Neidio i'r prif gynnwy

1. Cyflwyniad a chefndir

Bydd Etholiad Cyffredinol i Senedd y Deyrnas Unedig yn cael ei gynnal ar 4 Gorffennaf 2024. Dechreuodd cyfnod cynetholiadol ffurfiol Llywodraeth y DU am un funud wedi canol nos ar 25 Mai 2024.

Ni fydd hyn yn effeithio ar y rhan fwyaf o’n gwaith – bydd ein busnes arferol yn parhau yn ystod ymgyrch Etholiad Cyffredinol y DU. Er hynny, mae’n anochel y bydd cyfyngiadau ar rai o’n gweithgareddau.

Yn rhinwedd ein swyddi fel swyddogion Llywodraeth Cymru, ein rôl ni yw parhau i gynorthwyo’r Gweinidogion wrth eu gwaith fel arfer, gan gofio’r un pryd fod angen osgoi gweithredu mewn modd y bernir, neu y gellid barnu, ei fod yn gysylltiedig â gwleidyddiaeth plaid neu mewn modd sy’n debygol o fod â chysylltiad uniongyrchol ag Etholiad Seneddol y DU.

Yn ystod unrhyw gyfnod cynetholiadol, mae’n bwysig bod y cyhoedd yn hyderus nad yw arian Llywodraeth Cymru, sy’n cynnwys amser a sylw y gwasanaeth sifil, yn cael ei ddefnyddio i helpu unrhyw blaid wleidyddol benodol nac i gefnogi unrhyw weithgaredd gwleidyddol yn ystod ymgyrch etholiadol.

Mae’n ofynnol i’r gwasanaeth sifil fod yn gwbl amhleidiol a diduedd yng nghyswllt etholiadau. Er mwyn helpu i sicrhau hyn, mae Prif Weinidog Cymru yn gwahodd y Cabinet i ymrwymo i ddilyn canllawiau i atal unrhyw achosion gwirioneddol neu ymddangosiadol o ddefnyddio adnoddau cyhoeddus at ddibenion ymgyrchoedd neu weithredoedd sydd wedi’u llunio yn bennaf i ddylanwadu ar ganlyniad yr etholiad. Mae’r Ysgrifennydd Parhaol, gyda chefnogaeth y Prif Weinidog, yn cytuno ar ganllawiau ategol ar gyfer y gwasanaeth sifil ar ymddygiad yn ystod cyfnod cynetholiadol.

Mae’r gweithredoedd hyn yn seiliedig ar y codau ymddygiad priodol ar gyfer Gweinidogion a Gweision Sifil, y cyfeirir atynt isod. Gweler y dolenni at God y Gweinidogion a Chod y Gwasanaeth Sifil.

Diben y nodyn hwn yw rhoi arweiniad cyffredinol ar yr effaith y gallai cyfnod cynetholiadol Llywodraeth y DU ei chael ar swyddogion sy'n gweithio i Lywodraeth Cymru. Disgwylir y bydd staff Comisiwn y Senedd yn cael arweiniad ar wahân a gaiff ei baratoi yng ngoleuni eu hamgylchiadau penodol nhw. Bydd cyrff cyhoeddus datganoledig Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Leol yng Nghymru yn cael eu hysbysu am egwyddorion y canllawiau hyn. Bydd y canllawiau yn gymwys hyd at y diwrnod pleidleisio.

Nid yw'r canllawiau hyn yn ymdrin â phob achos a allai godi yn ystod y cyfnod cynetholiadol, ac nid oes modd iddynt wneud hynny.

Os oes gennych unrhyw amheuon o gwbl am yr hyn y dylech ei wneud, cysylltwch â’ch Cyfarwyddwr Cyffredinol / Cyfarwyddwr eich Adran neu â'r swyddog cyswllt priodol a restrir ym mharagraff 11 o'r nodyn hwn.

