Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020: Datganiad data ar gyfer mis Mawrth 2022 i fis Mawrth 2023
Trosolwg o ddata sy'n ymwneud â Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cefndir
Mae'r ffigurau a adroddwyd yn y datganiad blaenorol wedi cael eu diwygio a'u cynnwys yn y datganiad hwn.
Cafodd Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) (y Ddeddf) Gydsyniad Brenhinol ym mis Mawrth 2020, ac ar ôl cyfnod gweithredu o ddwy flynedd, daeth i rym ar 21 Mawrth 2022.
Amcan cyffredinol y ddeddfwriaeth yw helpu i ddiogelu hawliau plant drwy wahardd eu cosbi’n gorfforol, a hynny drwy ddileu amddiffyniad cosb resymol. Mae hyn yn golygu nad yw’r amddiffyniad ar gael bellach o fewn tiriogaeth Cymru i rieni na’r rhai sy’n gweithredu in loco parentis (yn gweithredu â chyfrifoldeb rhiant), fel amddiffyniad yn erbyn cyhuddiad o ymosod cyffredin ar blentyn neu guro plentyn sydd yn eu gofal.
Mae adran 3 o’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru baratoi dau adroddiad ar effaith y Ddeddf, a’u gosod gerbron y Senedd. Rhaid cynhyrchu’r rhain cyn gynted ag y bo’n ymarferol dair a phum mlynedd ar ôl i’r Ddeddf ddod i rym (2025 a 2027).
I gefnogi'r adroddiadau hyn, mae Llywodraeth Cymru yn casglu data gan awdurdodau lleol, yr heddlu, a Gwasanaeth Erlyn y Goron i fesur yr effaith y mae'r Ddeddf yn ei chael ar wasanaethau cyhoeddus. Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi data a gasglwyd am y 12 mis cyntaf ar ôl gweithredu'r Ddeddf, sy'n cynnwys y cyfnod rhwng 21 Mawrth 2022 a 30 Mawrth 2023.
Mae’r Grant Cymorth Rhianta ar gyfer Datrysiadau y Tu Allan i’r Llys wedi cael ei gynnig gan Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol ers mis Mawrth 2022. Cafodd y grant ei greu wrth baratoi ar gyfer y Ddeddf yn dod i rym. Mae’n ariannu cymorth rhianta wedi’i deilwra y gall yr heddlu atgyfeirio pobl ato fel dewis arall yn lle erlyniad, mewn achosion lle mae'r heddlu'n penderfynu ei bod hi'n briodol cynnig datrysiad y tu allan i'r llys.
Mae’r awdurdodau lleol yn cofnodi data ynghylch nifer yr atgyfeiriadau am gymorth rhianta a geir gan yr heddlu, y cyfraddau ar gyfer yr unigolion sy’n manteisio ar y cymorth ac yn ei gwblhau a’r canlyniadau i unigolion. Hefyd, caiff data demograffig a data am geisiadau ar gyfer yr ymyrraeth drwy gyfrwng y Gymraeg eu casglu. Mae crynodeb o’r data hyn am y flwyddyn gyntaf ers i’r Ddeddf ddod i rym yn cael ei gyflwyno isod. Dylid dehongli’r data yn ofalus o ystyried eu bod yn ymwneud â blwyddyn yn unig. Mae’r holl niferoedd yn cael eu talgrynnu i’r pump agosaf er mwyn lleihau unrhyw risg o ddatgelu data.
Prif ganfyddiadau
Grant Cymorth Rhianta ar gyfer Datrysiadau y Tu allan i'r Llys: 21 Mawrth 2022 i 30 Mawrth 2023
Yn ystod y flwyddyn gyntaf ar ôl i'r Ddeddf ddod i rym, roedd 130 o atgyfeiriadau am gymorth rhianta ar gyfer datrysiadau y tu allan i'r llys ledled Cymru gan yr heddlu, gan gynnwys 60 a wnaed o fewn y chwe mis cyntaf.
O'r 130 o atgyfeiriadau, dewisodd 120 o unigolion fanteisio ar y cynnig o gymorth rhianta, ac o'r rheini, mae 95 wedi cwblhau'r sesiynau yn llawn hyd yn hyn, ac mae 20 wedi cwblhau'r sesiynau yn rhannol. Mae rhai unigolion wedi ymddieithrio o'r cymorth cyn cwblhau'r sesiynau. Mae hyn yn golygu y gallai nifer yr unigolion sydd wedi cwblhau'r sesiynau ac sydd wedi cwblhau'r sesiynau yn rhannol fod yn llai na chyfanswm yr unigolion a fanteisiodd ar y cymorth.
Gwnaed pum cais am gymorth rhianta drwy gyfrwng y Gymraeg.
