Neidio i'r prif gynnwy

Arweinyddiaeth a strategaeth

Argymhelliad 1

Erbyn 2025, dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno gweledigaeth ar gyfer ynni yng Nghymru hyd at 2050, gyda Strategaeth a Chynllun Gweithredu cysylltiedig i egluro ei huchelgais hirdymor. Dylai hyn gynnwys manylion am gynhyrchu ynni adnewyddadwy a datblygiad y grid. Dylai'r rhain gael eu llywio drwy ymgysylltu'n helaeth â'r cyhoedd gan ddefnyddio methodolegau cydnabyddedig i sicrhau'r effaith fwyaf posibl. Dylai gweithredu'r Weledigaeth hon gael ei oruchwylio gan grŵp trawslywodraethol/sector, dan gadeiryddiaeth y Gweinidog.

Ymateb

Rydym yn cymryd ymagwedd wedi'i chynllunio tuag at trawsnewid ynni i sicrhau bod ein system ynni yn y dyfodol yn diwallu anghenion Cymru.

Mae ein gwaith ar gynllunio ynni yn nodi'r newidiadau sydd eu hangen ar y system
ynni i:

  • ddatgarboneiddio gwres a thrafnidiaeth;
  • nodi cyfleoedd ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy; a
  • datgarboneiddio diwydiant

Byddwn yn defnyddio ein tystiolaeth cynllunio ynni i ddatblygu Cynllun Ynni Cenedlaethol i Gymru erbyn diwedd 2024. Bydd y Cynllun Ynni Cenedlaethol yn nodi'r newidiadau yn y system ynni sydd eu hangen i gyflawni Sero Net erbyn 2050, tra'n darparu system ynni ddiogel a fforddiadwy yng Nghymru. Bydd yn galluogi Cymru i gyflymu'r broses bontio i system ynni Net Sero, drwy roi hyder mewn camau allweddol i'w cymryd. Bydd hefyd yn darparu arweiniad clir ar gyfer yr hyn y mae angen i weithredwyr rhwydweithiau nwy a thrydan ei gyflawni i gefnogi'r cynlluniau hyn.

Byddwn hefyd yn gweithio ar Fargen yn y Sector a fydd yn ystyried yr opsiynau ar gyfer technolegau ynni adnewyddadwy sydd gennym yng Nghymru a sut rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid i ddeall ein rolau a'n disgwyliadau yn y dyfodol.

Grid sy'n addas ar gyfer Cymru'r Dyfodol

Argymhelliad 2

Erbyn 2025, dylai cynllunio ar gyfer y grid trydan yng Nghymru fod yn seiliedig ar ystyriaethau polisi, yn ogystal ag ymarferoldeb. Mae angen newid er mwyn cynllunio'r grid i ystyried anghenion Cymru a sicrhau ei fod yn cael ei ddatblygu'n strategol gyda golwg hirdymor.

Ymateb

Rydym yn cefnogi'n fawr y cynnig am ddull strategol hirdymor o ddylunio a chynllunio'r rhwydwaith, sy'n ymateb i gynlluniau Cymru ar gyfer Cymru lewyrchus. Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn gweithio gyda chwmnïau rhwydwaith, Ofgem a Llywodraeth y DU i lywio cynllunio rhwydwaith i gyfrif am anghenion Cymru a dylunio'r rhwydweithiau mwyaf effeithiol, sydd a'r effaith leiaf posibl.

Bu Llywodraeth Cymru yn eirioli ac yn cyflwyno'r dystiolaeth ar gyfer dull mwy cynlluniedig o ymdrin â system ynni'r dyfodol ers peth amser, gan edrych ar y system ynni o'r brig i lawr, er enghraifft drwy adroddiad Gridiau Ynni Cymru y Dyfodol, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2023, ac o'r gwaelod i fyny, drwy gyllid i awdurdodau lleol ddatblygu Cynlluniau Ynni Ardal Leol. Rydym wedi ymrwymo i gyfuno'r dystiolaeth
hon i ddatblygu Cynllun Ynni Cenedlaethol erbyn diwedd 2024.

Rydym yn croesawu'r cynnig ar gyfer Cynllunydd System Ynni Ranbarthol i Gymru, sydd â sail gref yng Nghymru gan adeiladu ar y fforwm Rhwydweithiau Ynni, lle rydym yn trafod heriau strategol a gweithredol gyda'r holl gwmnïau rhwydwaith sy'n gweithredu yng Nghymru: ein cynlluniau ynni ardal leol a'n gwaith strategol ar Gridiau Ynni yn y Dyfodol i Gymru.

