Neidio i'r prif gynnwy

22 Mai 2024

Annwyl Gadeirydd NICW

Diolch am rannu eich adroddiad Paratoi Cymru ar gyfer Ynni Adnewyddadwy 2050 ym mis Hydref 2023, sy'n tynnu sylw at 11 o argymhellion lle gall Cymru gyflymu'r broses o gyflwyno trydan adnewyddadwy ledled Cymru. Rwyf hefyd wedi nodi'r gwaith ychwanegol y cyfeiriwyd ato fel rhan o'r adroddiad.

Mae ein cefnogaeth o ran arloesi a thechnolegau newydd wrth wraidd ein Rhaglen Lywodraethu, nid yn unig er mwyn darparu ffynonellau ynni cynaliadwy yn y dyfodol, ond i gadw cyfoeth yng Nghymru a hefyd i'n cymunedau lleol. Wrth i mi ddechrau gweithio ar y portffolio newydd hwn, rwy'n gwbl ymwybodol o'r gwaith sy'n angenrheidiol i sicrhau ein bod yn cyrraedd y targedau uchelgeisiol hyn, a byddaf yn defnyddio'r gwaith rydych chi ac eraill wedi'i wneud wrth ystyried meysydd gwaith yn y dyfodol.

Mae polisi ynni Cymru’n canolbwyntio ar ddatgarboneiddio’r system ynni. Mae hyn yn cynnwys annog cynhyrchu carbon isel a lleihau allyriadau o ffynonellau carbon uchel. Rydym wedi ymrwymo i symud i ffwrdd oddi wrth ein dibyniaeth ar danwydd ffosil cyn gynted ag y bo modd. Mae ein targedau ynni adnewyddadwy yn sail i'r ymrwymiad hwn i ddiwallu ein hanghenion trydan yn llwyr o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dangos pa mor ddifrifol yr ydym yn ystyried yr argyfwng Newid Hinsawdd, ac ni fyddwn yn osgoi penderfyniadau anodd. Rydym am weithio gyda rhanddeiliaid i nodi ffyrdd y gallwn annog y sector ynni adnewyddadwy yn gryf i fuddsoddi yng Nghymru, gan osod safonau uchel ar yr un pryd i'r busnesau hynny yr ydym yn eu cefnogi. Rydym yn gweld hyn fel un o'r ffyrdd pwysicaf y byddwn yn sicrhau pontio teg at economi gynaliadwy.

Mae cydweithio wedi bod yn sail i'r gwaith a gwblhawyd yn ddiweddar ar yr adroddiad ar ein harchwiliad dwfn ar ynni adnewyddadwy, ac mae'r berthynas â'r rhanddeiliaid hyn wedi'i chryfhau. Bydd hynny'n ein galluogi i barhau i gydweithio i'n galluogi i gyflawni ein targedau. Er enghraifft, mewn perthynas ag argymhelliad 2; o ran cynllunio'r grid i ystyried anghenion Cymru, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn eirioli ac yn cyflwyno tystiolaeth ar gyfer dull mwy cynlluniedig o ymdrin â dyfodol y system ynni ers peth amser ac rydym yn croesawu'r cynnig ar gyfer Cynllunydd System Ynni Rhanbarthol i Gymru a fydd yn adeiladu ar y Fforwm Rhwydweithiau Ynni yng Nghymru.

Mae ein diwydiant adnewyddadwy wrth wraidd yr hyn sydd ei angen ar Gymru i fod yn genedl sero net a theg. I wneud hyn mae'n rhaid i ni arloesi er mwyn chwalu'r rhwystrau sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd. Bydd unrhyw ddatblygwr sy'n gweithio yng Nghymru yn gwybod bod angen buddsoddiad ar frys ar ein seilwaith grid. Rydym wrthi'n gweithio gyda Gweithredwr Systemau Trydan y Grid Cenedlaethol i sicrhau y bydd eu dewis rhwydwaith terfynol ar gyfer y Môr Celtaidd yn darparu ateb hirdymor cadarn i Gymru a de-orllewin Lloegr.

Rwy'n falch o groesawu nifer o'r argymhellion gan y Comisiwn a gweld eu bod yn cyd-fynd â'r gwaith sydd eisoes ar y gweill gennym, yn dilyn yr archwiliad dwfn ar ynni adnewyddadwy. Mae Atodiad A ynghlwm yn cynnig ymateb mwy manwl i bob un o'r argymhellion.

Rwy'n gobeithio y gallwch weld yr ymrwymiad a'r brwdfrydedd sydd gan Lywodraeth Cymru o ran datblygu'r gwaith hwn. Fel y nodwyd gennych yn eich nodiadau eglurhaol, mae'n wir bod llawer o heriau'n wynebu'r hinsawdd fuddsoddi yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, ond drwy annog twf pellach y sector ynni ar y môr yma yng Nghymru, gallwn wneud cyfraniad gwirioneddol ac ystyrlon at sicrhau dyfodol mwy disglair a thecach i'n cymunedau.

Yn gywir,

Jeremy Miles AS/MS

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg