Neidio i'r prif gynnwy

Framework updates.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mehefin 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Caffael cydweithredol prynu cerbydau trydan

Yn dilyn ymarfer caffael cydweithredol y llynedd, penodwyd FleetEV yn unig gyflenwr ar y fframwaith, sy'n dod i ben ym mis Tachwedd 2024. Mae'r fframwaith yn caniatáu i holl gwsmeriaid y sector cyhoeddus yng Nghymru gael mynediad at y trefniant ar gyfer eu gofynion cerbydau trydan.

Mae FleetEV yn darparu prisiau cystadleuol o dan y cytundeb o'i gymharu â llwybrau prynu traddodiadol gyda chwsmeriaid yn gwneud arbedion ac yn gweld amseroedd arwain llai wrth archebu cerbydau.

Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch: CaffaelMasnachol.Fflyd@llyw.cymru

Teiars a gwasanaethau cysylltiedig

Rydym wedi dyfarnu'r fframwaith teiars a gwasanaethau cysylltiedig ac mae bellach ar gael i'r sector cyhoeddus yng Nghymru ei ddefnyddio.

Mae'r cytundeb fframwaith yn cynnig llwybr cydymffurfiol, syml a chystadleuol i'r farchnad ar gyfer teiars ar gyfer cerbydau nwyddau trwm, ceir, cerbydau masnachol ysgafn a cherbydau arbenigol. Mae hefyd yn cynnwys newid a thrwsio teiars ar ochr y ffordd.

Mae Lot 1 yn cynnwys cerbydau nwyddau trwm ac mae Lot 2 yn cynnwys ceir a cherbydau masnachol ysgafn. Mae'r cytundeb hwn wedi'i isrannu ymhellach yn dair lot ranbarthol.

Mae manylion am sut i ddefnyddio'r fframwaith ar gael ar GwerthwchiGymru.

Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch: CaffaelMasnachol.Fflyd@llyw.cymru