Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae a wnelo'r Asesiad Effaith Integredig hwn â'r offeryn statudol drafft canlynol:

“Rheoliadau Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (Diwygio Atodlen 5) 2024”.

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa'r Cabinet yn gosod yr OS drafft gerbron y Senedd ar 18 Mehefin 2024, cyn ceisio cymeradwyaeth y Senedd i'w wneud mewn sesiwn lawn ym mis Gorffennaf 2024.

Mae'r offeryn statudol drafft (OS) yn cynnig diwygiadau i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017, er mwyn estyn y cyfnodau ad-dalu ac eithrio ar gyfer cyfraddau preswyl uwch y dreth trafodiadau tir (TTT), o dan amgylchiadau penodedig.

Caiff yr OS drafft ei osod gerbron y Senedd ynghyd â'r Asesiad Effaith Integredig hwn a'r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig, sy'n cynnwys yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol.

Bydd y dogfennau ar gael yma:

Roedd yr OS drafft hwn yn destun ymgynghoriad hwn rhwng 19 Rhagfyr 2023 a 17 Mawrth 2024. Mae'r ddogfen ymgynghori ar gael yma: Cyfraddau Preswyl Uwch y Dreth Trafodiadau Tir: cynnig i newid y rheolau ynglyn ag ad-dalu ac eithrio (noder: cafodd mân ddiwygiadau ar ôl ymgynghori eu gwneud i'r OS drafft a gyhoeddwyd ar gyfer yr ymgynghoriad, er mwyn cywiro gwallau typograffyddol a gwallau drafftio eraill).

O ran yr Asesiad Effaith Integredig, nododd y ddogfen ymgynghori:

“Ar ôl y cyfnod ymgynghori, bydd Asesiad Effaith Integredig yn cael ei gyhoeddi a'i osod gerbron y Senedd ochr yn ochr â'r Offeryn Statudol drafft, y Memorandwm Esboniadol drafft a'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol drafft. Bydd yr Asesiad Effaith Integredig yn egluro sut mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried effaith bosibl ehangach y newidiadau arfaethedig i'r rheolau, o ran lles cymdeithasol, diwylliannol, economaidd ac amgylcheddol, anfantais economaidd-gymdeithasol a'r Gymraeg. Mae'r ddogfen ymgynghori hon yn gofyn cwestiynau am y cynigion. Mae gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb yn atebion y cyhoedd i'r cwestiynau hyn yn benodol, ond mae'n croesawu pob sylw ynglŷn â'r newidiadau.”

Datblygwyd yr Asesiad Effaith Integredig yn dilyn yr ymgynghoriad er mwyn sicrhau ei fod yn adlewyrchu'r safbwyntiau a gafwyd yn yr ymatebion i'r ymgynghoriad. Dylid ystyried yr Asesiad Effaith Integredig ochr yn ochr â'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol.

Gellir darllen adroddiad Llywodraeth Cymru ar yr ymgynghoriad cyhoeddus yma.

Diben ac effaith y ddeddfwriaeth

Bydd y newid deddfwriaethol yn caniatáu i brynwyr tai gael estyniadau i'r cyfnodau ad-dalu ac eithrio ar gyfer cyfraddau preswyl uwch TTT, pan fo trafodiadau wedi cael eu rhwystro neu eu hatal ac, felly, eu gohirio, am resymau sy'n ymwneud â diffygion diogelwch tân neu gyfyngiadau brys. (Mae'r Memorandwm Esboniadol yn rhoi esboniad manylach.)

