Neidio i'r prif gynnwy

Mae data newydd yn dangos bod anafiadau wedi lleihau ar ffyrdd ers cyflwyno'r terfynau cyflymder 20mya'r llynedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Mehefin 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r data, sy'n nodi cyfanswm nifer y rhai a anafwyd mewn gwrthdrawiadau a gofnodwyd gan yr heddlu, yn dangos bod nifer yr anafiadau ar y ffyrdd 20mya a 30mya wedi gostwng 218,  o 681 yn 2022 i 463 yn 2023.

Cyfanswm nifer yr anafiadau ar ffyrdd 20mya a 30mya yn Ch4 oedd y ffigwr chwarterol isaf a gofnodwyd y tu allan i gyfnod pandemig COVID.

Yn gyffredinol, yn 2023  cofnododd yr heddlu yng Nghymru gyfanswm o 3,262 o wrthdrawiadau ar y ffyrdd, gostyngiad o 1.6% o'i gymharu â 2022 a 24.7% yn is nag yn 2019 (cyn pandemig COVID).

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth:

Mae'r data a gyhoeddwyd heddiw yn dangos yn glir bod anafiadau ar ffyrdd 20mya a 30mya wedi lleihau ers cyflwyno 20mya - yr isaf erioed y tu allan i gyfnod pandemig COVID.

“Mae lle I wella o hyd, ac rydym yn disgwyl I’r niferoedd amrywio dros y blynyddoedd nesaf wrth I yrwyr addasu I’r cyflymder newydd, ond mae’n galonogol gweld bod pethau’n symud i’r cyfeiriad cywir. Mae unrhyw leihad yn nifer y bobl sy’n cael eu hanafu yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.”

"Prif amcan y polisi o'r dechrau'n deg oedd lleihau nifer yr anafiadau a helpu pobl i deimlo'n fwy diogel yn eu cymunedau ac mae data heddiw yn dangos ei bod hi'n bosibl cyflawni hyn.

"Ond, wrth i mi barhau i wrando ar sylwadau, rwy'n ymwybodol bod angen i ni fireinio'r polisi o hyd er mwyn sicrhau bod gennym y cyflymderau cywir ar y ffyrdd cywir. Rwyf hefyd yn barod i gydnabod y gallai fod angen i rai ffyrdd ddychwelyd yn ôl i 30mya. Fel rhan o'n proses o dderbyn sylwadau, byddwn yn annog pobl i gysylltu â'u cyngor lleol i ddweud ble yn eu barn nhw y dylai'r 20mya gael ei dargedu.