Gofynnir i'r unigolion sy'n manteisio ar y cymorth rhianta lenwi holiadur a gyhoeddir gan awdurdodau lleol ar ôl iddynt gwblhau'r sesiynau. Cofnodwyd bod cyfanswm o 80 o’r unigolion a atgyfeiriwyd, ac a lenwodd holiadur, wedi cael canlyniad cadarnhaol. Mae canlyniad cadarnhaol yn cael ei ddiffinio fel gwelliant yn ymddygiad y plentyn, neu welliant o ran lles neu effeithiolrwydd rhieni.
Atgyfeirio i'r gwasanaethau cymdeithasol: 1 Ebrill 2021 i 31 Mawrth 2022 (data sylfaenol)
Mae Llywodraeth Cymru yn monitro nifer y cysylltiadau â gwasanaethau cymdeithasol a nifer yr asesiadau sy’n cael eu cwblhau gan wasanaethau cymdeithasol sy’n ymwneud â chosbi plant yn gorfforol. Cyflwynwyd y metrigau hyn fel rhan o’r Fframwaith Perfformiad a Gwella ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol ac maent wedi cael eu casglu ers Ebrill 2021, sef blwyddyn cyn i’r Ddeddf ddod i rym. Bydd hyn yn caniatáu cymariaethau o rifau cyn ac ar ôl i'r Ddeddf ddod i rym.
Yn y flwyddyn cyn i’r Ddeddf ddod i rym, cafodd 3,245 o gysylltiadau â gwasanaethau cymdeithasol eu cofnodi lle’r oedd cosbi plant yn gorfforol yn ffactor. Mewn tua hanner y rhain (1,635), cosbi’n gorfforol oedd yr unig ffactor a gofnodwyd.
Yn y flwyddyn cyn i’r Ddeddf ddod i rym, cafodd 1,627 o asesiadau eu cofnodi gan wasanaethau cymdeithasol lle’r oedd cosbi plant yn gorfforol yn ffactor. Mewn bron i hanner y rhain (722), cosbi’n gorfforol oedd yr unig ffactor a gofnodwyd.
Atgyfeirio i'r gwasanaethau cymdeithasol: 1 Ebrill 2022 i 31 Mawrth 2023
Sylwer, dylid bod yn ofalus wrth wneud cymariaethau rhwng data sylfaenol y Gwasanaethau Cymdeithasol a data 2022-23. Roedd llai o awdurdodau lleol wedi darparu data yn 2021-22, a dim ond am chwe mis y darparwyd data gan rai ohonynt. Nododd rhai awdurdodau lleol hefyd fod newidiadau yn y ffordd y cynhaliwyd asesiadau ac yr adroddwyd amdanynt rhwng y ddwy flynedd hynny.
Yn y flwyddyn ar ôl i'r Ddeddf ddod i rym, cafodd 4,855 o gysylltiadau â'r gwasanaethau cymdeithasol eu cofnodi lle'r oedd cosbi plant yn gorfforol yn ffactor. Mewn ychydig llai na hanner y rhain (2,257) cosbi’n gorfforol oedd yr unig ffactor a gofnodwyd. Mae'r ffigurau diweddaraf ar gael ar StatsCymru (Nifer y cysylltiadau a dderbyniwyd yn ystod y flwyddyn lle'r oedd cosb gorfforol yn ffactor, yn ôl awdurdod lleol).
Yn y flwyddyn ar ôl i'r Ddeddf ddod i rym, cafodd 3,168 o asesiadau eu cofnodi gan y gwasanaethau cymdeithasol lle'r oedd cosbi plant yn gorfforol yn ffactor. Mewn bron i hanner y rhain (1,504), cosbi’n gorfforol oedd yr unig ffactor a gofnodwyd. Mae'r ffigurau diweddaraf ar gael ar StatsCymru (Nifer yr asesiadau a gwblhawyd yn ystod y flwyddyn lle'r oedd cosb gorfforol yn ffactor, yn ôl awdurdod lleol).
Gwasanaeth Erlyn y Goron
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yng Nghymru yn gallu monitro nifer yr achosion sy’n ymwneud â’r Ddeddf sy’n cael eu hatgyfeirio atynt, yn ogystal â faint o’r achosion hyn sy’n arwain at gyhuddiad, a beth yw canlyniadau’r achosion hyn.
Nid yw’n bosibl cyhoeddi ffigurau sy’n ymwneud ag atgyfeiriadau at Wasanaeth Erlyn y Goron yng Nghymru ar hyn o bryd, gan fod y nifer a gofnodwyd yn llai na phump, sy’n peri’r risg o ddatgelu gwybodaeth bersonol.
Manylion cyswllt
Awduron yr adroddiad: Chloe Whiteley
Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Chloe Whiteley
Yr Is-adran Tystiolaeth a Chefnogaeth ar gyfer Cydraddoldeb, Tlodi a Phlant
Ebost: Ymchwil.IechydAGwasanaethauCymdeithasol@llyw.cymru
Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 43/2024
ISBN digidol 978-1-83625-159-0