Y llynedd, defnyddiodd mwy na 200,000 o bobl wasanaethau newydd y GIG a ddatblygwyd drwy raglen arloesol Chwe Nod Llywodraeth Cymru fel dewis arall yn lle mynd i adran achosion brys neu'r ysbyty am ofal.
Bellach, ar ddechrau ei thrydedd flwyddyn, bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar leihau oedi wrth drosglwyddo cleifion o ambiwlansys a'r amseroedd aros hiraf yn adrannau achosion brys Cymru.
Er gwaethaf y galw mwyaf erioed am ofal brys a gofal mewn argyfwng yng Nghymru, mae'r gwasanaethau newydd a grëwyd fel rhan o'r rhaglen Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng wedi helpu i sicrhau bod mwy o bobl yn cael y gofal iawn ar gyfer eu hanghenion, a hynny gan y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol iawn, y tro cyntaf. Fel hyn, nid yw pawb yn cael eu hanfon i adrannau achosion brys.
Ar ail penblwydd y rhaglen Chwe Nod heddiw (dydd Llun, 10 Mehefin), dywed Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Eluned Morgan, fod llawer o gynnydd wedi'i wneud o ran ailwampio gwasanaethau gofal brys a gofal mewn argyfwng.
Mae'r rhaglen, a gafodd ei lansio ym mis Ebrill 2022, ac sy'n cael ei chefnogi gan £25 miliwn o gyllid bob blwyddyn, wedi goruchwylio'r gwaith o sefydlu llinell gymorth genedlaethol GIG 111 Cymru ar gyfer gofal brys, creu 16 o ganolfannau gofal sylfaenol brys ac agor 25 o wasanaethau gofal argyfwng yr un diwrnod.
Mae data gan y GIG yn dangos bod:
- Canolfannau Gofal Sylfaenol Brys yn helpu tua 11,000 o bobl bob mis, gyda thua 85% o bobl yn cael gofal i ffwrdd o adrannau achosion brys.
- Tua 7,500 o bobl yn defnyddio gwasanaethau gofal argyfwng yr un diwrnod bob mis, gyda bron i 80% o bobl yn cael eu rhyddhau i fynd adref ar yr un diwrnod.
- Cyfnodau aros cyfartalog mewn ysbytai wedi gostwng o 8.5 diwrnod i saith diwrnod.
- Yr un pwynt cyswllt cenedlaethol 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos ar gyfer iechyd meddwl (GIG 111 Cymru pwyso 2) yn derbyn mwy na 6,000 o alwadau bob mis.
- Yr amser brysbennu cyfartalog mewn adrannau achosion brys mawr wedi aros yn sefydlog ar oddeutu 20 munud, er gwaethaf cynnydd yn y galw.
Dros y deuddeg mis diwethaf, rydym wedi gweld galw cynyddol am ofal mewn argyfwng ledled Cymru. Er gwaethaf hyn, mae perfformiad yn erbyn y targed pedair awr wedi bod yn sefydlog ac mae mwy na thri chwarter miliwn o bobl wedi cwblhau eu triniaeth mewn adrannau achosion brys o fewn 4 awr, sef cynnydd o 57,000 ers y flwyddyn flaenorol. Ar gyfer galwadau 'coch' pan fo bywyd yn y fantol, cafodd mwy na 26,000 o bobl ymateb mewn wyth munud yn 2023-24, sef 13% yn fwy na'r flwyddyn flaenorol.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Eluned Morgan:
"Bob dydd, mae miloedd o bobl yng Nghymru yn cael gofal iechyd brys ac argyfwng o ansawdd uchel. Mae'n hanfodol bwysig eu bod yn cael y gofal iawn, yn y lle iawn, y tro cyntaf ac nid yw hynny bob amser yn golygu'r adran achosion brys.
"Dyna pam rydyn ni'n buddsoddi mewn gwasanaethau fel 111 a chanolfannau gofal sylfaenol brys drwy'r rhaglen Chwe Nod.
"Er gwaethaf y galw di-baid ar wasanaethau, mae'r newidiadau hyn wedi helpu i sefydlogi perfformiad adrannau achosion brys. Wedi dweud hynny, rydyn ni'n gwybod bod llawer mwy i'w wneud eto.
"Ni fyddai dim o hyn yn bosib heb ymrwymiad parhaus gweithlu'r Gwasanaeth Iechyd a dw i eisiau diolch iddyn nhw am helpu i gyflawni'r newidiadau hyn.
"Yn nhrydedd flwyddyn y rhaglen Chwe Nod, bydd ein ffocws nawr yn troi at wella amseroedd trosglwyddo cleifion o ambiwlansys a lleihau'r amseroedd aros hiraf mewn adrannau achosion brys."
Mae un o'r prosiectau a ariennir gan y rhaglen yn darparu gwasanaethau arbenigol yr un diwrnod yng Nghanolfan Ganser Felindre ar gyfer cleifion sy'n datblygu tocsigedd o ganlyniad i driniaeth imiwnotherapi. Mae'r gwasanaeth yn helpu pobl i osgoi cael eu derbyn i'r ysbyty ar frys eto a chael eu derbyn i'r ysbyty am ofal parhaus.
Wrth siarad am y gwasanaeth tocsigedd imiwnotherapi yng Nghanolfan Ganser Felindre, dywedodd Dr Ricky Frazer, Ymgynghorydd yn y Ganolfan:
"Mae imiwnotherapi yn driniaeth hynod effeithiol i gleifion sy'n byw gyda chanser, ond mewn rhai achosion gall arwain at sgil-effeithiau annymunol a all fod yn ddifrifol os nad ydyn nhw'n cael eu rheoli'n effeithiol.
"Mae ein gwasanaeth 24 awr yn darparu gwybodaeth, addysg ac adnoddau i gleifion a staff ar draws y De-ddwyrain a thu hwnt, i'w helpu i nodi a lleddfu unrhyw sgil-effeithiau mor gyflym a diogel â phosib."
Dywedodd claf yn Felindre, Sharon Bettinson:
"Maen nhw'n wych yn Felindre. Rydych chi'n gwybod pan fyddwch chi'n mynd yno eich bod chi'n mynd i gael y driniaeth iawn ac nad ydych chi'n mynd i fod yn disgwyl am oriau. Alla i ddim eu canmol nhw ddigon am yr hyn maen nhw wedi'i wneud i mi."