Neidio i'r prif gynnwy

Mae Sports4All yn cynnig sesiynau gweithgareddau rhad ac am ddim i fenywod yng Nghaerdydd, ac yn annog menywod a merched Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol i wella'u lles drwy gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Mehefin 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, bu Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol yn ymweld â sesiwn cryfder a chydbwysedd yng Nghaerdydd i weld sut mae Sport4All wedi elwa ar gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru.

Cafodd Women Connect First £210,000 o gyllid amlflwyddyn drwy'r Cynllun Grant Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon sy'n cael ei ddarparu ar gyfer y Sector Lleol gan Cymru Gwrth-hiliol. Nod y cyllid yw helpu menywod a merched o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol i ddilyn ffyrdd egnïol o fyw; sy'n un o'r camau gweithredu allweddol yn yr adran Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon yng Nghynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru Wrth-hiliol.

Mae Women Connect First yn helpu i gyflawni'r nodau hynny drwy gynnig sesiynau gweithgareddau am ddim drwy Sports4All, gan gynnwys dosbarthiadau ioga, nofio a beicio. Fe'u bwriedir ar gyfer menywod a merched ifanc Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol sydd, yn aml, yn wynebu rhwystrau ychwanegol sy'n eu hatal rhag cymryd rhan mewn chwaraeon.

Mae'r cyllid a ddarparwyd yn rhan o fuddsoddiad o £4.5 miliwn mewn sefydliadau diwylliant, treftadaeth a chwaraeon lleol, cenedlaethol a rhanbarthol ledled Cymru. Rhannwyd y cyllid rhwng Amgueddfa Cymru, Chwaraeon Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a 22 o sefydliadau eraill. Canolbwyntiodd pob un ohonynt ar brofiadau bywyd ac ar gyd-greu eu prosiectau gyda phobl yn eu cymunedau.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol:

Mae chwaraeon a diwylliant yn helpu i ddod â ni at ein gilydd, a dw i am wneud yn siŵr bod pawb yn gallu cymryd rhan yn y gweithgareddau hynny, a'u mwynhau. Gall sesiynau fel y rhai sy'n cael eu darparu gan Sports4All wneud gwahaniaeth gwirioneddol i iechyd a lles, a helpu pobl i ddod at ei gilydd.

Dywedodd Menaka Kodur, Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro Women Connect First: 

Nod prosiect Sports4All yw ennyn diddordeb menywod, merched ifanc a phlant o gefndiroedd amrywiol mewn chwaraeon a gweithgareddau llesol eraill. Mae gweld y menywod a'u teuluoedd yn sesiynau Sports4All a chlywed y straeon am y cynnydd maen nhw'n ei wneud a'r hyn maen nhw'n ei gyflawni, yn dangos bod menywod o blith y lleiafrifoedd ethnig, o gael y gefnogaeth briodol, yn gallu goresgyn y rhwystrau sydd, yn aml, yn eu hatal rhag mynd ati i wella'u hiechyd corfforol a meddyliol. Yn achos rhai ohonynt, mae'r newid wedi newid eu bywydau. Mae'r Cynllun Grant Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon a ddarperir gan Lywodraeth Cymru o dan Cymru Gwrth-hiliol, ynghyd â chefnogaeth partneriaid y prosiect yn y gymuned, wedi'n galluogi i ddarparu sesiynau chwaraeon a ffitrwydd sy'n ddiwylliannol briodol i fenywod beth bynnag y bo'u sefyllfa.