Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mehefin 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ym mis Rhagfyr 2022, comisiynodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth adolygiad annibynnol o drefniadau llywodraethu Cadw. Cyhoeddodd Roger Lewis, fel Cadeirydd y tîm adolygu, yr adroddiad ym mis Rhagfyr 2023. 

Meddai’r Cadeirydd "Heb os, mae Cadw yn sefydliad gwych, sy'n cyflawni’n dda, sy'n dathlu ac yn atgyfnerthu hunaniaeth Gymreig, wedi'i staffio gan bobl ryfeddol, ac yn haeddiannol mae'n rhywbeth i ni i gyd ei drysori a bod yn falch ohono. Mae fy ymateb i'r adolygiad ar gael yma https://www.llyw.cymru/adolygiad-o-drefniadau-llywodraethu-cadw-ymateb-llywodraeth-cymru

Mae'r adroddiad yn cynnwys 29 o argymhellion wedi'u rhannu'n chwe thema ac sy’n darparu sail i Cadw ddatblygu a chyflawni ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae'n bwysig nodi, yn y cyfnod byr ers cyhoeddi'r adroddiad, bod yr heriau sy'n wynebu'r sector treftadaeth wedi esblygu. Mae'r sefyllfa ariannol hynod anodd sy'n wynebu Llywodraeth Cymru, sy'n cael effaith ar Cadw a'r sector treftadaeth ehangach, yn golygu bod gofyn am ystyried ffyrdd arloesol o ddarparu gwasanaethau ac mae'r argymhellion yn rhoi cyfle i wneud hyn. Fodd bynnag, rwy'n cydnabod bod rhai o'r argymhellion yn fwy uchelgeisiol a rhaid eu hystyried i'w gweithredu dros y tymor hwy. Rwyf wedi nodi hyn yn fy ymateb.

Rwy'n cydnabod cyfraniad gwirioneddol treftadaeth a gwaith Cadw at fy mlaenoriaethau ehangach o gynhwysiant a chydraddoldeb – gan ehangu mynediad i bawb at safleoedd a thirweddau hanesyddol eithriadol Cymru. Cydnabyddir bod cyfranogiad mewn gweithgareddau treftadaeth yn dod â chanlyniadau cadarnhaol i unigolion, cymunedau a lles cymdeithas ehangach. Mae dod â'r meysydd hyn at ei gilydd mewn un portffolio yn gyfle euraidd i fanteisio ar y buddion hyn. 

Hoffwn ddiolch i'r tîm adolygu am eu gwaith ac am yr holl unigolion a gyfrannodd.