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil yn parhau i fod yn gymwys yn ystod y cyfnod cynetholiadol. O dan y cod hwnnw, rhaid i weision sifil barchu dwy egwyddor sylfaenol bob amser:

  1. bod yn wleidyddol ddiduedd, a bod yn amlwg felly i eraill
  2. sicrhau nad oes adnoddau cyhoeddus yn cael eu defnyddio at ddibenion gwleidyddiaeth plaid.

O dan y Cod hwnnw, disgwylir i weision sifil Llywodraeth Cymru fod yn deyrngar i Lywodraeth Cymru. Felly, o ran y canllawiau pellach sy’n gymwys yn Adrannau Llywodraeth y DU – sydd i bob pwrpas yn atal llawer o weithgarwch y llywodraeth dros gyfnod yr ymgyrch – nid ydynt yn gymwys yng Nghymru. O'r herwydd, dylai swyddogion barhau i weithio tuag at gefnogi’r Gweinidogion a chyflawni'r ymrwymiadau yn y Rhaglen Lywodraethu ac i ymgymryd â busnes arall Llywodraeth Cymru.

2. Cynorthwyo’r Gweinidogion: Papurau briffio, cyflwyniadau ysgrifenedig a busnes arferol

Yn ystod y cyfnod cynetholiadol ni ddylid, yn arferol, ofyn i'r Gweinidogion wneud penderfyniadau sensitif neu uchel eu proffil ar faterion sy'n effeithio'n uniongyrchol ar Lywodraeth y DU neu sy’n effeithio ar berthynas Llywodraeth Cymru â hi, pe gellid dehongli hynny fel ymgais i ddylanwadu ar yr etholiad. Dylid gohirio penderfyniadau o'r fath tan ar ôl yr etholiad. Dylid parhau i ddelio â materion arferol.

Yn fwy cyffredinol, dylai swyddogion barhau i roi cyngor i'r Gweinidogion a’u briffio, a bwrw ymlaen â'u gwaith fel arfer, heb anghofio'r gofynion arferol i fod yn ddiduedd. Mae hyn yn golygu gwneud yn siŵr nad oes unrhyw beth yn ein gwaith (gan gynnwys papurau briffio ac atebion i ohebiaeth) a allai awgrymu neu a allai beri i rywun feddwl ein bod yn cefnogi neu'n gwrthwynebu un neu fwy o'r pleidiau gwleidyddol yng nghyd-destun etholiad yn y DU. Os oes gennych unrhyw amheuon, dylech geisio cyngor eich Cyfarwyddwr Cyffredinol / Cyfarwyddwr eich Adran.

3. Ymdrin â Gohebiaeth, Cwestiynau'r Senedd, Ceisiadau o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, ac Ymholiadau

Dylai swyddogion, drwy gydol y cyfnod cynetholiadol, barhau i lunio ymatebion i ohebiaeth y Gweinidogion a llunio atebion i Gwestiynau'r Senedd yn unol â'r gweithdrefnau sy'n bodoli eisoes. Fodd bynnag, noder, er mwyn sicrhau bod darpar ymgeiswyr seneddol yn cael eu trin yn gyfartal, y bydd pob unigolyn y nodir ei fod yn ymgeisydd yn cael ymateb Gweinidogol.

Os yw swyddogion yn pryderu nad yw’n briodol, o bosibl, ymateb i eitem benodol o ohebiaeth oherwydd natur yr ateb a gâi ei roi, yna dylid paratoi cyngor i’r Gweinidogion benderfynu sut y dylid ymdrin â gohebiaeth o’r fath.

