Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Mehefin 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw rwy’n datgan cyhoeddi’r cynllun blynyddol ar gyfer 2024-2025, sydd wedi ei gynhyrchu gan Yasmin Kahn a Johanna Robinson, Cynghorwyr Cenedlaethol VAWDASV. Cymeradwyais y cynllun hwn ar ran Llywodraeth Cymru.

Mae’r cynllun yn cael ei ddarparu’n unol â Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. Mae adran 22 o’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cynghorwyr Cenedlaethol baratoi cynllun blynyddol yn nodi eu dyheadau ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod. Rwyf wedi adolygu’r cynllun blynyddol yn diweddar, a chymeradwyo ei gyhoeddi.

Bu’r Cynghorwyr yn ymgysylltu’n sylweddol â rhanddeiliaid wrth baratoi ar gyfer darparu’r cynllun blynyddol, gan sicrhau y clywir lleisiau’r rheini sydd â’r mwyaf o angen am fynediad at gymorth a gwasanaethau. Rwy’n ddiolchgar am yr holl waith y maent yn ei wneud i gefnogi’r gwaith o gyflawni ein Strategaeth Genedlaethol a Glasbrint VAWADSV. Mae’r cynllun yn dangos ymrwymiad y cynghorwyr cenedlaethol i gefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru i sicrhau mai Cymru yw’r lle mwyaf diogel yn Ewrop i fod yn fenyw ac i ddileu pob ffurf ar drais ar sail rhywedd.