylltiadau parhaus, rydym wedi codi ymwybyddiaeth a sicrhau dylanwad. Dyma’r flwyddyn gyntaf i’n holl swyddfeydd allu gweithredu heb gyfyngiadau Covid-19, sydd wedi caniatáu i ddigwyddiadau gael eu cynnal ar draws pob cwr o’r byd lle mae Llywodraeth Cymru yn cael ei chynrychioli.

Rydym hefyd wedi gweithio’n agos gyda Llywodraeth y DU, yr FCDO, llysgenadaethau ac uwch gomisiynau’n benodol, i sicrhau bod Cymru’n cael ei deall a’i hadlewyrchu yn ei gweithgarwch. Mae’r dull hwn yn parchu’r ffaith nad yw materion tramor wedi’u datganoli ond bod gan Lywodraeth Cymru rôl bwysig yn ein cysylltiadau rhyngwladol ag eraill – rhywbeth sydd wedi digwydd ers degawdau.

Bydd gweithgarwch y flwyddyn nesaf yn ceisio adeiladu ar yr hyn sydd wedi’i gyflawni yn ystod y flwyddyn hon, gan ganolbwyntio’n benodol ar Gymru yn India 2024 a Chymru yn Japan 2025, yn ogystal â chydnabod y cyd-destun ariannol heriol a’r ansicrwydd byd-eang parhaus.

Blaenoriaethu ymgysylltu rhyngwladol

Mae ein proffil yn codi. Fe wnaeth y pandemig dynnu sylw at ddatganoli, yn ogystal â rhai o’n dulliau arloesol. Mae llwyddiannau diwylliannol a chwaraeon wedi cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth fyd-eang o Gymru – o filiynau o bobl yn gwylio rhaglen deledu a gwybod ble mae Wrecsam i’n hymddangosiad mewn nifer o dwrnameintiau chwaraeon rhyngwladol mawr.

Canlyniad y sylw hwn fu galw digynsail am ymgysylltu rhyngwladol gartref a thramor.

Cynhaliwyd dros 100 o ymweliadau diplomyddol a rhyngwladol yng Nghymru – cynnydd yn nifer yr ymweliadau roeddem yn arfer eu cyrraedd ar gyfartaledd cyn y pandemig. Mae pob ymwelydd, a phob cynrychiolydd, wedi bod yn awyddus i ddysgu mwy am ein gwlad, ein dulliau gweithredu a’n buddsoddiad a’n cyfleoedd busnes.

Mae Gweinidogion wedi croesawu arweinwyr o’n perthnasoedd rhanbarthol â blaenoriaeth, gan gynnwys Gweinidog-Lywydd Fflandrys a Marsial Silesia. Mae Gweinidogion hefyd wedi croesawu cynrychiolwyr diplomyddol o bob cwr o’r byd, gan gynnwys Llysgenhadon Ffrainc, Sbaen, yr Almaen, yr Eidal, Japan ac UDA ac Uwch Gomisiynwyr Awstralia a Seland Newydd ymysg eraill. Mae ymgysylltu wyneb yn wyneb â phartneriaid rhyngwladol gartref neu dramor yn helpu i feithrin cysylltiadau gweithio agosach ac yn cyfleu bod ‘y berthynas hon yn bwysig’.

Sicrhawyd llawer o gyfleoedd rhyngwladol arwyddocaol eraill yn ystod y flwyddyn. Rydym wedi denu nifer o ddigwyddiadau uchel eu proffil sydd wedi dangos Cymru fel arweinydd agweddau byd-eang a gwlad allblyg. Roedd Uwchgynhadledd Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol yn Abertawe, a gynhaliwyd gan Brifysgol Abertawe a Llywodraeth Cymru, gyda’r Arlywydd Bill Clinton a’r Ysgrifennydd Hillary Clinton yn gyfle pwysig i siarad am ddylanwad byd-eang Cymru a thynnu sylw at y rhan hon o Gymru. Gwnaethom groesawu i Gaerdydd arweinwyr o bob rhan o Ewrop sy'n aelodau o Gomisiwn Arc yr Iwerydd - rhan o Gyngor Rhanbarthau Morol Ymylol yr UE (CPMR), gan ddangos ein hymrwymiad i gysylltiadau parhaus ag Ewrop.

