Neidio i'r prif gynnwy

Prif bwyntiau

Caiff amcangyfrifon o gynhyrchiant llafur [troednodyn 1] eu cyfrifo drwy rannu allbwn (gwerth ychwanegol crynswth, GYC) â mesuriad o fewnbwn llafur (cyfanswm yr oriau a weithiwyd neu swyddi).

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer Cymru [troednodyn 2]

  • Roedd GYC yr awr a weithiwyd (o’i gymharu â’r DU) yn 82.7% yn 2022, cynydd o 0.8 pwynt canran dros y flwyddyn flaenorol.
  • Y ffigur hwn oedd yr isaf o’r ddeuddeg rhanbarth Lloegr a gwledydd y DU. 
  • Roedd gan Gymru gyfradd twf blynyddol cyfartalog cronnus fesul awr a weithiwyd o -0.4% rhwng 2019 a 2022. 
  • Yn 2022, roedd y GYC fesul swydd wedi’i llenwi yn 81.1% o ffigur y DU, cynydd o 1.1 pwynt canran dros y flwyddyn flaenorol.
  • Y ffigur hwn oedd yr isaf o’r ddeuddeg rhanbarth Lloegr a gwledydd y DU.
  • Dengys amcangyfrifon a gyhoeddwyd ym mis Mai 2024 fod GYC y pen (o’i gymharu â’r DU) yn 72.1%. Dyma’r GYC y pen ail isaf o’r ddeuddeg rhanbarth Lloegr a gwledydd y DU.

Amcangyfrifon is-Gymru [troednodyn 3] [troednodyn 4]

  • Powys oedd â’r GYC yr awr a weithiwyd isaf o’r holl ardaloedd yn y DU yn 2022 (63.1% o ffigur y DU), a Gwynedd, a Chonwy a Sir Ddinbych oedd â’r GYC yr awr a weithiwyd trydydd a pedwerydd isaf (69.3% a 71.1% o ffigur y DU yn y drefn honno).
  • Powys oedd â’r GYC y swydd isaf yn y DU yn 2022 (sef 61.1% o ffigur y DU).
  • Sir y Fflint a Wrecsam oedd yr ardal â’r safle uchaf yng Nghymru ar gyfer GYC yr awr a GYC y swydd (sef 95.1% a 93.6% o ffigur y DU yn y drefn honno).

Troednodiadau

[1] Ystyrir bod GYC yr awr a weithir yn ddangosydd mwy cynhwysfawr o gynhyrchiant llafur na GYC fesul swydd a lenwyd, gan ei fod yn cyfrif am wahanol oriau gwaith a sut mae'r rheini'n wahanol ar draws rhanbarthau. Sylwch fod y ddau fesur yn well i asesu cynhyrchiant na GYC y pen, sy'n cynnwys pobl nad ydynt yn y gweithlu a gall llifoedd cymudo hefyd effeithio'n sylweddol arno.

[2] Mae’r ffigurau ar lefel Cymru a ddefnyddir yn y pennawd hwn yn dod o'r tablau data cynhyrchiant rhanbarthol a gyhoeddwyd gan Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG)

[3] Daw'r amcangyfrifon is-Gymru a ddefnyddir yn y pennawd hwn o'r tablau data cynhyrchiant isranbarthol a gyhoeddir gan y SYGl ac nid oes modd eu cymharu'n uniongyrchol â data lefel Cymru o'r tablau cynhyrchiant rhanbarthol.

[4] Lefelau Tiriogaethol Rhyngwladol (ITL) yw system ddaearyddol dosbarthiad newydd y DU. Mae hyn wedi disodli y system Enwau Unedau Tiriogaethol at Ddibenion Ystadegaeth (NUTS). Mae’r ITL yn ddosbarthiad daearyddol sydd yn gwahanu y DU i ranbarthau at dair lefel wahanol (ITL 1, 2 a 3, yn y drefn hyn, yn symud o unedau bras i unedau fach). Mae amcangyfrifion Is-Gymru uchod yn cyfeirio at ITL3.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Emma Horncastle
E-bost: ystadegau.economi@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099