Mae pob cais am wybodaeth gofnodedig yn dod o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, a rhaid ymateb iddynt o fewn 20 niwrnod gwaith. Os yw ceisiadau’n ymwneud â datgelu gwybodaeth gofnodedig nad yw'n wybodaeth gyhoeddus, dylid parhau i ymdrin â'r ceisiadau hynny yn unol â’r broses arferol. Er hynny, yn ystod y cyfnod cynetholiadol, mae’n arbennig o bwysig i swyddogion gofio goblygiadau gwleidyddol ymatebion i geisiadau a dylid trafod sut i ymdrin â cheisiadau sydd â goblygiadau gwleidyddol â’r Cyfarwyddwr Cyffredinol / Cyfarwyddwr Adran perthnasol.

Dylid ymdrin â phob cais o'r fath yn yr un ffordd, ni waeth beth fo ymlyniad gwleidyddol y sawl sy'n ei wneud.

4. Cyfathrebu

Gall a dylai Llywodraeth Cymru barhau i gyhoeddi a chyflwyno ei pholisïau i'r cyhoedd yn ystod ymgyrch Etholiad Cyffredinol y DU.

Yn ystod y cyfnod cynetholiadol, fodd bynnag, ni ddylid gwneud unrhyw gyhoeddiadau a allai effeithio'n uniongyrchol ar ganlyniad yr etholiad. Dylid gohirio cyhoeddiadau o'r fath tan ar ôl yr etholiad.

Ni ddylai swyddogion Llywodraeth Cymru geisio gwneud cyhoeddiadau ac ati ar y cyd ag adrannau Whitehall yn ystod y cyfnod hwn. Mae Llywodraeth y DU yn destun rheolau llawer tynnach yn ystod yr ymgyrch. Os oes angen gwneud cyhoeddiad ar y cyd, dylid ei ohirio tan ar ôl yr etholiad.

Yn fwy cyffredinol, dylid cymryd gofal arbennig wrth wneud cyhoeddiadau, trefnu digwyddiadau cyhoeddus, rhannu negeseuon ar wefan a sianeli cyfryngau cymdeithasol Llywodraeth Cymru, ac ymgymryd â gwaith marchnata a chyhoeddusrwydd y telir amdano. Dylai'r gwaith fynd yn ei flaen fel arfer, ond dylai’r Cyfarwyddwr Cyffredinol / Cyfarwyddwr Adran a’r swyddogion cyfathrebu perthnasol ddefnyddio prawf sensitifrwydd ym mhob achos.

Y rheol gyffredinol yw na ddylid rhoi'r argraff i unrhyw un fod unrhyw un neu unrhyw rai o'r gweithgareddau hyn yn gysylltiedig â gwleidyddiaeth plaid. Dylid bod yn arbennig o ofalus ynghylch cyhoeddiadau newydd ac arwyddocaol am bolisïau neu wariant sy’n ymwneud yn uniongyrchol ag etholaethau unigol yn ystod cyfnod yr etholiad, er mwyn lleihau’r canfyddiad y gallai’r rhain ddylanwadu ar ganlyniad yr etholiad. Gellir dal i wneud cyhoeddiadau gwariant rhanbarthol a chenedlaethol os oes angen, yn unol â’r ffordd y gwneir hynny fel arfer.

Os oes gennych unrhyw amheuon, dylech geisio cyngor y Gyfarwyddiaeth Gyfathrebu. Mae canllawiau penodol wedi’u darparu ar gyfer y rhai sy’n gweithio yn y proffesiwn cyfathrebu (Atodiad A).

Bydd swyddogion yn y Gwasanaeth Gwybodaeth a Dadansoddi neu swyddogion eraill sy’n cynhyrchu ystadegau swyddogol yn cael eu canllawiau manwl eu hunain hefyd (Atodiad B).

5. Cydweithio ag Adrannau Whitehall

Bydd swyddogion Whitehall hefyd yn cael canllawiau am yr etholiad oddi wrth Swyddfa'r Cabinet yn ystod y cyfnod cynetholiadol. Os yw swyddogion Llywodraeth Cymru yn arfer cydweithio ag adrannau Llywodraeth y DU, dylent barhau i drafod â'r swyddogion sy’n cyfateb iddynt yn Whitehall.