Mae'r cyfnodau ad-dalu ac eithrio, sydd wedi'u cyfyngu ar hyn o bryd i dair blynedd yn dilyn trafodiadau perthnasol, yn fuddiol i brynwyr tai sy'n ceisio pontio rhwng cartrefi. Yn y rhan fwyaf o achosion, ystyrir bod tair blynedd yn gyfnod digonol. Nododd gweithwyr trethi proffesiynol yr ymgynghorwyd â nhw yn ystod ymgynghoriad Treth Dir y Dreth Stamp ynghylch y cynnig i gyflwyno cyfraddau uwch Treth Dir y Dreth Stamp yn ystod gaeaf 2015-2016, ac ar gyfer TTT yn ystod haf/hydref 2016, eu bod o'r farn bod tair blynedd yn gyfnod digonol i werthu, neu brynu, annedd yn y rhan fwyaf o achosion. Bydd y rheolau newydd yn cynnig hyblygrwydd ychwanegol i'r rhai y mae'r amgylchiadau sylweddol ac anffodus penodedig a all olygu bod tair blynedd yn gyfnod rhy fyr yn eu hachosion nhw, wedi effeithio arnynt. 

Mae'r cynnig yn cefnogi'r ymrwymiad canlynol yn Rhaglen Lywodraethu 2021-2026 :

  • Datblygu mesurau treth, cynllunio a thai effeithiol pellach i sicrhau bod buddiannau pobl leol yn cael eu gwarchod.

Effaith a'r dull cymesur

Yn unol ag arfer Llywodraeth Cymru, mabwysiadwyd dull cymesur o ymdrin â'r Asesiad Effaith Integredig hwn. Ystyrir:

  • Y bydd y rheolau treth newydd newydd yn gwella triniaeth dreth ar gyfer prynwyr tai ym mhob rhan o Gymru,
  • y bydd nifer cymharol fach o drethdalwyr yn eu cael eu hunain mewn amgylchiadau lle y bydd angen iddynt ddefnyddio'r rheolau newydd ac, felly, gael budd ohonynt,
  • y disgwylir i'r rheolau newydd gael effaith fuddiol, yn y nifer cyfyngedig o amgylchiadau a ddisgrifir, heb unrhyw effaith anfanteisiol ar y trethdalwyr hynny sy'n eu defnyddio, nac ar unrhyw un arall.

Adran 1: Pa gamau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?

Ar hyn o bryd, codir cyfraddau preswyl uwch y dreth trafodiadau tir (TTT) ar drafodiadau eiddo preswyl sy'n costio £40,000 neu fwy, pan fydd y prynwyr tai yn berchen ar fuddiant mewn un neu ragor o eiddo preswyl eraill (annedd/anheddau) sy'n werth mwy na £40,000. Gall ad-daliadau ac eithriadau fod yn gymwys o dan amgylchiadau penodol, ond mae'r cyfnod y maent yn gymwys iddo wedi'i gyfyngu i dair blynedd o ddyddiad prynu'r cartref newydd neu werthu'r cyn gartref, lle bo hynny'n berthnasol.

Mae ad-daliadau ac eithriadau yn gymwys yn y ddwy senario a ddisgrifir isod, fel arfer sefyllfaoedd pan fo prynwyr tai yn symud rhwng dau gartref (symud rhwng unig neu brif gyn breswylfa ac unig neu brif breswylfa newydd).

  1. Ad-daliadau – Trafodiadau Prynu Cyn Gwerthu. Mae senario prynu cyn gwerthu yn disgrifio sefyllfa lle mae trethdalwr yn prynu unig neu brif breswylfa newydd pan fydd yn dal i fod yn meddu ar ei unig neu ei brif gyn breswylfa. Mewn senario pryn cyn gwerthu, bydd trethdalwr yn talu cyfradd breswyl uwch TTT ar bryniant yr annedd newydd hon, a chaiff wneud cais yn ddiweddarach am ad-daliad rhannol o TTT (Yma, mae ‘elfen cyfraddau preswyl uwch’ yn cyfeirio at y gwahaniaeth rhwng y tâl cyfradd breswyl uwch a'r tâl prif gyfradd breswyl), ad-daliad o'r elfen cyfraddau preswyl uwch a godir fel arfer ar adeg prynu'r annedd newydd [troednodyn 1], a godir fel arfer ar adeg prynu'r annedd newydd.

