Horizon Europe yw'r rhaglen Ewropeaidd gyfredol ar gyfer ymchwil ac arloesi.
Cynnwys
Crynodeb
Mae Horizon Ewrop yn darparu cyfle mawr i ymchwilwyr ac arloeswyr o Gymru gynnal gwyddoniaeth ac arloesi o'r radd flaenaf yng Nghymru, gyda golwg ar y llwyfan byd-eang.
Mae Llywodraeth Cymru yn annog sefydliadau yng Nghymru i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd hyn, ac ehangu enw da Cymru ym maes ymchwil ac arloesi.
Y diweddaraf am y berthynas y DU â Horizon Europe.
Mae’r DU bellach yn aelod cyswllt o Horizon Europe (1 Ionawr 2024).
Gall mudiadau gyflwyno cais a derbyn cyllid gan Horizon Europe ar gyfer rhaglen waith 2024 a rhaglenni blynyddoedd dilynol.
Sut i wneud cais
Bydd angen i chi:
- dod o hyd i alwad berthnasol ar y porthol cyfranogwyr
- dod o hyd i bartneriaid (mae angen tîm o 3 phartner o leiaf ar gyfer y rhan fwyaf o brosiectau)
- cyflwyno cynnig drwy'r porthol cyfranogwyr
Os ydych yn ystyried gwneud cais am y math hwn o gyllid ymchwil ac arloesi, mae croeso i chi gysylltu:
- e-bostiwch HorizonEwrop@llyw.cymru
- Cysylltu â’r Pwynt Cyswllt Cenedlaethol perthnasol yn y DU
Gall Uned Horizon Europe eich helpu chi gyda'r canlynol:
- cyngor ac arweiniad
- eich cyfeirio at gymorth arbenigol
- cysylltiadau â sefydliadau eraill a rhwydwaith Horizon
- datblygu sesiynau gwybodaeth a digwyddiadau wedi'u targedu
SCoRE Cymru
Yn rhoi cymorth ariannol i sefydliadau sydd am gymryd rhan mewn rhaglenni ymchwil ac arloesi Ewropeaidd. Gall gynnig y canlynol:
- hyd at £1,000 o gostau fesul taith i gwrdd â phartneriaid posibl neu bartneriaid presennol ac i fynychu digwyddiadau
- hyd at £10,000 ar gyfer costau datblygu cynnig megis cyngor cyfreithiol ac ymchwil i'r farchnad
Defnyddiwch SCoRE Cymru: ffurflen gais i wneud cais.