Mae Gwobrau blynyddol Ystadau Cymru yn dathlu enghreifftiau llwyddiannus o reoli asedau ar y cyd ar draws sector cyhoeddus Cymru.
Our annual Ystadau Cymru Awards are a celebration of successful collaborative asset management across the Welsh public sector and we are now welcoming entries for the 2025 Awards.
Mae Gwobrau blynyddol Ystadau Cymru yn dathlu enghreifftiau llwyddiannus o reoli asedau ar y cyd ar draws sector cyhoeddus Cymru ac rydym bellach yn croesawu enwebiadau ar gyfer Gwobrau 2025.
Y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw rhannu eich enghreifftiau o brosiectau cydweithredu llwyddiannus sydd wedi’u cynnal ar draws ystad sector cyhoeddus Cymru, waeth beth fo’u maint.
Gweler y meini prawf cyffredinol ar gyfer cymhwysedd
- Rhaid i'r sefydliad sy'n ymgeisio ddod o'r sector cyhoeddus yng Nghymru ac mae'n rhaid bod y prosiect wedi'i gyflawni yng Nghymru.
- Rhaid i’r prosiectau fod wedi'u cyflawni mewn cydweithrediad ag o leiaf un partner arall yn y sector cyhoeddus, y sector preifat neu'r trydydd sector.
- Rhaid i’r prosiectau fod wedi'u cyflawni rhwng mis Ebrill 2023 ac 8 Medi 2024.
Cyflwynwch eich enwebiadau erbyn 5pm ar 8 Medi 2025.