Neidio i'r prif gynnwy

Adran 1. Pa gamau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?

Y Cefndir

Mae'r asesiad effaith hwn yn ymwneud â Rheoliadau Drafft Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol 2020 ('y rheoliadau drafft Cydlynydd ADY') a osodwyd gerbron Senedd Cymru gyda’r nod o’u rhoi ar waith o 4 Ionawr 2021.

Mae Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 ('Deddf 2018') yn darparu ar gyfer fframwaith statudol newydd er mwyn cefnogi plant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol ('ADY’). Bydd hyn yn disodli'r ddeddfwriaeth bresennol ynghylch anghenion addysgol arbennig ('AAA') ac asesu plant a phobl ifanc ag anawsterau a/neu anableddau dysgu ('AAD') sydd mewn addysg a hyfforddiant ôl-16.

Ymhlith elfennau eraill, mae Deddf 2018 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu ysgolion a sefydliadau addysg bellach yng Nghymru ddynodi person, neu fwy nag un person, i fod yn gyfrifol am gydlynu darpariaeth ddysgu ychwanegol ('DDdY') ar gyfer disgyblion neu fyfyrwyr ag ADY. Mae Deddf 2018 yn mynd ymlaen i nodi mai'r enw ar berson a ddynodir o dan yr adran hon fydd 'Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol' ('Cydlynydd ADY').

Mae Deddf 2018 yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu sicrhau bod gan Gydlynwyr ADY gymwysterau rhagnodedig neu brofiad rhagnodedig (neu’r ddau). Mae hefyd yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru ragnodi swyddogaethau Cydlynwyr ADY mewn perthynas â darpariaeth i ddisgyblion neu fyfyrwyr (pa un bynnag sy'n berthnasol) sydd ag ADY.

Datblygu polisi

Datblygwyd y rheoliadau drafft Cydlynydd ADY yng ngoleuni'r pum ffordd o weithio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Eu bwriad yw darparu sail hirdymor i system statudol newydd i gefnogi plant a phobl ifanc ag ADY drwy ddiffinio'r cymhwyster a'r profiad sy'n ofynnol er mwyn bod yn gydlynydd ADY, a darparu'r swyddogaethau cymorth priodol sy'n ofynnol er mwyn ymgymryd â'r rôl hon yn effeithiol.

Mae gofynion y rheoliadau drafft Cydlynydd ADY yn canolbwyntio ar atal plant a phobl ifanc rhag colli cyfleoedd addysgol a'r cyfle i gyflawni eu potensial, drwy sicrhau eu bod yn cael y ddarpariaeth y mae eu ADY yn galw amdani, a hynny'n amserol ac yn effeithlon, er mwyn eu galluogi i gymryd rhan mewn dysgu ac elwa arno.

Mae'r rheoliadau drafft Cydlynydd ADY a Deddf 2018 y maent yn ei hategu yn integreiddio â'r thema allweddol 'Uchelgeisiol ac yn Dysgu' yn 'Ffyniant i Bawb' a'r amcanion llesiant o fewn y thema allweddol honno ac eraill. Maent wedi'u datblygu mewn cydweithrediad â'n partneriaid wrth gyflawni'r gofynion arfaethedig ar gyfer rôl cydlynydd ADY, gan gynnwys Grŵp Arbenigol o gynrychiolwyr o sefydliadau rhanddeiliaid allanol.

Mae Rhaglen Drawsnewid wedi’i datblygu i sicrhau bod gan ein partneriaid y gallu a'r ddealltwriaeth angenrheidiol i weithredu holl ofynion y system newydd, gan gynnwys yrheoliadau Cydlynydd ADY. Bydd hyn yn cynnwys rhaglen datblygu gweithlu Cydlynwyr ADY.

Rydym hefyd wedi cynnwys plant, pobl ifanc, a'u teuluoedd yn y gwaith o ddatblygu'r system ADY, o ystyried mai nhw yw'r rhai rydym am iddynt elwa ar y system gymorth newydd, a hynny drwy gynnal digwyddiadau ymgysylltu wedi'u targedu. Ymgynghorwyd ynghylch y rheoliadau drafft Cydlynydd ADY, ochr yn ochr â’r Cod ADY drafft (sy’n cynnwys pennod ar rôl y cydlynydd ADY yn benodol) yn ystod 2019. Roedd hyn yn cynnwys pedwar digwyddiad rhanbarthol ledled Cymru a drefnwyd gan Lywodraeth Cymru a gweithdai ymgysylltu i blant, pobl ifanc a rhieni. Roedd un o themâu gweithdai’r digwyddiadau rhanbarthol yn ymwneud â rôl y cydlynydd ADY.