    Caiff y trethdalwr wneud cais am ad-daliad rhannol o TTT (ad-daliad o elfen cyfraddau preswyl uwch y tâl treth gwreiddiol) unrhyw bryd yn ystod y tair blynedd ar ôl prynu'r cartref newydd, ond dim ond ar ôl iddo werthu'r unig neu'r brif gyn breswylfa. Daw'r hawl i wneud cais am yr ad-daliad rhannol i ben dair blynedd ar ôl prynu'r cartref newydd.
  2. Eithriadau – Trafodiadau Gwerthu Cyn Prynu. Mae senario gwerthu cyn prynu yn disgrifio sefyllfa lle mae trethdalwr yn gwerthu ei unig neu ei brif breswylfa cyn prynu unig neu brif breswylfa newydd, ond lle y gall hefyd fod yn berchen ar fuddiant mewn annedd arall. Mewn senario gwerthu cyn prynu, caiff trethdalwr elwa ar eithriad rhag yr atebolrwydd i dalu cyfraddau preswyl uwch TTT pan fydd yn prynu ei unig neu ei brif breswylfa newydd, am hyd at dair blynedd o'r dyddiad y mae'n gwerthu ei unig neu ei brif gyn breswylfa

Dim ond os bydd y trethdalwr yn prynu'r unig neu'r brif breswylfa newydd o fewn tair blynedd i werthu'r unig neu'r brif gyn breswylfa y mae'r eithriad hwn rhag atebolrwydd yn gymwys. Unwaith y bydd tair blynedd wedi mynd heibio ers gwerthu'r unig neu'r brif gyn breswylfa, daw'r rheol eithrio i ben a rhaid iddo dalu cyfraddau preswyl uwch TTT ar y pryniant newydd.

Ers i'r ddeddfwriaeth sy'n rheoli Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 gael ei phasio yn 2017, mae amgylchiadau andwyol penodol wedi codi sy'n golygu y gall rhai trafodiadau gael eu rhwystro neu eu hatal ac, felly, eu gohirio, i'r graddau bod y cyfnod ad-dalu ac eithrio o dair blynedd yn rhy fyr.

Yr amgylchiadau andwyol penodol dan swyl yw'r rhai lle mae gwerthiant unig neu brif gyn breswylfa:

  1. Wedi'i rwystro gan ddiffygion diogelwch tân, neu
  2. Wedi'i atal gan gyfyngiadau brys

O ran y Pum Ffordd o Weithio a ddisgrifir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015:

  • bwriedir i hwn fod yn fesur hirdymor a fydd yn rhoi cymorth uningyrchol i brynwyr tai y mae diffygion diogelwch tân eisoes wedi effeithio arnynt (Hirydmor)
  • wrth fynd i'r afael â gwendid yn y rheolau treth presennol, bydd y rheolau treth newydd hefyd yn atal anhawsterau i brynwyr tai rhag codi eto, pan fydd oedi i'r categori penodol o drafodiadau yn effeithio arnynt pan fydd diffygion diogelwch tân a/neu gyfyngiadau brys yn effeithio arnynt (Atal)
  • bydd y rheolau newydd yn helpu prynwyr tai i bontio o dan amgylchiadau heriol, gan gefnogi polisïau tai Llywodraeth Cymru (Integreidido)
  • roedd y cynnig ar gyfer newid a'r OS drafft yn destun ymgynghoriad cyhoeddus rhwng 19 Rhagfyr 2023 a 17 Mawrth 2024, ac mae mewnbwn gan y rhai a ymatebodd wedi gwella'r ffordd y mae'r polisi a'r newid arfaethedig yn cael eu hesbonio a'u cyflwyno (Cyfweithio a Chynnwys).

Costau a manteision

Disgwylir i'r rheolau newydd ddarparu ad-daliadau a/neu eithriad rhag yr atebolrwydd i dalu i drethdalwyr o dan amgylchiadau penodol. Disgwylir i'r rheolau newydd atal trethdalwyr rhag mynd i gostau ychwanegol o dan yr amgylchiadau penodedig.

