Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi'r sector gwirfoddol yng Nghymru a datblygu gweledigaeth newydd i helpu'r sector i ffynnu yn y dyfodol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Mehefin 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dyma neges Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, Lesley Griffiths, wrth iddi ddiolch i'r miloedd o wirfoddolwyr ledled Cymru yn ystod Wythnos Gwirfoddoli 2024 (3 i 9 Mehefin).

Mae'r wythnos yn gyfle pwysig i gydnabod gwaith caled pawb sy'n rhoi o'u hamser am ddim i helpu eraill.

Mae'r ffordd y mae pobl yn gwirfoddoli a'u rhesymau dros wirfoddoli yn newid. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud y bydd dulliau newydd ac arloesol i helpu sefydliadau'r trydydd sector i ddenu a chadw gwirfoddolwyr yn cael eu hategu gan weledigaeth newydd a blaengar i ysgogi mwy o gyfleoedd i wirfoddoli yng Nghymru.

Bydd y Grŵp Arwain Traws-sector ar Wirfoddoli, a sefydlwyd drwy Gyngor Partneriaeth y Trydydd Sector, yn arwain ar y gwaith o ddatblygu gweledigaeth dros y 12 mis nesaf.

Bydd y grŵp yn cydlunio dull newydd o wirfoddoli yng Nghymru i ddatblygu gweledigaeth ar gyfer gwirfoddoli sy'n unigryw i Gymru ac sy'n dod â phob sector yng Nghymru ynghyd, gan gynnwys fframwaith ar gyfer ei chyflawni. 

Dros y misoedd nesaf bydd y broses gydlunio, sy'n cynnwys arolygon a gweithdai, yn rhoi cyfle i bawb gyfrannu at helpu i lunio dyfodol gwirfoddoli.

Dywedodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol:

"Mae gwirfoddolwyr wrth eu gwaith ledled Cymru bob dydd a nos o'r flwyddyn, ac rwy'n ddiolchgar iawn iddyn nhw am bopeth y maen nhw'n parhau i'w wneud er budd y bobl a'r cymunedau y maen nhw'n eu helpu.

"Fel llywodraeth, rydyn ni wedi ymrwymo i'r sector. Ac rydyn ni am annog mwy o bobl i wirfoddoli, oherwydd mae yna ffyrdd di-ri yr ydyn ni i gyd yn dibynnu ar weithredoedd caredig syml a chymorth cilyddol.

"Rydyn ni'n gwybod bod y sector yn wynebu heriau wrth recriwtio a chadw gwirfoddolwyr, ac mae hyn yn dod ar adeg o alw cynyddol am eu gwasanaethau.

"Bydd y weledigaeth newydd ar gyfer gwirfoddoli yn hanfodol i helpu'r sector i ffynnu – a bydd mwy o fanylion yn cael eu darparu ar sut i gyfrannu at ddylunio'r weledigaeth maes o law, fel y gall pobl barhau i gynnig eu cymorth amhrisiadwy i eraill."