6. Ymgynghori

Os yw Llywodraeth Cymru yn paratoi polisi, rhaglen neu gynigion deddfwriaethol newydd ac os yw'n ofynnol iddi ymgynghori, bydd ymgyngoriadau, fel arfer, yn dal i gychwyn a mynd rhagddynt yn ystod y cyfnod cynetholiadol, oni bai bod pwyslais penodol ar faterion sy’n ymwneud â Llywodraeth y DU. Os oes ymgyngoriadau i fod i ddigwydd yn ystod y cyfnod cynetholiadol a allai effeithio ar ein perthynas â Llywodraeth y DU yn benodol, dylai’r Cyfarwyddwyr Cyffredinol / Cyfarwyddwr Adran gynnal prawf sensitifrwydd er mwyn gweld a oes unrhyw faterion a allai fod yn rhai dadleuol yn wleidyddol, ac wedyn ei drafod ag Is-adran y Cabinet yn ôl yr angen.

Bydd ymgyngoriadau ar gyfer y DU gyfan neu ymgyngoriadau ar y cyd rhwng un o adrannau Llywodraeth Whitehall a Llywodraeth Cymru sydd eisoes wedi cychwyn ar ddechrau’r cyfnod cynetholiadol yn parhau. Er hynny, ni chaiff unrhyw ymgyngoriadau newydd eu lansio gan Adrannau Llywodraeth y DU yn ystod y cyfnod hwn.

7. Gweithgarwch gwleidyddol gan swyddogion

Dylai swyddogion ymgynefino â’r rheolau ar weithgarwch gwleidyddol, gan fod angen i'r rhan fwyaf o staff y llywodraeth ofyn am ganiatâd cyn cymryd rhan mewn unrhyw weithgarwch gwleidyddol.

Os oes unrhyw un sy’n cael ei gyflogi* gan Lywodraeth Cymru am ymgymryd ag unrhyw weithgarwch gwleidyddol neu weithgarwch ymgyrchu mewn cysylltiad ag Etholiad Cyffredinol y DU, gan gynnwys sefyll fel ymgeisydd, dylai geisio caniatâd yn ysgrifenedig yn gyntaf oddi wrth ei Bartner Busnes Adnoddau Dynol, gan wneud hynny drwy ei reolwr llinell. Mae hyn yn cynnwys gweithwyr cyflogedig sydd ar secondiad i gyrff y tu allan i Lywodraeth Cymru ac, yn ystod cyfnod eu penodiad, unigolion sydd ar secondiad i Lywodraeth Cymru.

Wrth benderfynu a ddylid rhoi caniatâd ai peidio, y llinyn mesur yw a yw'r sawl sy'n gofyn yn gweithio mewn "maes sensitif" ai peidio (mae'r term "maes sensitif" yn cael ei esbonio'n fanwl yn y polisi ar weithgareddau gwleidyddol). Gallai Llywodraeth Cymru osod amodau neu gyfyngiadau ar unrhyw ganiatâd a roddir. Er enghraifft, mae'n bosibl y byddai'n caniatáu canfasio dienw dros y ffôn ond nid canfasio o ddrws i ddrws neu annerch cyfarfodydd.

* Mae gan weithwyr sydd ar raddau “diwydiannol ac ymarferol” yr hawl i gymryd rhan mewn gweithgarwch gwleidyddol.

8. Defnyddio tir ac Adeiladau Llywodraeth Cymru

Ni ddylid defnyddio tir ac adeiladau Llywodraeth Cymru at ddibenion ymgyrchu. Ni ddylech geisio defnyddio tir ac adeiladau Llywodraeth Cymru at ddibenion o'r fath, nac arddangos posteri etholiadau ac ati ar safleoedd Llywodraeth Cymru. Bydd canllawiau tebyg yn cael eu hanfon at Ymddiriedolaethau'r GIG, Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, ac ati, ynghylch defnyddio'u hystadau nhw.