Er y byddai ad-daliadau o TTT fel arfer yn effeithio ar refeniw a ddaw i Lywodraeth Cymru yn y rhan fwyaf o achosion, o ran yr ad-daliadau a ddarperir yn yr achos hwn, digwylir i'r costau i Lywodraeth Cymru fod yn isel iawn. Rhagwelir y caiff grant bloc Cymru ei addasu wrth i ad-daliadau gael eu darparu yn Lloegr a Gogledd Iwerddon drwy'r estyniad ‘amgylchiadau eithriadol’ i gyfnod Treth Dir y Dreth Stamp, sef tair blynedd.

O ran yr estyniad i hawl trethdalwyr i wneud cais am eithriad rhag yr atebolrwydd i dalu cyfraddau preswyl uwch TTT o dan amgylchiadau penodol, gallai'r rheolau newydd roi mwy o hyblygrwydd a lleihau costau i drethdalwyr.

Ni ddisgwylir i gostau gweinyddol i Lywodraeth Cymru gynyddu o ganlyniad i'r rheolau newydd. Mae Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) yn disgwyl bydd y nifer o hawliadau yn isel, a bydd y gwaith i'w gweinyddu yn cael ei gymhwyso o fewn y fframwaith gweithredol presennol a'r dull gweithredu ar gyfer hawliadau.

Am ragor o fanylion am gostau a manteision, gweler yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol.

Adran 2: Beth fydd yr effaith ar lesiant cymdeithasol?

Mae'n bosibl y bydd y newidiadau arfaethedig yn cael rhai effeithiau cadarnhaol ar lesiant rhai prynwyr tai (ac eraill sy'n elwa oherwydd y manteision a ddaw i ran y prynwyr tai hynny), y codwyd cyfraddau preswyl uwch TTT arnynt, neu y byddent yn cael eu codi arnynt fel arall oherwydd diffygion diogelwch tân heb eu hunioni a/neu gyfyngiadau brys. 

Bydd nifer cymharol fach o drethdalwyr yn eu cael eu hunain mewn amgylchiadau lle y bydd angen iddynt ddefnyddio'r rheolau newydd ac, felly, gael budd ohonynt. Disgwylir i'r rheolau gael effaith fuddiol, mewn nifer cyfyngedig o amgylchiadaur, heb unrhyw effaith anfanteisiol ar y trethdalwyr hynny sy'n eu defnyddio, nac ar unrhyw un arall.

2.1 Pobl a Chymunedau

Bydd y rheolau newydd yn ei gwneud yn bosibl i dai gael eu prynu gan nifer cymharol fach o drethdalwyr nad oeddent yn gallu prynu tai yn flaenorol neu'n gwneud y broses o brynu tŷ yn llai costus iddynt.

2.2 Hawliau Plant

Gweler yr Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant yn Atodiad A. Gallai'r newidiadau hyn ddod â rhai manteision i rai plant.

2.3 Cydraddoldeb

Gweler yr Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb yn Atodiad B. Nid oes unrhyw effeithiau gwahaniaethol ar gydraddoldeb. 

2.4 Prawfesur Gwledig

Nid oes angen Asesiad Effaith Prawfesur Gwledig am fod disgwyl i'r cynnig hwn gael effeithau buddiol ar gyfer nifer bach o drethdalwyr cymwys ledled Cymru, heb ddod â manteision gwahanol i drethdalwyr gwledig a threthdalwyr trefol.

2.5 Iechyd

Nid oes angen Asesiad o'r Effaith ar Iechyd gan na fydd y newidiadau arfaethedig yn cael effeithiau gwahaniaethol ar iechyd grwpiau penodol. Bydd Awdurdod Cyllid Cymru yn cyhoeddi canllawiau yn esbonio'r newidiadau mewn fformatau hygyrch, er mwyn cefnogi'r rhai y mae cyfathrebu yn peri anawsterau iddynt oherwydd problemau iechyd.

