Neidio i'r prif gynnwy

Ar 1 Gorffennaf, bydd Gorchymyn Dolur Rhydd Feirysol Buchol (Cymru) 2024 yn cael ei gyflwyno er mwyn hyrwyddo ffordd a fydd yn cael ei arwain gan y diwydiant o ddileu'r clefyd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mehefin 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae dolur rhydd feirysol buchol (BVD) yn glefyd feirysol sy'n effeithio ar wartheg. Gall arwain at erthylu, anffrwythlondeb, a lloi sydd wedi'u hanffurfio – a gall beryglu iechyd a lles y fuches, yn enwedig y stoc ifanc. Yn aml, mae buchesi sydd wedi'u heintio â BVD yn gweld mwy o achosion o niwmonia ac o sgwrio mewn lloi, maent yn llai cynhyrchiol, ac mae materion eraill sy'n gysylltiedig ag iechyd a lles gwartheg yn codi hefyd. Nid yw BVD yn cael ei gydnabod yn risg i iechyd y cyhoedd nac i ddiogelwch bwyd.

Mae cynrychiolwyr y sector gwartheg a Llywodraeth Cymru wedi bod yn cydweithio'n agos i ddatblygu deddfwriaeth i hwyluso'r camau nesaf i ddileu BVD yng Nghymru. Bydd y cam gorfodol hwn o'r rhaglen sy'n cael ei harwain gan y diwydiant i ddileu BVD yn dechrau yn ystod yr haf.

Bydd dileu BVD o Gymru yn gwella safonau iechyd a lles anifeiliaid ac yn helpu Cymru i gyrraedd ei thargedau Sero Net yn gynt. Gallai dileu BVD o'r fuches nodweddiadol o ryw 40 o wartheg a welir yng Nghymru arwain at ostyngiad blynyddol o 70,200kg o CO2e yn ein hôl troed carbon.

Dylai dileu'r clefyd arwain hefyd at fanteision ariannol sylweddol ar lefel y fferm drwy wella iechyd a lles y gwartheg, a thrwy wella cynhyrchiant, gan gynnwys cynhyrchu mwy o laeth a gwell cyfraddau atgenhedlu. 

O 1 Gorffennaf 2024, bydd y ddeddfwriaeth BVD sy'n cael ei harwain gan y diwydiant ac sy'n cael ei chyflwyno gan Lywodraeth Cymru, yn golygu y bydd yn ofynnol i geidwaid:

  • fynd ati bob blwyddyn i sgrinio'u buchesi am Ddolur Rhydd Feirysol Buchol (BVD) drwy gynnal profion ar nifer bach o wartheg
  • ynysu anifeiliaid sydd â haint parhaus oddi wrth weddill y fuches am weddill eu hoes

Bydd gan geidwaid gwartheg tan 1 Gorffennaf 2025 i gwblhau eu profion blynyddol ar y fuches. 

Bydd y camau hyn yn cefnogi'r ffordd arloesol newydd hon o fynd ati i atal BVD rhag lledaenu, gan ddiogelu lles anifeiliaid a chadw'r diwydiant gwartheg yng Nghymru yn iach ac yn gynaliadwy. Bydd cynrychiolwyr y diwydiant gwartheg, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, yn sefydlu corff llywodraethu ar gyfer BVD yng Nghymru. Bydd yn bartneriaeth ac yn fframwaith cymorth cynhwysfawr i hwyluso'r ymdrechion i ddileu BVD.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies: 

“Dw i'n deall ac yn sylweddoli bod BVD yn cael effaith ddifrifol yng Nghymru, nid dim ond o ran safonau iechyd a lles anifeiliaid, ond hefyd o ran yr effaith ar gynhyrchiant, a'r costau economaidd difrifol ifusnesau fferm. 

“Mae dileu BVD yng Nghymru yn ymrwymiad a wnaed ers tro, a dw i'n llwyr gefnogi'r ffaith bod y diwydiant a'r Llywodraeth yn gweithio gyda'i gilydd mewn partneriaeth agos i gyrraedd y nod hwnnw.”

Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Dr Richard Irvine: 

“Mae rhai o'r manteision sy'n gysylltiedig â dileu BVD yn cynnwys gwell iechyd a lles, gwell cynhyrchiant a gwell ffrwythlondeb. Gall dileu BVD leihau costau ac ôl troed carbon eich buches. Mae sicrhau bod ffermydd yn parhau'n glir o BVD yn cryfhau iechyd a lles ein ffermydd gwartheg yng Nghymru, a gall hefyd helpu i leihau'r defnydd o wrthfiotigau.

Mae dechrau ar y cam nesaf hwn o'r rhaglen dileu BVD yng Nghymru yn gam pwysig iawn. Hoffwn i gydnabod y gwaith hwn, sy'n cael ei arwain gan y diwydiant, ac sy'n cael ei ategu gan y ddeddfwriaeth newydd hon ar BVD. Gallwn ni ddileu'r clefyd yn llwyr os bydd pob un o'n ffermwyr gwartheg, gan weithio'n agos gyda'u milfeddygon, yn parhau â'u hymdrechion i sgrinio ac i ddiogelu eu buchesi rhag BVD.”

Sylwadau ategol: 

Dywedodd John Griffiths, Pennaeth Ymchwil a Datblygu Amaethyddol a chyn-reolwr y cynllun Gwaredu BVD: 

“Mae'n bwysig iawn ein bod yn gweithio i ddileu BVD o'n buchesi yng Nghymru, ac mae hwn yn un afiechyd y gallwn ni lwyddo i'w ddileu. Mae nifer o wledydd eraill yn gweithio i ddileu'r clefyd, a bydd Cymru yn ymuno bellach ag Iwerddon, yr Alban a Lloegr yn eu hymdrechion i gael gwared ar yr afiechyd.”

Dywedodd Dr Neil Paton o'r Coleg Milfeddygol Brenhinol: 

"Mae feirws BVD yn cael effaith enfawr ar les gwartheg, a bydd cael gwared ar y feirws yn golygu y bydd ein gwartheg yn iachach o lawer, ac yn llawer mwy cynhyrchiol hefyd.”