Cynhaliwyd ymweliadau gweinidogol rhyngwladol lle’r oedd cyfleoedd i ychwanegu gwerth a blaenoriaethu ymgysylltu. Mae creu ein Cytundebau Partneriaeth Strategol gyda Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru, swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a’r Urdd wedi ychwanegu haen arall at ein hymgysylltiad â rhanddeiliaid a’n heffaith yn ystod digwyddiadau tramor. Yn ystod y flwyddyn, maent wedi bod yn bresennol mewn digwyddiadau allweddol sy’n ymestyn ein cyrhaeddiad i gynulleidfaoedd newydd ac yn helpu i hyrwyddo ein negeseuon allweddol.

Unwaith eto, mae chwaraeon wedi rhoi cyfle i gyflawni ymgysylltu lefel uchel ac effaith uchel. Teithiodd y Dirprwy Weinidog dros y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth i Baris a Bordeaux. Ymwelodd â’r Ganolfan Ddyfrol newydd ar gyfer Gemau Olympaidd Paris, gan gwrdd â’r Dirprwy Faer ar gyfer Chwaraeon, Gemau Olympaidd, Gemau Paralympaidd a Digwyddiadau Mawr i drafod y cyfleoedd a’r gwaddol y bydd Cwpan Rygbi’r Byd a Gemau Olympaidd Paris 2024 yn eu darparu ar gyfer yr ardal. Siaradodd yn nigwyddiad lansio Tackling HIV ochr yn ochr â Gareth Thomas, cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru a’r Llewod, gan fanteisio ar y cyfle i dynnu sylw at Gynllun Gweithredu HIV Llywodraeth Cymru yn ogystal ag ymweld â Musée d’Orsay i sicrhau cyfnewidfa gelf rhwng Cymru a Ffrainc.

Ymwelodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol â Lyon i gynnal rhaglen o ddigwyddiadau i hyrwyddo diwylliant Cymru ac arddangos bwyd a diod Cymreig cyn gêm Cymru yn erbyn Awstralia.

Ymwelodd y Gweinidog â Phentref Rygbi Lyon ac aeth i arddangosfa Celfyddydau Rhyngwladol Cymru o ystod amrywiol o ddoniau diwylliannol Cymru, gyda pherfformiadau gan Qwerin, côr ieuenctid yr Urdd yn Sir Gaerfyrddin, Côr Hafodwenog, a Jessica Robinson, y soprano o Gymru a gyrhaeddodd rownd derfynol BBC Canwr y Byd Caerdydd.  Cyfarfu’r Gweinidog â Phrif Swyddog Gweithredol Boccard, a agorodd ei waith cyntaf yn y DU ym Mrychdyn yn ddiweddar.

Roedd hwn yn gyfle i gadarnhau’r croeso y mae Cymru wedi’i roi i Boccard ac i ailadrodd y gefnogaeth y gall Llywodraeth Cymru ei rhoi i gwmnïau sy’n chwilio am gyfleoedd i fuddsoddi yng Nghymru. Cynhaliodd hefyd arddangosfa bwyd a diod mewn partneriaeth â Hybu Cig Cymru, Arloesi Bwyd Cymru a chwmnïau bwyd a diod Cymru.

Yn ddiweddar, cafodd Ffrainc ei henwi’n un o brif gyrchfannau allforio Cymru ar gyfer bwyd a diod, felly roedd yn gyfle i ddod â’r doniau bwyd, coginio a diwylliannol gorau o Gymru at ei gilydd yng nghartref gastronomeg Ffrainc - y Cité Internationale de la Gastronomie yn Lyon.

Teithiodd y Prif Weinidog i Baris a Nantes, a oedd yn cynnwys derbyniad yn Llysgenhadaeth Prydain ac ymweliad ag Ysgol Louise Michel Elementary gyda’r Urdd wrth iddi arddangos ei ‘Chwarae yn Gymraeg’; rhaglen sy’n cyflwyno iaith a diwylliant i blant drwy chwarae a gweithgareddau.

Roedd y tair rhaglen weinidogol, o’u dwyn ynghyd, yn rhoi llwyfan anhygoel i Gymru i dynnu sylw at fwyd, diwylliant ac iaith Cymru yn ogystal ag atgyfnerthu cysylltiadau pwysig â’n partneriaid economaidd a gwleidyddol.