2.6 Preifatrwydd

Nid oes angen Asesiad o'r Effaith ar Ddiogelu Data gan nad yw'r cynnig yn cynnwys ffyrdd newydd o broseu gwybodaeth.

Adran 3. Beth fydd yr effaith ar lesiant diwylliannol a'r Gymraeg?

3.1 Llesiant Diwylliannol

Ni ddisgwylir i'r newid arfaethedig effeithio ar weithgarwch i hyrwyddo a diogelu diwylliant a threftadaeth nac ar allu pobl i gymryd rhan yn y celfyddydau ac mewn chwaraeon a gweithgareddau hamdden.

3.2 Y Gymraeg

Ni ddisgwylir i'r newid arfaethedig effeithio ar y Gymraeg. Gweler yr Asesiad o'r Effaith ar y Gymraeg isod.

Adran 4. Beth fydd yr effaith ar lesiant economaidd?

4.1 Busnes, y cyhoedd ac unigolion

Efallai y bydd y rheolau newydd yn gwella llesiant economaidd nifer cymharol fach o drethdalwyr a fydd yn elwa'n uniongyrchol ar y rheolau newydd arfaethedig. Mae'n bosibl y byddant yn dod â manteision economaidd anuniongyrchol i eraill sy'n dibynnu ar lesiant economaidd y trethdalwyr hynny, megis y rhai sy'n darparu nwyddau a gwasanaethau yn yr economi ehangach, neu eraill a fydd yn elwa'n anuniongyrchol ar y trethdalwyr a fydd yn elwa'n uniongyrchol ar y rheolau newydd.

Ni ddisgwylir i'r cynigion roi'r rhai sy'n ymwneud ag agweddau masnachol ar drafodiadau eiddo, megis asiantau eiddo, trawsgludwyr a chyfreithwyr, o dan anfantais.

4.2 Y sector cyhoeddus gan gynnwys llywodraeth leol a chyrff cyhoeddus eraill

Ni ragwelir unrhyw effaith wahaniaethol ar y sector cyhoeddus.

4.3 Y Trydydd Sector

Ni ragwelir unrhyw effaith wahaniaethol ar y trydydd sector.

4.4 Yr Effaith ar Gyfiawnder

Mae effaith fach yn bosibl. Gweler yr Asesiad o'r Effaith ar Gyfiawnder yn Atodiad F isod.

Adran 5: Llesiant amgylcheddol

5.1 Ni ddisgwylir i'r rheolau newydd effeithio ar lesiant amgylcheddol. Gweler yr Asesiad o'r Effaith ar Fioamrywiaeth yn Atodiad G.

5.2 Nid oes angen yr asesiadau canlynol gan na fydd y rheolau newydd hyn yn effeithio ar y materion y maent yn ymdrin â nhw: Asesiad Amgylcheddol Strategol, Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd, Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol.

Adran 6. Y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol – beth fydd yr effaith ar anfantais economaidd-gymdeithasol?

6.1 Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar yr OS drafft a'r cynigion cysylltiedig rhwng 19 Rhagfyr 2023 a 17 Mawrth 2024. Mae'r ddogfen ymgynghori dogfen ymgynghori ac adroddiad Llywodraeth Cymru ar yr ymatebion i'r ymgynghoriad ar gael yma.

6.2 Dangosodd yr ymatebion i'r ymgynghoriad fod cryn dipyn o gefnogaeth i gynigion Llywodraeth Cymru.

6.3 Bydd y rheolau newydd yn ei gwneud yn bosibl i dai gael eu prynu gan nifer cymharol fach o drethdalwyr nad oeddent yn gallu prynu tai yn flaenorol neu'n gwneud y broses o brynu tŷ yn llai costus iddynt. Gallai hyn gael effaith gadarnhaol ar anfantais economaidd-gymdeithasol.