Rydym hefyd yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod y dull cynllunio ynni gofodol yr ydym wedi'i fabwysiadu yng Nghymru yn cael ei adlewyrchu yn y Cynllun Ynni Gofodol Strategol, y disgwylir iddo yrru rhwydweithiau trosglwyddo yn y tymor canolig i' r tymor hir.

Drwy hynny, bydd y llywodraeth hon yn helpu i sicrhau bod gan Gymru y seilwaith sydd ei angen arni ar gyfer y dyfodol, wedi'i adeiladu yn y lle iawn, mewn ffordd sy'n lleihau’r gost i'r cyhoedd ac yn diogelu ein hamgylchedd ar gyfer y dyfodol.

Argymhelliad 3

Erbyn 2025, dylai Ofgem ddiwygio'r system sy'n cynllunio ar gyfer ynni adnewyddadwy ac yn darparu mynediad grid ar ei gyfer, er mwyn galluogi cyflwyniad cyflym. Dylai ystyriaethau polisi ddod yn ffactor wrth bennu cysylltiadau grid. Dylid annog ffurfiau arloesol o ddatblygu’r gri d hefyd.

Ymateb

Mae Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo'n gryf y dylai ystyriaeth polisi yrru cynllunio ar gyfer a darparu seilwaith grid ac mae wedi gweithio gydag Ofgem yn y maes hwn.

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid ar sawl lefel strategol, i lunio Cynllun Ynni Cenedlaethol i Gymru a datblygu meini prawf polisi ar gyfer cysylltiadau yng Nghymru.

Bydd yr allbynnau o'r ddau ddarn o waith yn sail i Lywodraeth Cymru weithio gydag Ofgem i ymgorffori ystyriaethau polisi ac anghenion strategol o fewn cynllunio strategol cysylltiadau grid.

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a Gweithredwr y System Ynni i sicrhau bod y gwaith presennol yn cael ei ystyried wrth i swyddogaeth y Cynllunydd System Ynni Rhanbarthol gael ei datblygu, ac wrth i'r swyddogaeth y Cynllunydd System Ynni Rhanbarthol gael ei datblygu, ac wrth i'r meddylfryd y tu ôl i'r Cynllun Ynni Gofodol Strategol sy'n dod i'r amlwg esblygu. Mae'r sylfaen dystiolaeth hon yn rhoi Cymru mewn sefyllfa gref i lunio datblygiad rhwydwaith.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cynrychioli anghenion pobl Cymru ar lefel y DU. Mae'n adolygu'r corff cynyddol o waith ynghylch cyflymder cysylltu a defnyddio technolegau newydd mewn cysylltiadau, er enghraifft, y cynllun gweithredu cyflymu trosglwyddo, er mwyn sicrhau bod datblygu polisi yn ystyried cyd destun polisi Cymru.

Yr amgylchedd adeiledig

Argymhelliad 4

Mae angen mynd ati ar unwaith i adolygu Rhan L o'r Rheoliadau Adeiladu i orfodi'r defnydd o dechnolegau adnewyddadwy (yn enwedig solar thermol a solar ffotofoltäig) a systemau storio batri ym mhob datblygiad newydd, ac mewn adnewyddiadau neu estyniadau sylweddol.

Ymateb

Arweiniodd adolygiad Rhan L 2022 blaenorol y Rheoliad Adeiladu yng Nghymru at welliannau sylweddol i berfformiad allyriadau carbon cyfanredol i adeiladau newydd o 37% ar gyfer adeiladau preswyl a 28% ar gyfer adeiladau annomestig.

Mae’r gostyngiad yn gam tuag at y newidiadau nesaf i effeithlonrwydd ynni yn y Rheoliadau Adeiladu yn 2025. Nod ein gweledigaeth ar gyfer safon 2025 Rhan L yw symud i ddefnyddio ffynonellau gwres carbon isel ar gyfer systemau gwresogi a dŵr poeth mewn adeiladau annomestig. Mae adolygiad Rhan L 2025 wedi dechrau, ac mae disgwyl ymgynghoriad cyhoeddus yn ddiweddarach eleni a fydd yn cynnwys manylion technegol llawn y cynigion.

