Neidio i'r prif gynnwy
Zakhyia

O fod yn amheus yn y lle cyntaf i arwain adran Rheoli Cyfleusterau Llywodraeth Cymru

Cefais fy ngeni yng nghefn gwlad Kashmir ac ymfudo i Birmingham gyda fy nheulu pan oeddwn yn 18 mis oed.  Es i i'r brifysgol yn Aberystwyth cyn symud i Lundain, ac yna symud i gefn gwlad gorllewin Cymru ger Tregaron. Bellach, rwy'n byw ym Mhort Talbot ac yn gweithio gartref ac yn ein swyddfa ym Mhenlle'r-gaer. 

Dechreuodd fy nhaith Llywodraeth Cymru yn Aberaeron un diwrnod pan ddywedais wrth fy ffrind fy mod yn awyddus i symud i'r De.  Awgrymodd fy ffrind fy mod yn gwneud cais i weithio i Lywodraeth Cymru. Roeddwn i'n amheus, gan feddwl, "dwi'n ddynes Asiaidd, dwi ddim yn siarad Cymraeg, on'd yw e jest ar gyfer y Cymry?". Gwnaeth fy ffrind fy sicrhau bod lle i bawb yn y Gwasanaeth Sifil, felly es i amdani a gwneud cais.

Ymlaen â ni at yr adeg pan gefais swydd mewn gwasanaeth ymgynghoriaeth recriwtio yn y sector preifat, ac ar y diwrnod y cefais y swydd honno, cefais gynnig swydd gan Lywodraeth Cymru. Gan fy mod yn awyddus i symud i'r sector cyhoeddus, dewisais ymuno â Llywodraeth Cymru. Er gwaethaf fy amheuon ar y dechrau, 21 mlynedd yn ddiweddarach, rwy' yma o hyd - bellach yn Bennaeth Rheoli Cyfleusterau ac yn gyfrifol am dimau ledled y wlad.

Ym mis Tachwedd 2003, dechreuais yn y Gyfarwyddiaeth Ystadegol ar gontract dros dro a sylweddoli'n gyflym fy mod eisiau aros. Ym mis Mai 2004, llwyddais i gael swydd barhaol fel Swyddog Cymorth Tîm. Fy rôl barhaol gyntaf oedd gweithio ar y Strategaeth Leoli, a oedd yn ymwneud â datganoli swyddogaethau o bencadlys Caerdydd i wahanol ranbarthau yng Nghymru. Ehangodd y swydd hon fy nealltwriaeth o Gymru a dibenion amrywiol Llywodraeth Cymru, a'r cysylltiadau oedd gan y rhain â'r gwahanol ranbarthau.

Drwy gydol fy ngyrfa yn Llywodraeth Cymru, rwy' wedi gwneud ffrindiau oes ac rwy' hefyd wedi cael fy mentora a chael cymorth sydd wedi fy helpu imi ddatblygu fy hun yn ystod rhai cyfnodau heriol iawn. Un o'm huchafbwyntiau pennaf oedd mynd i Arddwest Frenhinol ym Mhalas Buckingham am y gwaith rwy' wedi'i gyflawni ar Fwrdd Cysgodol Llywodraeth Cymru – rhywbeth na fyddwn i erioed wedi disgwyl cael fy enwebu amdano! 

Mae fy nghyngor i unrhyw un sy'n ystyried ymuno â Llywodraeth Cymru yn syml: ewch amdani. Rhowch gynnig arni. Mae gennych werth, ac mae lle i bawb yma. Rydyn ni angen pobl sy'n frwdfrydig ac sy'n llawn syniadau. Mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu hysgogi gan y dyhead i sicrhau canlyniadau cadarnhaol i bobl Cymru – os yw hynny'n taro tant â chi, rydyn ni eisiau clywed gennych!

Cofrestrwch ar gyfer rhybuddion swyddi

Ewch i Swyddi Llywodraeth Cymru i gofrestru ar gyfer cyfrif a chofrestru ar gyfer rhybuddion swyddi.