9. Swyddogion yn Swyddfeydd Preifat y Gweinidogion

Dylai swyddogion yn Swyddfeydd Preifat y Gweinidogion barhau i gynorthwyo'r Gweinidogion yn eu dyletswyddau swyddogol drwy gydol y cyfnod cynetholiadol.

Efallai y bydd Gweinidogion am gymryd rhan mewn gweithgarwch ymgyrchu ac fel y cyfryw efallai y bydd swyddogion y Swyddfeydd Preifat am drafod egwyddorion y canllawiau hyn gyda’r Gweinidogion cyn dechrau’r cyfnod cynetholiadol ffurfiol, neu pan fo’n briodol. Bydd papur Cabinet ar wahân ar gael, yn nodi disgwyliadau Prif Weinidog Cymru o ran ymddygiad y Gweinidogion yn ystod y cyfnod cynetholiadol.

Bydd y Gweinidogion, yn ôl yr arfer, yn ddarostyngedig i delerau Cod y Gweinidogion, sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt gadw eu rolau Gweinidogol a gwleidyddol ar wahân. Dylai swyddogion y Swyddfeydd Preifat barhau i gynorthwyo'r Gweinidogion â’udyletswyddau swyddogol bob amser, ond dylent ddarllen y canllawiau ar ymdrin â Gohebiaeth, Cwestiynau'r Senedd a cheisiadau o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a amlinellir ym mharagraff 3 o'r canllawiau hyn.

Ni ddylai swyddogion y Swyddfeydd Preifat fynd i ddigwyddiadau sy'n amlwg at ddibenion yn ymwneud â phlaid neu at ddibenion ymgyrchu. Ni ddylent ychwaith ganiatáu i adnoddau Llywodraeth Cymru gael eu defnyddio at ddibenion ymgyrchu. Yn benodol, ni ddylent drefnu ceir swyddogol nac ystafelloedd yn adeiladau Llywodraeth Cymru nac yn unman arall, na chomisiynu areithiau na phapurau briffio, na threfnu cefnogaeth arall ar gyfer digwyddiadau sy'n gysylltiedig â phlaid neu ag ymgyrchu.

10. Cynghorwyr arbennig

Bydd Cynghorwyr Arbennig yn parhau i roi cyngor a chymorth, gan gynnwys cyngor gwleidyddol, i'r Gweinidogion. Bydd Cynghorwyr Arbennig wedi derbyn canllawiau ar wahân ar sut i ymddwyn yn ystod y cyfnod cynetholiadol.

11. Rhagor o wybodaeth a manylion cyswllt

Yn y lle cyntaf, dylech bob amser gymryd gofal ac os oes gennych unrhyw amheuon, dylech drafod â’ch rheolwr llinell, gan uwchgyfeirio’r mater i’ch Cyfarwyddwr neu Gyfarwyddwr eich Adran os oes angen. Gallwch gael rhagor o gymorth a chyngor, yn enwedig mewn perthynas ag achosion penodol, oddi wrth y cysylltiadau isod. Dylech anfon unrhyw ymholiadau sydd gennych drwy e-bost.

Ar gyfer ymholiadau ynghylch:

  • Briffio Gweinidogion a materion tebyg: Yr Ysgrifennydd Preifat perthnasol.
  • Gohebiaeth Weinidogol: Y tîm gohebu.
  • Caniatáu i'r cyhoedd weld gwybodaeth: Blwch negeseuon e-bost y Swyddog Rhyddid Gwybodaeth.
  • Ymddygiad personol swyddogion (gan gynnwys cynghorwyr arbennig) sydd am gymryd rhan mewn gweithgarwch ymgyrchu ac ati: Eich Tîm Partneriaid Busnes Adnoddau Dynol.
  • Cyhoeddiadau, digwyddiadau, marchnata a chyhoeddusrwydd: Y Pennaeth Cyfathrebu Strategol, neu y Pennaeth Newyddion.
  • Swyddogion yn y Swyddfeydd Preifat: Ysgrifenyddiaeth y Cabinet.
  • Unrhyw gwestiwn arall am y canllawiau hyn: Ysgrifenyddiaeth y Cabinet.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Mai 2024