Effaith

Bwriad y gofynion a gynigir yn y rheoliadau drafft Cydlynydd ADY yw sicrhau bod anghenion plant a phobl ifanc ag ADY yn cael eu hadnabod yn gynnar a'u bod yn cael DDdY briodol drwy gydlynu darpariaeth o'r fath yn effeithiol. Nod y rheoliadau drafft Cydlynydd ADY yw ategu un o brif amcanion Deddf 2018: creu system sy'n arwain at ymyriadau cynnar, amserol ac effeithiol ar gyfer plant a phobl ifanc ag ADY.

Mae'r rheoliadau drafft Cydlynydd ADY wedi'u datblygu yng nghyd-destun gweithredu rôl anstatudol bresennol y cydlynydd anghenion addysgol arbennig (cydlynydd AAA). Mae hyn yn cynnwys deall manteision a heriau sut caiff y rôl honno ei gweithredu ar hyn o bryd, drwy wrando ar gydlynwyr AAA presennol a'r rheini sy'n gweithio gyda nhw.

Nod y cynigion yn y rheoliadau drafft Cydlynydd ADY yw sicrhau y caiff rôl y cydlynydd ADY newydd ei chyflawni gan unigolion cymwys (hy athrawon cymwys neu gydlynwyr AAA profiadol). Nod arall yw sicrhau bod gan gydlynwyr ADY a'r rheini sy'n gweithio gyda nhw ddealltwriaeth glir o berthnasedd a phwysigrwydd y rôl yng nghyd-destun y system ADY newydd. Y bwriad yw codi safonau o fewn y gweithlu addysg sy'n darparu cymorth i ddysgwyr ag ADY a helpu i sicrhau dull cyson o gydlynu DDdY.

Y goblygiadau ariannol

Cafodd goblygiadau ariannol y system newydd a gyflwynwyd o dan Ddeddf 2018 a'r is- ddeddfwriaeth ddilynol eu disgrifio yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol a oedd yn cyd-fynd â Deddf 2018. Mae Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer y rheoliadau drafft Cydlynydd ADY wedi ei gyhoeddi ochr yn ochr â’r rheoliadau drafft Cydlynydd ADY i'w cymeradwyo gan Senedd Cymru.

Dull cyflawni

Bydd y Cod ADY yn darparu'r arweiniad cynhwysfawr angenrheidiol i gyrff cyhoeddus ar eu swyddogaethau statudol mewn perthynas ag ADY, gan gynnwys y rheini a amlinellir yn y rheoliadau drafft Cydlynydd ADY. Cyhoeddwyd drafft o’r Cod ADY at ddiben ymgynghoriar 18 Rhagfyr 2018 tan 23 Mawrth 2019. Mae Pennod 24 o'r Cod ADY drafft yn disgrifio'r gofynion rheoleiddiol arfaethedig mewn perthynas â chydlynwyr ADY. Mae'r Cod ADY drafft yn nodi y gallai fod yn briodol weithiau i rai lleoliadau rannu cydlynydd ADY. Gallai hyn fod yn berthnasol, er enghraifft, lle mae meithrinfa a gynhelir yn rhan o ysgol brif ffrwd; lle mae yna nifer o leoliadau bach mewn ardal leol; neu os oes ffederasiwn o ysgolion yn cael ei reoli gan un corff llywodraethu. Nid oes disgwyl i leoliadau mawr, fel sefydliadau addysg bellach, rannu cydlynydd ADY. Disgwylir i’r Cod ADY terfynol gael ei gyhoeddi yn 2021.

Section 7: I gloi

7.1 Sut y mae pobl y mae'r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt wedi'u cynnwys yn y gwaith o'i ddatblygu?

Wrth ddatblygu'r cynigion hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori â grŵp arbenigol o randdeiliaid allweddol sydd wedi'i greu'n benodol i drafod rôl y cydlynydd ADY. Mae'r grŵp wedi llywio'r polisi drwy amlinellu heriau presennol rôl anstatudol cydlynwyr AAA sy'n gweithredu o dan y system AAA bresennol, a rhoi cyngor ar welliannau y gellid eu hymgorffori i ddatblygu rôl y cydlynydd ADY.

Yn fwy cyffredinol, mae'r system ADY newydd wedi bod yn destun ymgynghoriad helaeth â nifer o randdeiliaid, gan gynnwys:

  •  plant
  •  pobl ifanc a'u teuluoedd
  •  cydlynwyr AAA ac ymarferwyr eraill o ysgolion
  •  sefydliadau addysg bellach ac awdurdodau lleol
  •  Estyn
  • Comisiynydd Plant
  • Comisiynydd y Gymraeg
  • trydydd sector ac eraill

Mae dwy fersiwn flaenorol o'r Cod ADY drafft wedi'u cyhoeddi fel rhan o'r broses o ddatblygu Deddf 2018 ac maent wedi bod yn destun craffu cyhoeddus, gan roi cyfle i bobl wneud sylwadau. Aethpwyd ati wedyn i ymgynghori’n ffurfiol ar y Cod ADY drafft a’r rheoliadau drafft Cydlynydd ADY, fel y nodir uchod.