O ran gorfodi rhai technolegau, mae Rhan L o'r Rheoliadau Adeiladu yn gyffredinol, yn niwtral o ran technoleg a thanwydd felly nid ydym yn rhagnodi nac yn gwahardd unrhyw fath penodol o wresogi neu gynhyrchu ynni, a'r bwriad yw bod yn hyblyg wrth gyrraedd targedau ynni er mwyn peidio â gweithredu fel rhwystr i arloesi.

Nid yw gofynion cyfredol Rhan L 2022, felly, yn gorfodi technoleg benodol (fel solar ffotofoltaig), fodd bynnag, rydym yn cydnabod, wrth godi ein targedau ynni gorfodol, ei bod yn debygol y bydd rôl gynyddol ar gyfer technolegau ynni adnewyddadwy wrth iddynt ddod yn fwy cost effeithiol. Er enghraifft, mae gwelliannau diweddar 2022 yn cynnwys solar ffotofoltaig o fewn y fanyleb adeilad tybiannol sy'n gosod y targed ynni. Mae hyn yn ei dro yn annog defnyddio ynni adnewyddadwy mewn adeiladau newydd.

O ran adeiladau presennol, dylid ystyried estyniad ar hyn o bryd i adeilad annomestig dros 100m2 (neu fwy na 25% o arwynebedd llawr defnyddiol cyfan yr adeilad presennol) fel adeilad newydd mewn perthynas â chydymffurfiaeth Rhan L. Bydd gofynion (gan gynnwys gwelliannau canlyniadol) ar gyfer pryd y gwneir gwaith adeiladu sylweddol i anheddau presennol yn cael eu hystyried fel rhan o gwaith adeiladu sylweddol i anheddau presennol yn cael eu hystyried fel rhan o adolygiad 2025.

Cyflwynodd adolygiad blaenorol Rheoliad Adeiladu Rhan L 2022 ein hegwyddorion i gyflwyno set lymach o ofynion trosiannol er mwyn sicrhau na fydd datblygwyr yn parhau i adeiladu cartrefi i hen safonau effeithlonrwydd ynni am fwy o amser nag sy'n briodol. Lle bydd ceisiadau mewn perthynas â nifer o adeiladau ar safle (er enghraifft cais am nifer o dai), mewn achosion o'r fath, dim ond yr adeiladau unigol, hynny y dechreuwyd ar y gwaith all nawr anteisio ar y darpariaethau trosiannol.
 

Argymhelliad 5

Dylai hawliau datblygu a ganiateir gael eu hadolygu ar unwaith, gyda ffocws penodol ar ddileu rhwystrau i fesurau sy'n cynyddu cynhyrchu ynni adnewyddadwy, gyda ffocws cynyddol ar yr argyfwng hinsawdd.

Ymateb

Mae Hawliau Datblygu a Ganiateir yn cael eu hadolygu. Rydym wedi gwneud newidiadau sylweddol i'r PDRs ar gyfer solar gan fod y rhan fwyaf o fathau o baneli solar ar eiddo domestig ac annomestig yn ddatblygiad a ganiateir.

Gwyddom fod angen gwneud mwy mewn perthynas â phympiau gwres ffynhonnell aer. Byddwn yn gweithio drwy gyfres o opsiynau yn amrywio o ddadreoleiddio llwyr i reolaethau cynllunio sy'n newid pwyslais. Rydym yn bwriadu gweithio ar opsiynau eleni a fydd yn ysgogi adolygiad.

Cynllunio

Argymhelliad 6

Erbyn 2025, lle mae gan geisiadau cynllunio ynni adnewyddadwy (a chyfundrefnau rheoleiddio cysylltiedig) ddyraniad amser statudol gorfodol, dylai penderfyniadau fod yn gadarnhaol yn ddiofyn os yw'r dyraniad amser yn mynd heibio heb unrhyw ymateb (dull ‘taw elwch cadarnhaol’).

Ymateb

Mae'n bwysig ein bod yn cael y datblygiad cywir yn y lle iawn. Mae hefyd yn bwysig bod y system gynllunio yn hwyluso datblygiadau adnewyddadwy priodol mewn modd amserol. Gall y rhesymau dros oedi fod yn gymhleth ac nid ydynt o reidrwydd o fewn gallu awdurd odau cynllunio lleol i'w datrys bob tro. Er enghraifft, gall mewnbwn ymgyngoreion statudol achosi oedi fel y gall gwybodaeth annigonol a gyflwynir gan ymgeiswyr.