Atodiad A: Guidance on communications for all staff in the pre-election period

Mae’r canllawiau hyn yn berthnasol i’r holl staff sy’n ymwneud â chyfathrebu a marchnata ac maent yn ategu’r Canllawiau Cyffredinol ar gyfer Swyddogion Llywodraeth Cymru. Daethant i rym ar 25 Mai 2024, ac fe fyddant yn parhau mewn grym tan 10pm ar 4 Gorffennaf 2024.

Mae’r canllawiau yn ymwneud â’r gweithgareddau isod:

  • y cyfryngau: darlledu, print ac electronig
  • sianeli mewnol, sianeli cyfryngau cymdeithasol neu sianeli electronig eraill
  • cyfryngau y telir amdanynt
  • cyfathrebu â rhanddeiliaid ac unrhyw gyfathrebu uniongyrchol arall; digwyddiadau, ymweliadau
  • unrhyw weithgareddau cyfathrebu eraill sy’n debygol o effeithio ar ganlyniadau’r etholiad

Bydd Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn parhau i gyflawni eu swyddogaethau yr un fath ag o’r blaen yn ystod y cyfnod cynetholiadol. Ond rhaid cofio y gallai rhai o weithgareddau Llywodraeth Cymru effeithio ar ymgyrch Etholiad Cyffredinol y DU.

Nid yw Gweinidogion Cymru yn cael eu cyfyngu rhag siarad am record Llywodraeth y DU, boed hynny’n gadarnhaol neu’n negyddol, yn ystod cyfnod yr etholiad. Fodd bynnag, rhaid gofalu bod cymorth a gweithgarwch cyfathrebu y gwasanaeth sifil yn cael eu cynnal i hyrwyddo safbwynt Llywodraeth Cymru, a’u bod yn cydymffurfio’n llwyr â’n dyletswydd o ran didueddrwydd.

Gweithgareddau Cyfathrebu

Yn aml, bydd gofyn barnu a yw gweithgaredd cyfathrebu yn un addas, ynteu a allai gael ei weld fel rhywbeth a allai ddylanwadu ar ganlyniad etholiad. Felly, dylid pwyso a mesur pob achos yn unigol, gan ystyried y pwyntiau canlynol:

  • Ymgyrchoedd y telir amdanynt – ni ddylent fod yn agored i feirniadaeth eu bod yn cael eu cynnal at ddibenion pleidiol wleidyddol.
  • Dylid bod yn ofalus wrth drin ymweliadau arfaethedig gan Weinidogion. Yn amlwg, ni ddylid rhoi cymorth swyddogion na chyhoeddusrwydd gan y llywodraeth mewn perthynas ag ymweliadau a digwyddiadau a gynhelir gan bleidiau at ddiben gwleidyddol neu er mwyn ymgyrchu.
  • Ni ddylid cyhoeddi datganiadau i’r wasg ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn ystod y cyfnod cynetholiadol.
  • Rhaid bod yn hynod ofalus wrth gyfrannu dyfyniadau gan Ysgrifenyddion y Cabinet a Gweinidogion i’w cynnwys mewn datganiadau i’r wasg gan sefydliadau eraill. Dylai’r Pennaeth Newyddion gael gweld pob datganiad i’r wasg a anfonir atom gan sefydliadau eraill, yn enwedig os ydynt yn ymwneud yn benodol â Llywodraeth y DU.
  • Ni ddylai dyfyniadau Gweinidogol sydd i’w defnyddio mewn datganiadau trydydd parti gael eu cymeradwyo cyn gweld drafft terfynol o’r datganiad cyfan. Mae angen inni weld pwy arall sy’n cael ei ddyfynnu a beth maen nhw’n ei ddweud, ac mae angen inni wybod ym mha gyd-destun yn union y mae’r Gweinidog yn cael ei ddyfynnu.
  • Dylid bod yn ofalus wrth roi ymatebion i’r cyfryngau yn ystod y cyfnod cynetholiadol ac, yn yr un modd â’n busnes arferol, ni ddylent allu cael eu dehongli fel safbwynt plaid wleidyddol. Unwaith eto, gofynnwch am gyngor gan Toby Mason neu Simon Jenkins os ydych yn ansicr.

