Neidio i'r prif gynnwy

Yn ystod Wythnos Gofalwyr Ifanc, manteisiodd y Gweinidog Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden, ar y cyfle i wrando ar ofalwyr ifanc yn sôn am bwysigrwydd cael eu cydnabod fel cam cyntaf tuag at gael cymorth yn yr ysgol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Mehefin 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae dros 22,500 o ofalwyr ifanc a gofalwyr sy'n oedolion ifanc yng Nghymru - sy'n cyfateb i bron dau ofalwr ym mhob ystafell ddosbarth.

Mae traean o ofalwyr dan 25 oed yn dweud ei bod yn anodd cydbwyso cyfrifoldebau gofalu â gwaith ysgol, coleg neu brifysgol. Mae rhai gofalwyr ifanc yn treulio hyd at 50 awr yr wythnos yn gofalu am aelod o'r teulu sydd â salwch neu anabledd.

Dywedodd y Gweinidog Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden:

Mae'n bwysig bod ysgolion a cholegau yn ymwybodol o fyfyrwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu, a bod gofalwyr ifanc yn cael eu cydnabod er mwyn derbyn y cymorth priodol.

Gall cardiau adnabod gofalwyr ifanc fod yn ffordd hawdd i ofalwr ifanc roi gwybod am ei sefyllfa i athrawon a staff addysg, er mwyn iddyn nhw ei helpu i gysylltu â'r gwasanaethau sydd eu hangen, ac i’r gofalwyr eu hunain gyflawni eu potensial yn llawn.

Mae cardiau adnabod gofalwyr ifanc yn golygu nad oes angen i ofalwyr ifanc esbonio eu hamgylchiadau dro ar ôl tro i wahanol staff, sy'n helpu i sicrhau eu bod yn gallu cael y gefnogaeth a'r gydnabyddiaeth angenrheidiol.

Gall y cymorth mewn ysgolion gynnwys cwnsela, aelod dynodedig o staff i'w helpu, a threfniadau hyblyg lle bo angen.

Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru yn gweithredu cynllun cerdyn adnabod i ofalwyr ifanc.

Ychwanegodd y gweinidog:

Mae cardiau adnabod i ofalwyr ifanc yn ffordd ddefnyddiol o helpu i nodi a pharchu anghenion penodol y gofalwyr hyn. Dw i'n gobeithio gweld y cardiau'n cael eu defnyddio'n gyson mewn ysgolion yng Nghymru, fel bod gan bobl ifanc yr hyder i ofyn am help pan fo angen.

Dywedodd gofalwr ifanc:

Dw i'n defnyddio fy ngherdyn adnabod i ofalwyr ifanc i roi gwybod i'r athrawon fy mod i'n ofalwr ifanc, ac weithiau bod yn rhaid imi gael cymorth neu amser ychwanegol i gyflawni tasgau.

Mae grŵp gofalwyr ifanc gwych yn yr ysgol, ac rydyn ni i gyd yn cefnogi ein gilydd. Mae gan bob gofalwr ifanc yr hawl i gael cefnogaeth yn yr ysgol, ac athrawon sy'n deall sut beth yw bod yn ofalwr ifanc.

Dywedodd Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, Kate Cubbage:

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae wedi dod i'r amlwg bod gofalwyr ifanc yn darparu mwy o oriau gofal nag erioed o'r blaen, a hyn i gyd ochr yn ochr â dosbarthiadau, gwaith cartref, a cheisio cadw mewn cysylltiad â'u ffrindiau yn yr ysgol.

Mae defnyddio'r cerdyn adnabod gofalwyr ifanc yn yr ysgol yn ffordd gyflym o egluro'r rôl ofalu, a gall hynny fod yn gam cyntaf tuag at gael gafael ar y cymorth sy'n eu helpu i ffynnu.

Mae gan lawer o ysgolion yng Nghymru arweinwyr ar gyfer gofalwyr, a bydd yr arweinwyr hynny’n gysylltiedig â'u sefydliad gofalwyr lleol. Gall pawb wedyn ddod at ei gilydd i gefnogi'r gofalwr ifanc yn yr ysgol ac yn y gymuned.