Mae'n anodd gweld sut y bydd mabwysiadu dull "tawelwch cadarnhaol" yn datrys y materion hyn a gallai arwain at ganlyniadau anfwriadol o wrthod yn gynt pe bai awdurdodau lleol yn teimlo dan bwysau i wneud penderfyniad. 

Argymhelliad 7

Erbyn 2025, dylid creu adnodd cynllunio cyfun ar gyfer ynni, i rannu arbenigedd a sgiliau technegol ar gyfer mynegi polisïau cynllunio, ymgysylltu â'r cyhoedd ac ystyried ceisiadau cynllunio.

Ymateb

Rydym yn cydnabod bod mwy o lwyth o achosion o'r cynnydd yn nifer y ceisiadau cynllunio ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy yng Nghymru. Rydym yn awyddus i edrych ar ffyrdd o sicrhau bod yr adnoddau cynllunio a chydsynio yng Nghymru yn ddigonol i ymateb i'r galw cynyddol. Mae gwaith i'w wneud ar y Cydi'r galw cynyddol. Mae gwaith i'w wneud ar y Cyd--bwyllgorau Corfforaethol (CJCs) er mwyn caniatáu cynllunio strategol a defnyddio     arbenigedd technegol ar draws maes ehangach.

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Net Zero Industry Wales i ystyried pa opsiynau allai fodoli i greu model adnoddau mwy effeithiol ar gyfer cyrff cydsynio i ymateb i'r ceisiadau cynyddol am brosiectau datgarboneiddio ac ynni yng Nghymru.

Buddion a pherchnogaeth gymunedol

Argymhelliad 8

Dylai Bil Ynni Adnewyddadwy (Cymru) gael ei gyflwyno yn y Senedd nesaf i ddeddfu er mwyn galluogi mwy o berchnogaeth gymunedol ar ynni adnewyddadwy.

Ymateb

Nid ydym yn ystyried bod angen Bil Ynni Adnewyddadwy ar hyn o bryd i ganiatáu mwy o berchnogaeth gymunedol. Rydym wedi gosod targedau uchelgeisiol ac arweiniad ar sut y dylai datblygwyr weithio gyda cymunedau i sicrhau perchnogaeth leol ac rydym yn bwriadu cyrraedd y targedau hynny o fewn y pwerau presennol.

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ein targed ar gyfer perchnogaeth leol drwy:

  • Mae cyllid ar ffurf grantiau adnoddau wedi ei roi i adeiladu capasiti ychwanegol mewn mentrau cymunedol i’w helpu i ddechrau graddio eu gwaith.
  • Mae’r rhai sy’n cael cyllid grantiau adnoddau yn trafod gydag Ynni Cymru fel rhan o weithgor rhanddeiliaid cymunedol.

Argymhelliad 9

Dylai polisi ei gwneud yn ofynnol i ddatblygiadau ynni adnewyddadwy gynnig elfennau o berchnogaeth gymunedol a dylai'r broses o adbweru safleoedd gael ei symleiddio, gan gynnwys gofynion perchnogaeth gymunedol.

Ymateb

Mae Cymru yn flaenllaw o ran perchnogaeth leol a buddion cymunedol - mae gwerth perchnogaeth asedau ynni yn lleol a chyfranogiad cymunedol wedi cael ei gydnabod gan Lywodraeth Cymru ac mae'n rhan allweddol o bolisi ynni Cymru. 

Gan ddangos ein huchelgais ar gyfer perchnogaeth leol, fe wnaethom fabwysiadu'r targed ar gyfer o leiaf 1.5 GW o gapasiti ynni adnewyddadwy i fod yn eiddo lleol erbyn 2035, gan gynyddu ein targed presennol am 1 GW erbyn 2030.

Credwn fod buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy yn fuddsoddiad doeth iawn i Gymru gan ddarparu swyddi a thwf economaidd, llwybr i ddatgarboneiddio ein diwydiant trwm, ariannu rhaglenni amgylcheddol a'r sicrwydd o gynhyrchu ein hynni ein hunain.

Cyhoeddwyd ein canllawiau ar berchnogaeth leol ym mis Mehefin 2022 sy'n berthnasol i bob datblygiad ynni newydd, ac mae'n darparu fframwaith i ddefnyddio adnoddau naturiol toreithiog Cymru tra'n sicrhau bod prosiectau'n cael eu dylunio a'u darparu mewn undod â'r bobl a'r lleoedd sy'n eu cynnal.