Rhaid i bob datganiad, llinell a dyfyniad i’r wasg gael eu clirio yn unol â’r protocol arferol.

Defnyddio safleoedd a deunyddiau Llywodraeth Cymru neu gyrff a noddir ganddi

  • Ni ddylai safleoedd y llywodraeth gael eu defnyddio at unrhyw ddibenion etholiadol.
  • Ni ddylai deunyddiau a gynhyrchir gan y llywodraeth gael eu defnyddio mewn unrhyw fodd i gefnogi’r ymgyrchu, ee ar wefannau ac mewn taflenni.
  • Yn achos eiddo’r GIG, mater i’r Ymddiriedolaeth GIG berthnasol fydd penderfynu. Ond os caniateir ymweliadau ag ysbytai, er enghraifft, ni ddylid amharu ar y gwasanaethau a dylai’r un cyfleusterau gael eu cynnig i’r ymgeiswyr eraill. Fodd bynnag, cynghorir peidio â chaniatáu i gyfarfodydd etholiadol gael eu cynnal yn eiddo’r GIG.
  • Rhaid i benderfyniadau ar ddefnyddio eiddo arall yn y sector cyhoeddus neu eiddo cysylltiedig gael eu gwneud gan y rhai sy’n gyfrifol yn gyfreithiol am yr eiddo dan sylw. Er enghraifft, yn achos ysgolion, y Llywodraethwyr neu’r Awdurdod Addysg Lleol neu Fwrdd yr Ymddiriedolaeth ac yn y blaen. Os bydd y rhain yn cysylltu ag Adrannau, dylid dweud wrthynt mai eu cyfrifoldeb nhw yw gwneud y penderfyniad ond y bydd disgwyl iddynt fel rheol drin ymgeiswyr pob plaid yn gyfartal.

Casgliad

Os oes gennych unrhyw amheuaeth, y peth gorau i’w wneud bob amser yw holi’r Pennaeth Newyddion neu’r Pennaeth Cyfathrebu Strategol cyn ymgymryd ag unrhyw weithgareddau cyfathrebu a allai fynd yn groes i’r canllawiau hyn.

Atodiad B: Canllawiau ar gyfer gweithgarwch ystadegol, arolygon ac ymchwil yn ystod y cyfnod cynetholiadol

Dyma ganllawiau i'r holl staff sy'n ymwneud â gweithgarwch ystadegol, arolygon ac ymchwil. Mae hyn yn cynnwys staff yn y Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi (KAS) ond mae hefyd yn berthnasol i staff mewn rhannau eraill o Lywodraeth Cymru. Hefyd, dylai'r cyrff sy'n bartneriaid inni ac eraill sy'n cynhyrchu ystadegau swyddogol yng Nghymru dalu sylw i'r canllawiau hyn. Maent yn ategu'r Canllawiau ar gyfer Swyddogion Llywodraeth Cymru. Bydd y canllawiau yn berthnasol hyd at y diwrnod pleidleisio ar 4 Gorffennaf 2024, a chan gynnwys y diwrnod hwnnw.

Nid yw'r canllawiau yn ymdrin â phob posibilrwydd, ac os bydd unrhyw faterion eraill yn codi yn ystod yr ymgyrch, dylech eu codi yn gyntaf gyda'r Prif Ystadegydd neu'r Prif Swyddog Ymchwil Gymdeithasol a fydd yn rhoi arweiniad.