7.2 Beth yw'r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf sylweddol?

Effaith fwyaf sylweddol y rheoliadau arfaethedig fydd cyfrannu at godi safonau wrth gydlynu DDdY i blant a phobl ifanc ag ADY. Byddant yn gwneud hynny drwy sicrhau y caiff rôl newydd y CADY ei chyflawni gan unigolion cymwys (hy athrawon cymwys neu gydlynwyr AAA profiadol) y mae'n ofynnol iddynt fynd ati i gydlynu DDdY mewn ffordd gyson, beth bynnag yw'r lleoliad addysg. Dylai hyn arwain at welliant yn y ffordd y caiff DDdY ei chynllunio a'i chyflwyno i blant a phobl ifanc.

Mae'r cynigion hyn a'r gwelliannau y byddant yn eu sicrhau o ran y cymorth a roddir i blant ag ADY yn ymwneud yn uniongyrchol â'r thema allweddol 'Uchelgeisiol ac yn Dysgu' yn 'Ffyniant i Bawb' a'r amcanion llesiant o fewn y thema allweddol honno ac eraill. Maent hefyd yn ymwneud â nifer o'r nodau llesiant a amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, yn enwedig y ffordd y maent yn cyfrannu at Gymru fwy ffyniannus (drwy alluogi pob dysgwr ag ADY i gyrraedd ei botensial addysgol ac felly i fod mewn sefyllfa well i gyfrannu'n economaidd); a Chymru gyfartal (drwy sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu elwa ar addysg mewn ffordd decach).

Nid ydym yn ymwybodol o effeithiau negyddol yn sgil y rheoliadau hyn. Eu nod yw gwella mynediad a darpariaeth i rai o’r plant a’r bobl ifanc hynny sydd fwyaf agored i niwed a’r rhai mwyaf difreintiedig yn ein system addysg yng Nghymru.

7.3 Yn sgil yr effeithiau a nodwyd, sut y bydd y cynnig:

  • yn sicrhau'r cyfraniad mwyaf posibl at ein hamcanion llesiant a'r saith nod llesiant

  • yn osgoi, yn lleihau neu'n lliniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Fel y nodwyd uchod, bydd y rheoliadau eu hunain yn cyfrannu at amcanion llesiant a saith nod llesiant Llywodraeth Cymru, yn benodol Cymru uchelgeisiol ac sy’n dysgu; ffyniannus; fwy cyfartal.

Bydd trosglwyddo i'r system ADY a'i gweithredu, gan gynnwys y gofynion sydd yn y rheoliadau Cydlynydd ADY arfaethedig, yn gofyn am dipyn o waith paratoi gan ysgolion a sefydliadau addysg bellach yn arbennig. Er mwyn gwneud y gwaith paratoi hwn yn bosibl; sicrhau effeithiau cadarnhaol mwyaf posibl y gofynion rheoleiddiol arfaethedig; a lleihau unrhyw effeithiau niweidiol a allai godi, mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Rhaglen Drawsnewid gynhwysfawr gan gynnwys pecyn buddsoddi gwerth £20 miliwn. Mae hyn yn cynnwys rhaglen i hyfforddi a datblygu cydlynwyr ADY fel rhan o Raglen Dysgu Proffesiynol Genedlaethol ADY. Bydd y rhaglen, sy’n cael ei datblygu ar hyn o bryd, yn cefnogi ymarferwyr i newid sut y byddwn yn cefnogi dysgwyr sydd ag ADY. Mae Llywodraeth Cymru wedi neilltuo £3.909 million i weithredu’r rhaglen hon.

7.4 Sut y caiff effaith y cynnig ei monitro a'i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo ac ar ôl iddo gael ei gwblhau?

Mae Llywodraeth Cymru wedi penodi pum Arweinydd Trawsnewid ADY, ac mae eu rôl yn cynnwys monitro ac adolygu'r trefniadau gweithredu yn ystod y cyfnod trosglwyddo, gan gynnwys gweithredu rôl y cydlynydd ADY.

Bydd adolygiad ar ôl gweithredu yn rhan o fodel monitro a gwerthuso cyffredinol Llywodraeth Cymru, a fydd yn ystyried y broses weithredu fesul cam, yn benodol:

  • parodrwydd, i asesu i ba raddau y mae’r gweithredwyr yn barod ar gyfer y newidiadau;
  • cydymffurfio, i fonitro pa mor effeithiol y mae sefydliadau yn dilyn y gofynion deddfwriaethol newydd unwaith y byddant yn weithredol
  • effaith, i werthuso i ba raddau y mae’r newidiadau deddfwriaethol a’r newidiadau polisi ehangach yn cael eu sefydlu ac yn effeithio ar y canlyniadau i ddysgwyr

Bydd y dull hwn o fonitro cydymffurfiaeth a gwerthuso effaith yn yn cael ei gefnogi ymhellach trwy drefniadau archwilio ac adolygu parhaus dan arweiniad Estyn.