Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh. Vaughan Gething AS (Cadeirydd)
  • Rebecca Evans AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Huw Irranca-Davies AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Lynne Neagle AS
  • Ken Skates AS
  • Mick Antoniw AS
     
  • Hannah Blythyn AS
  • Dawn Bowden AS
  • Jane Bryant AS

Swyddogion

  • Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr Dros Dro Swyddfa'r Prif Weinidog
  • Matthew Hall, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Sam Hadley, Cynghorydd Arbennig
  • David Hooson, Cynghorydd Arbennig
  • Phillipa Marsden, Cynghorydd Arbennig
  • Maddie Rees, Cynghorydd Arbennig
  • Victoria Solomon, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Kathryn Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
  • Diane Dunning, Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Sioned Evans, Cyfarwyddwr Cyffredinol Grŵp Gwasanaethau Cyhoeddus a'r Gymraeg
  • Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Economi y Trysorlys a’r Cyfansoddiad

Eitem 1: Cofnodion y Cyfarfod blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 22 Ebrill.

Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog

Digwyddiad Ysgol Dyffryn Aman

2.1 Cyfeiriodd y Prif Weinidog at y digwyddiad yn Ysgol Dyffryn Aman yn Rhydaman y dydd Mercher cynt, lle'r oedd person ifanc wedi defnyddio cyllell i ymosod ar gyd-ddisgybl a dwy athrawes. Roedd y Prif Weinidog wedi siarad â'r Heddlu a'r Awdurdod Lleol i ddiolch iddynt am ddelio â'r sefyllfa mewn modd mor gyflym ac effeithiol.

2.2 Bu Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg mewn cysylltiad rheolaidd â'r gwasanaethau brys a'r Awdurdod Addysg Lleol, ac roedd wedi cynnig cefnogaeth i'r ysgol. Cyhuddwyd y person ifanc a oedd wrth wraidd y digwyddiad o dri achos o geisio llofruddio. Roedd y tri a gafodd eu hanafu wedi cael eu rhyddhau o'r ysbyty y diwrnod canlynol. Roedd y Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn bwriadu ymweld â’r ysgol maes o law i ddiolch i staff ac eraill am y ffordd yr oeddent wedi delio â’r sefyllfa.

2.3 Ddydd Gwener yr wythnos honno, roedd cyfnod clo rhagofalus hefyd wedi digwydd ar y campws uwchradd yng Nghymuned Ddysgu Ebwy Fawr yng Nglyn Ebwy, a bygythiadau bom ffug ddydd Mercher mewn dwy ysgol yn ardal Bwrdeistref Sirol Caerffili.

2.4 Nododd Ysgrifennydd y Cabinet fod gan bob lleoliad addysg gynlluniau a gweithdrefnau argyfwng ar gyfer ymateb i ddigwyddiadau prin, a bod awdurdodau lleol yn sicrhau bod y cynlluniau argyfwng yn gyfredol. Byddai’n gweithio gydag Awdurdodau Lleol, yr Heddlu, a phartneriaid eraill i ddysgu gwersi o ddigwyddiadau diweddar.

Cyhoeddiad gan Tata Steel

2.5 Cyfeiriodd y Prif Weinidog at gyhoeddiad siomedig Tata Steel ddydd Iau ei fod wedi gwrthod adroddiad nifer o Undebau Llafur, a gomisiynwyd gan Bwyllgor Dur y DU, a oedd yn awgrymu y dylid cadw un ffwrnais chwyth yn weithredol ym Mhort Talbot tra'r oedd y safle’n newid i ddull gwyrddach o gynhyrchu dur.

2.6 Roedd y Prif Weinidog wedi cyfarfod â'r Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yr wythnos flaenorol, er mwyn trafod y sefyllfa yn Tata ym Mhort Talbot a materion cyfansoddiadol.

2.7 Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg wrth y Cabinet fod y cyhoeddiad wedi digwydd tra'r oedd y Bwrdd Pontio yn cyfarfod. Byddai'r ffwrnais chwyth gyntaf yn cael ei chau a'i datgymalu ym mis Mehefin, ac roedd bwriad i gau'r ail un erbyn diwedd mis Medi. Roedd 2,800 o swyddi uniongyrchol mewn perygl ar draws pob safle. Nid yw graddfa lawn y colledion swyddi, gan gynnwys y rhai yn yr economi ehangach yn gwbl hysbys, ond gallai fod hyd at 9,500. Hefyd byddai colli swyddi yn gallu effeithio’n uniongyrchol ar y cymunedau perthnasol.

2.8 O ran y camau nesaf, byddai Tata nawr yn dechrau trafodaethau gyda'r nod o agor cynllun diswyddo gwirfoddol ar 15 Mai. O ran gweithredu diwydiannol, roedd Unite wedi pleidleisio i streicio ac roedd y pleidleisio gan aelodau Cymuned a GMB i fod i gau ar 9 Mai.

2.9 Byddai angen gofyn am eglurder o ran sut y byddai'r gronfa £100m yn cael ei defnyddio i ddarparu cymorth wedi'i deilwra i'r bobl a'r busnesau yr oedd hyn yn effeithio arnynt. Serch hynny, roedd Llywodraeth Cymru yn rhoi trefniadau ar waith i ganiatáu i bobl gael mynediad at yr holl gymorth a oedd ar gael.

2.10 Nodwyd y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud datganiad i'r Siambr y diwrnod canlynol.

Ymgysylltiadau'r Prif Weinidog

2.11 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet ei fod wedi cyfarfod ag amrywiaeth o randdeiliaid o bob rhan o'r Gogledd yn Wrecsam ddydd Gwener. Roeddent yn cynnwys arweinwyr Awdurdodau Lleol, Prif Weithredwyr, cynrychiolwyr o faes Addysg Uwch ac Addysg Bellach, a'r gwasanaethau brys. Roedd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, a'r Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol hefyd yn bresennol.

2.12 Ddydd Sadwrn, roedd y Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth wedi mynychu brecwast busnes yn academi hyfforddi JCB, gyda chynrychiolwyr o Academi Arweinyddiaeth Wrecsam. Dilynwyd hyn gan ddigwyddiad Trafnidiaeth Cymru yng Ngorsaf Reilffordd Gyffredinol Wrecsam i enwi dau drên ar ôl Ryan Reynolds a Rob McElhenney.

2.13 Wedyn mynychodd seremoni gyhoeddi Eisteddfod Wrecsam 2025, ac yn ddiweddarach y prynhawn hwnnw roedd y Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol wedi cyfarfod â rhai o berchnogion Clwb Pêl-droed Wrecsam.

2.14 Ddydd Sul, roedd y Prif Weinidog wedi mynychu Holi, Gŵyl Hindŵaidd cariad a hapusrwydd, a hefyd seithfed noson pryd y Pasg yn Synagog Unedig Caerdydd.

Eitem 3: Busnes y Senedd

3.1 Nododd y Cabinet y byddai pleidleisio ddydd Mawrth yn digwydd drwy gydol y ddadl ar Gyfnod 3 Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau). Byddai'r amser pleidleisio tua 6:25pm ddydd Mercher.

3.2 Nodwyd y byddai'r Prif Weinidog yn gwneud datganiad llafar i nodi pen-blwydd y Senedd yn 25 oed yr wythnos ganlynol.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Ebrill 2024