Ymwelodd y Prif Weinidog â Gwlad y Basg a Silesia. Diben ei ymweliad â Silesia oedd llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth, a oedd yn nodi sut y byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i ddatblygu ein perthnasoedd drwy weithgareddau economaidd, academaidd a diwylliannol.

Llofnodwyd Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hefyd gyda gwladwriaeth Baden-Württemberg yn yr Almaen, gyda Gweinidog yr Economi yn teithio i’r Almaen i lofnodi’r cytundeb ym mis Tachwedd. Yn 2024 bydd rhagor o waith yn cael ei wneud gan dîm Llywodraeth Cymru yn yr Almaen i ddatblygu’r berthynas hon ymhellach gan ddefnyddio’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth fel sail. Teithiodd y Gweinidog i UDA hefyd, gan ymweld ag Alabama a Georgia mewn rhaglen a oedd yn canolbwyntio ar hawliau sifil ac undod.

Codi ein proffil drwy adegau allweddol

Unwaith eto, roedd Dydd Gŵyl Dewi yn ganolbwynt i waith Llywodraeth Cymru i godi proffil Cymru ar y llwyfan byd-eang. Cynhaliwyd digwyddiadau ar draws y rhwydwaith tramor, yn Llundain ac yn Llysgenadaethau Prydain, gan ddefnyddio hyn fel cyfle i dynnu sylw’r byd at gryfderau Cymru o ran y neges ‘gwneud y pethau bychain’ a sut gall y pethau bach hyn ddod at ei gilydd i gael effaith fyd-eang.   
Teithiodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i Iwerddon i gynnal derbyniad blynyddol Dydd Gŵyl Dewi, ochr yn ochr â rhaglen ehangach o ddigwyddiadau a oedd yn cynnwys cyfarfodydd gyda chwmni ymchwil clinigol o’r radd flaenaf sy’n buddsoddi yn Abertawe, a menywod sy’n arweinwyr ym maes masnach, y llywodraeth, cyrff diwylliannol a’r byd academaidd.

Dathlodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Ddydd Gŵyl Dewi ym Mumbai, ar yr un pryd â lansio blwyddyn “Cymru yn India 2024”.

Teithiodd y Prif Weinidog unwaith eto i Frwsel ar gyfer rhaglen o weithgareddau, gan gynnwys siarad mewn digwyddiad ar Ddyfodol Cymru fel Cenedl Ewropeaidd, cwrdd â Gweinidog Lywydd Fflandrys i drafod cynnydd ar y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth, cyfarfod â Wind Europe i drafod y cyfleoedd yng Nghymru ar gyfer y sector ynni gwynt a chynnal y derbyniad Dydd Gŵyl Dewi blynyddol ym Mhreswylfa Llysgennad y DU, gan ddod â gwesteion pwysig o wledydd, rhanbarthau a sefydliadau’r UE at ei gilydd.

Roedd proffil Dydd Gŵyl Dewi ar draws Gogledd America yn dal i dyfu, gyda chymorth y sylw sy'n cael ei roi i Wrecsam ar hyn o bryd. Cynhaliwyd derbyniadau Dydd Gŵyl Dewi yn Atlanta, Chicago, Efrog Newydd, Hartford, Salt Lake City, Washington DC a Montréal gyda gwesteion ar wasgar, aelodau Cabinet Unol Daleithiau America, busnesau a chyn-fyfyrwyr.  Cynhaliwyd tri digwyddiad yn Washington DC.

Y cyntaf oedd digwyddiad ar y cyd gyda’r Smithsonian yn dangos y ffilm Gymreig, Y Sŵn, fel rhan o “Gŵyl Ffilm Mamiaith” a hyrwyddo uchelgeisiau Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru; derbyniad gyda’r Dirprwy Lysgennad gyda bwyd a diod o Gymru a pherfformiad gan bedwar o gantorion Cymraeg o’r Urdd; a derbyniad ar Capitol Hill gyda Chlymblaid Cyfeillion Cymru mewn cydweithrediad â Phenderyn.

Cynhaliodd swyddfa Llywodraeth Cymru yn Los Angeles gyfres o ddigwyddiadau yn Salt Lake City, yn nodi’r berthynas hanesyddol rhwng Cymru ac Utah ac yn cynnwys digwyddiad busnes ar y cyd â llywodraeth y wladwriaeth a rhanddeiliaid Utah. Gwnaethom barhau i drafod gyda llywodraeth y dalaith y cynlluniau i ddod â cherflun o Martha Hughes Cannon (y Seneddwr Gwladwriaeth benywaidd cyntaf yn UDA, ac yn wreiddiol o Landudno) i’r Neuadd Gerfluniau Genedlaethol yn adeilad Capitol Unol Daleithiau America yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Yng Nghanada, cynhaliwyd derbyniad i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi ym Montréal gyda phresenoldeb cysylltiadau ar wasgar, y llywodraeth, busnesau a rhai diplomyddol. Yn ogystal â dathlu diwylliant a thraddodiadau Cymreig, roedd yn gyfle i drafod cyfleoedd i gydweithio â rhanddeiliaid allweddol yn y dyfodol.

Yn Dubai a Doha, trefnodd y tîm dderbyniad Dydd Gŵyl Dewi yn Llysgenadaethau Prydain lle cafodd bwyd a diod Cymru eu hyrwyddo’n helaeth.  Yn dilyn hynny, mae Hybu Cig Cymru wedi datblygu rhai posibiliadau addawol yn yr Emiraethau Arabaidd Unedig a’r Alban gyda dosbarthwyr ac archfarchnadoedd posibl ar gyfer allforio cig oen Cymru.

Roedd y digwyddiad yn Dubai hefyd yn hyrwyddo’r Gymraeg, gyda chôr ysgol rhyngwladol yn canu Hen Wlad Fy Nhadau a thair cân yn Gymraeg gan y cyfansoddwr Robat Arwyn. Cafodd y brif araith ei chyfieithu i’r Gymraeg hefyd.  Roedd y ddau ddigwyddiad yn cynnwys aelodau allweddol o’r Cymry ar wasgar, cyn-fyfyrwyr a’r gymuned fusnes leol.

Yn Tsieina, cynhaliwyd derbyniadau Dydd Gŵyl Dewi yn Shanghai, Beijing, a Wuhan, gyda phresenoldeb Llysgennad EF yn y digwyddiadau olaf yn cefnogi'r effaith.

Yn Japan, cynhaliodd y tîm gyfres o ddigwyddiadau ledled y wlad gan gynnwys derbyniad yn Oita i ddathlu 2il ben-blwydd y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Cymru ac Oita a dangoswyd nifer o brosiectau cyfnewid ar y cyd yn y celfyddydau, diwylliant, addysg, twristiaeth a busnes. Cynhaliwyd derbyniad ym Mhreswylfa’r Llysgennad yn Tokyo ar gyfer cysylltiadau busnes, Cymry ar wasgar a chyn-fyfyrwyr o bob rhan o Japan, a thynnodd sylw at ddiddordeb cynyddol yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru.

Fe wnaethom hefyd fanteisio ar y cyfle i gefnogi diwrnodau cenedlaethol a rhyngwladol eraill drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys Diwali a Dydd San Padrig yng Nghaerdydd, gan adeiladu ar ein perthnasoedd blaenoriaeth allweddol yma yng Nghymru.

Lleoliadau swyddfeydd

Mae’r rhwydwaith tramor wedi newid ychydig eleni. Er mwyn sicrhau bod ein swyddfeydd tramor yn cyd-fynd yn well â’n hamcanion, rydym wedi newid lleoliad ein swyddfa yng Ngorllewin Arfordir UDA o San Francisco i Los Angeles. Mae hyn yn rhoi mwy o fynediad at amrywiaeth o gyfleoedd masnachu a buddsoddi sy’n cyd-fynd yn llwyr â’n blaenoriaethau.

Asia

  • Beijing
  • Chongqing
  • Shanghai
  • Bangalore
  • Mumbai
  • New Delhi
  • Tokyo

Ewrop

  • Brwsel
  • Berlin
  • Düsseldorf
  • Dulyn
  • Paris
  • Llundain

Gogledd America

  • Atlanta
  • Chicago
  • Efrog Newydd
  • Los Angeles
  • Washington DC
  • Montréal

Y Dwyrain Canol

  • Doha
  • Dubai