Yr Athro Lynda Warren Dirprwy Asesydd Interim
Adolygu pryderon ynghylch sut mae cyfraith amgylcheddol yn gweithredu yng Nghymru.
Mae Lynda wedi bod yn gweithio ym maes cyfraith a pholisi amgylcheddol ers dros 30 mlynedd.
Bu’n aelod o sawl pwyllgor llywodraeth y DU gan gynnwys Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, a’r Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur y bu’n ddirprwy gadeirydd arno.
Mae ganddi gymwysterau ôl-raddedig mewn bioleg a’r gyfraith ac mae wedi gweithio yn y byd academaidd ers dros 40 mlynedd, yn fwyaf diweddar fel Athro Cyfraith Amgylcheddol ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Mae’n Athro Anrhydeddus ym Mhrifysgol Bangor lle mae’n addysgu cyfraith parthau arfordirol yn rheolaidd. Dyfarnwyd OBE iddi yn 2017 am wasanaethau amddiffyn yr amgylchedd yn y DU a thramor ac mae'n Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.