Adran 7: Asesiadau effaith

Atodiad A: Hawliau plant
Atodiad B: Cydraddoldeb
Atodiad C: Y Gymraeg
Atodiad D: Bioamrywiaeth
Atodiad E: Y Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol
Atodiad F: Cyfiawnder
Asesiad Effaith Rheoleiddiol

Adran 8: Casgliad

Mae Llywodraeth Cymru o'r farn, fel y nodir yn yr Asesiad Effaith Integredig hwn, y gallai rheolau treth gwell a gyflwynir gan yr OS “Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (Diwygio Atodlen 5) 2024” ddod â manteision i nifer cymharol fach o drethfalwyr, mewn nifer cyfyngedig o amgylchiadau, heb effaith anfanteisiol ar eraill.

Atodiadau

1. Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant

Bydd y rheolau newydd yn ymestyn hawliau trethdalwyr mewn perthynas â nifer bach o drafodiadau eiddo. Efallai y bydd y rheolau newydd yn dod â manteision i blant os byddant yn dod yn drethdalwyr o ganlyniad i brynu eiddo o dan yr amgylchiadau penodedig, neu efallai y byddant yn dod â manteision anuniongyrchol i blant yr unigolion hynny sy'n gyfrifol amdanynt. Efallai y caiff manteision eu profi yng nghyd-destun yr hawliau plant isod:

Confensiwn y Cenhedloedd ar Hawliau'r Plentyn: Erthygl 9

Ni ddylid gwahanu plant oddi wrth eu rhieni onid yw hyn er eu lles nhw’u hunain, er enghraifft os yw rhiant yn cam-drin neu’n esgeuluso plentyn. Mae gan blant y mae eu rhieni wedi gwahanu hawl i gadw mewn cyswllt â’r ddau riant, oni fyddai hyn yn niweidio’r plentyn.

Confensiwn y Cenhedloedd ar Hawliau'r Plentyn: Erthygl 19

Dylai llywodraethau sicrhau bod plant yn cael gofal priodol a'u hamddiffyn rhag trais, camdriniaeth ac esgeulustod gan eu rhieni neu unrhyw un arall sy'n gofalu amdanynt.

Esboniad

Gallai ymestyn hawliau trethdalwyr i hawlio ad-daliadau a/neu estyniadau i'r atebolrwydd i dalu cyfraddau preswyl uwch TTT yn ei gwneud yn haws i deuluoedd symud rhwng cartrefi, gan gefnogi bywyd teuluol a hawliau plant.

B. Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb

  1. Ni ddisgwylir i'r rheolau newydd gael unrhyw effaith wahaniaethol ar unrhyw bobl â nodweddion gwarchodedig fel y'u disgrifir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
  2. Bydd Awdurdod Cyllid Cymru yn sefydlu ac yn darparu gwasanaeth mewn perthynas â nodweddion gwarchodedig.
  3. Bydd Awdurdod Cyllid Cymru yn monitro materion sy'n ymwneud â defnyddio ei wasanaethau ac yn adrodd arnynt.
  4. Ni ddisgwylir i'r rheolau newydd gael unrhyw effaith wahaniaethol ar hawliau dynol, Confensiynau'r Cenhedloedd Unedig, hawliau dinasyddion yr UE/AEE a'r Swistir, hawliau preswylio, cydnabod cymwysterau proffesiynol yn gilyddol, mynediad at systemau nawdd cymdeithasol na hawliau gweithwyr.

C. Asesiad o'r Effaith ar y Gymraeg

  1. Ni ddisgwylir i'r rheolau newydd gael effaith wahaniaethol ar y Gymraeg.
  2. Awdurdod Cyllid Cymru yw'r corff sy'n gyfrifol am roi gwybod i drethdalwyr am y ffordd y mae trethi datganoledig yn cael eu gweithredu. Mae'n ofynnol i Awdurdod Cyllid Cymru gydymffurfio â safonau'r Gymraeg a thrin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal. Bydd cyflwyno'r rheolau newydd yn gyfle i ailddatgan yr arfer hon a sicrhau y gall trethdalwyr yng Nghymru barhau i gyfathrebu yn y ddwy iaith ynghylch eu materion treth.

