Neidio i'r prif gynnwy

Is-ddeddf 31: terfynau dal

  1. Ni chaiff unrhyw un, ond yn unol â pharagraff 5, bysgota, cymryd neu lanio, o unrhyw bysgodfa oddi mewn i’r Rhanbarth, unrhyw un o’r rhywogaethau a restrir isod.  Rhaid glanio’r holl bysgod o’r fath ar yr un diwrnod calendr a’u daliwyd ac ni chaniateir cadw’r pysgod hyn yn y môr mewn cawell gadw neu unrhyw declyn o’r fath.

    Rhywogaeth Uchafswm y nifer dyddiol
    Cimychiaid (Homarus gammarus)2 unigolyn
    Cimychiaid Coch (Palinurus elephas)1 unigolyn

    Crancod bwytadwy (Cancer pagurus)

    Crancod heglog (Maia squinado)

    Crancod llygatgoch  (Liocarcinus puber)

    Cyfanswm cyfunol o 5 unigolyn

    Corgimychiaid (Pandalidae and

    Palaemonidae)

    1 cilogram
    Cregyn moch  (Buccinum undatum)5 cilograms
  2. Ni chaiff unrhyw un, ond yn unol â pharagraff 5, bysgota trwy ddefnyddio cewyll neu drapiau, yn unrhyw ran o’r Rhanbarth, ac eithrio yn ôl hawliad Llywodraeth Cymru.

Is-ddeddf 31: gwarchod cimychiaid v-fylchog

  1. Mae’r is-ddeddf hon yn berthnasol i’r rhan o’r Rhanbarth oddi mewn i linell a dynnwyd ar ochr atfor y llinellau sylfaen 6 môr-filltir o’r llinellau sylfaen y mesurir lled y môr tiriogaethol sydd yn gyfagos i’r Deyrnas Unedig.
  2. At ddibenion y paragraff hwn y mae y "llinellau sylfaen" yn gyfystyr a’r llinellau sylfaen mewn bodolaeth ar 25 Ionawr, 1983, yn unol â Gorchymyn Dyfroedd Tiriogaethol Cyngor 1964 (1965 III t.6452A) ac a ddiwygiwyd gan Orchymyn Dyfroedd Tiriogaethol (Gwelliant) Cyngor 1979 (1979 II t.2866).
  3. Ni chaiff unrhyw un bysgota am neu gymryd unrhyw gimwch o’r rhywogaeth Homarus gammarus sydd wedi ei V-fylchu gyda bwlch o ffurf llythyren "V" yn un neu fwy o bum fflap gwyntyll y cynffon, neu wedi ei nodi mewn unrhyw ffordd arall neu wedi ei anafu mewn ffordd a olygir fod unrhyw un o bum fflap y cynffon ar goll neu wedi ei anafu mewn ffordd a allai guddio neu ddifetha’r V-fwlch neu unrhyw farc arall.
  4. Dylir dychwelyd unrhyw gimwch sydd wedi ei nodi yn y ffordd yma i’r môr ar unwaith.

Nodyn cynghori:

Cimychiaid Coch a Chimychiaid Wyog (Diffiniad: “Cimwch neu gimwch coch sy’n cario wyau sydd ynghlwm wrth ei gynffon neu ddarn allanol arall, neu a oedd yn cario wyau pan gafodd ei ddal”)

Am resymau cadwraeth cynghorir y dylai Cimychiaid Coch a Chimychiaid Wyog gael eu dychwelyd i’r môr ar unwaith bob amser.