Mae'n egluro'r opsiynau sydd ar gael ar gyfer cyflawni'r nod polisi a'r buddion craidd sy'n gysylltiedig ag elfen o berchnogaeth leol.

Mae'r Adroddiad Buddion Cydweithredol (CBR) a ddisgrifir ym Mhennod 7 yn offeryn ymarferol a all helpu i wella tryloywder gydol y broses ddatblygu a chynyddu cyfranogiad yr holl randdeiliaid. Rydym am weld lefelau uwch o werth yng Nghymru yn cael eu harddangos yn yr adroddiadau hyn.

Bydd Ynni Cymru’n ehangu ynni adnewyddadwy sy’n eiddo i’r gymuned a systemau ynni lleol clyfar, ble caiff y buddion eu cadw yng Nghymru. Mae Ynni Cymru a lansiwyd yn ddiweddar yn golygu bod Cymru yn flaenllaw o ran datblygu a chyflawni prosiectau Ynni Lleol Clyfar, sy'n darparu ynni mwy lleol. Mae Ynni Cymru eisoes wedi ymrwymo £900,000 o grantiau adnoddau a fydd yn helpu grwpiau cymunedol i gyflogi'r staff angenrheidiol i gyflymu'r gwaith o ddarparu prosiectau.

Mae Cymru eisoes wedi cyflawni 97% o'i tharged ar gyfer o leiaf 1 GW o drydan adnewyddadwy a chapasiti gwres i fod yn eiddo lleol erbyn 2030. Rwy'n falch o'r grwpiau cymunedol arloesol sydd wedi bod yn gyfrifol am y prosiectau hyn.

Mae cefnogaeth Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru i brosiectau ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn ymestyn o'r cam cysyniad hyd at gau a chwblhau ariannol, gan ddarparu cymorth bob cam o'r ffordd.

Caiff Trydan Gwyrdd Cymru, sef datblygwr mawr sydd ym mherchnogaeth y cyhoedd, ei lywio gan gynrychiolydd cymunedol ar y Bwrdd.

Argymhelliad 10 

Dylid ystyried y fenter Porthladdoedd Rhydd sydd ar ddod fel cyfle i ganiatáu mwy o ynni adnewyddadwy cymunedol mewn amgylchedd sydd wedi'i ddadreoleiddio.

Ymateb

Pwrpas y Porthladdoedd Rhydd yw sicrhau'r buddion economaidd mwyaf posibl i ardaloedd arfordirol difreintiedig Cymru. Pwrpas amgylchedd wedi'i ddadreoleiddio y Porthladdoedd Rhydd yw lleihau costau i gwmnïau gweithgynhyrchu.

Mae gan achosion busnes Porthladdoedd Rhydd Celtic ac Ynys Mon ffocws cryf ar ddod â buddsoddiad gwyrdd, arloesedd, sgiliau a swyddi i'w hardaloedd. Wrth wneud hyn mae'n ofynnol iddynt drafod â chymunedau lleol. Er enghraifft, yn y Porthladd Rhydd Celtaidd, bydd Cyfleuster Uwch-gynhyrchu a phrosiect Canolfan Rhagoriaeth Sgiliau Sero Net Cenedlaethol ym Mharc Ynni Baglan, Port Talbot yn dod â gofod cynhyrchu, arloesi a gweithgynhyrchu ynghyd, gan gysylltu â phartneriaid cymunedol gyda'r nod o integreiddio a meithrin mentrau o'r un anian.

Ystad y Goron Cymru

Argymhelliad 11

Erbyn 2030, dylai swyddogaethau Ystad y Goron yng Nghymru fod wedi'u datganoli'n llwyr i gorff newydd sydd, fel ei brif nod, yn ail fuddsoddi’r holl gyllid yng Nghymru er budd hirdymor pobl Cymru ar ffurf Cronfa Cyfoeth Sofran.

Ymateb

Rydym yn croesawu argymhelliad y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru y dylid datganoli Ystad y Goron i Gymru yn unol â’r sefyllfa yn yr Alban. Rydym yn parhau i ddadlau o blaid datganoli Ystad y Goron i Gymru gyda Llywodraeth y DU.

Rydym hefyd yn credu y dylid gwneud penderfyniadau ar brosiectau ynni yng Nghymru heb derfyn capasiti mympwyol.