D. Asesiad o'r Effaith ar Fioamrywiaeth

Ni ddisgwylir i'r rheolau newydd gael effaith wahaniaethol ar Fioamrywiaeth.

E. Asesiad o'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol

  1. Bydd y rheolau treth newydd yn gymwys yn yr un modd i bob trethdalwr cymwys, waeth beth fo'i amgylchiadau economaidd-gymdeithasol.
  2. Rhagwelir y gallai'r manteision a sicheir gan y rheolau newydd fod yn fwy gwerthfawr i'r rhai sydd o dan anfantais economaidd-gymdeithasol. Fodd bynnag, gan fod disgwyl hefyd i nifer y trethdalwyr a allai gael budd o'r rheolau newydd fod yn gymharol fach, ni fydd yn bosibl monitro effaith y rheolau newydd o ran eu heffaith economaidd-gymdeithasol. Ni ddisgwylir i'r rheolau newydd gael unrhyw effaith economaidd-gymdeithasol anfanteisiol.

E. Asesiad o'r Effaith ar Gyfiawnder

  1.  Ystyrir y gallai'r rheolau newydd gael effaith fach ar y system gyfiawnder.
  2. Er y bydd y rheolau newydd yn ymestyn hawliau i rai trethdalwyr, gallent hefyd arwain at geisiadau am ad-daliadau a fydd yn aflwyddiannus yn y pen draw a/neu hunanasesiadau a fydd yn destun anghydfod rhwng y trethdalwr ac Awdurdod Cyllid Cymru. O blith y niferoedd bach hyn, gallai cyfran ddod gerbron y tribiwnlys trethi haen gyntaf yn y pen draw. Byddai costau gweinyddol yn gysylltiedig â chamau o'r fath, gan gynnwys, o bosibl, rywfaint o gost i drethdalwyr a fyddai'n gysylltiedig â chyflwyno apeliadau.
  3. Rhagwelwn na fydd y rheolau newydd yn cael fawr ddim effaith ar y Tribiwnlys (Trethi) Haen Gyntaf, os o gwbl, a hynny am bedwar rheswm:
    1. bydd y diwygiadau i TTT yn nodi'n glir iawn y terfynau i hawliau trethdalwyr o ran ad-daliadau ac eithriadau, gan sicrhau bod y gyfraith mor glir â phosibl ac nad oes gan Awdurdod Cyllid Cymru fawr ddim disgresiwn wrth wneud penderfyniadau a bod cyn lleied o amrywiad â phosibl mewn canlyniadau
    2. bydd mesurau sefydledig i ddatrys anghydfodau trethdalwyr ynghylch hawliadau aflwyddiannus yn parhau i fod ar waith, gan gynnwys yr hawl i adolygiad cychwynnol gan Awdurdod Cyllid Cymru a chyfeirio at wasanaethau Datrys Anghydfodau Amgen, lle y bo'n briodol
    3. Bydd Awdurdod Cyllid Cymru yn cynnal gweithgarwch addysgu a chodi ymwybyddiaeth ynghylch y diwygiadau i TTT a'r defnydd o hawliau trethdalwyr i apelio, gyda threthdalwyr a chynrychiolwyr
    4. ar sail yr uchod, ac amcangyfrif Awdurdod Cyllid Cymru y bydd nifer yr hawliadau llwyddiannus sy'n ymwneud â'r rheolau newydd yn cyfateb i 50 neu lai dros sawl blwyddyn, rhagwelir na fydd yr un apêl yn cyrraedd y Tribiwnlys neu y bydd nifer yr apeliadau sy'n ei gyrraedd yn fach iawn.

Troednodiadau

1. An only or main residence is used here broadly to mean a dwelling that is the home of the taxpayer. A taxpayer could own only one property (perhaps as a buy to let) but live elsewhere (for example, with a partner, at their parents, in rented accommodation or abroad). That owned dwelling will not be their only or main residence as it is not their home. Yn ôl i destun