I grynhoi

Ar gyfer ystadegau swyddogol – fel arfer, sicrhewch eu bod yn cydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (dogfen Saesneg yn unig) a'r Gorchymyn Gweld Ystadegau Swyddogol cyn eu Rhyddhau (Cymru) 2009.

Ar gyfer ymchwil – mae cod Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth a'r protocol cyhoeddi yn parhau i weithredu yn ystod y cyfnod cynetholiadol.

Rhaid osgoi:

  • Rhyddhau cyhoeddiadau ystadegol neu ymchwil ad hoc
  • Cyhoeddi ystadegau ar ddyddiad yr etholiad
  • Cynnal arolygon neu ymchwil arall a allai fod yn ddadleuol
  • Dosbarthu deunydd a ffurf swmp a allai gael ei ddefnyddio at ddibenion ymgyrchu.

Os oes unrhyw amheuaeth, cysylltwch â'r Pennaeth Safonau a Pholisïau Ystadegol, y Prif Ystadegydd neu'r Prif Swyddog Ymchwil Gymdeithasol (manylion cyswllt isod).

Egwyddorion

1. Dylech bob amser ddilyn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, (dogfen Saesneg yn unig), Gorchymyn Gweld Ystadegau Swyddogol cyn eu Rhyddhau (Cymru) 2009 a chod ymarfer a phrotocol cyhoeddi Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth.

2. Peidiwch â chystadlu â phleidiau ac ymgeiswyr am sylw'r cyhoedd.

3. Peidiwch â chymryd rhan mewn gwleidyddiaeth plaid na chael eich defnyddio at ddibenion gwleidyddiaeth plaid na rhoi eich hun mewn sefyllfa lle bo'n ymddangos eich bod yn gwneud hynny.

Cyhoeddi ystadegau

4. Dylid cyhoeddi deunydd ystadegol y rhoddwyd rhag-hysbysiad amdano cyn dechrau'r cyfnod cynetholiadol. Peidiwch â chyhoeddi unrhyw ddeunydd ystadegol ad hoc na roddwyd rhag-hysbysiad amdano a pheidiwch â gohirio cyhoeddi unrhyw ddeunydd y rhoddwyd rhag-hysbysiad amdano gan y gallai'r cymhelliad dros wneud hynny gael ei gwestiynu.

5. Dylech osgoi cyhoeddi ystadegau swyddogol ar ddyddiad yr etholiad. Os oes allbwn wedi’i gyhoeddi ymlaen llaw ar gyfer y dyddiad hwnnw, dylech ymgynghori â’r Pennaeth Safonau a Pholisïau Ystadegol a glynu wrth ganllawiau'r GSS ar gyhoeddi ystadegau swyddogol ar ddiwrnodau pleidleisio.

6. Os na ellir osgoi gohirio, byddwch yn dryloyw am y rhesymau dros ohirio mewn unrhyw ohebiaeth gyhoeddus ac, os oes modd, dylech ddatgan pryd y mae'n debygol y bydd yr ystadegau gohiriedig yn cael eu cyhoeddi. Dylech osgoi gohirio pan fydd hynny’n golygu bod ystadegau’n cael eu cyhoeddi ar ôl y diwrnod pleidleisio yn lle cyn hynny.

7. Efallai y bydd rhai amgylchiadau eithriadol sy'n gofyn am gyhoeddi ystadegau ad hoc na roddwyd rhag-hysbysiad amdanynt (er enghraifft, pan fydd ystadegyn heb ei gyhoeddi wedi’i ddefnyddio’n gyhoeddus). Dylid trafod hyn â'r Prif Ystadegydd.

8. Dylid parhau i gyhoeddi negeseuon trydar yn ymwneud â chyhoeddi deunydd ystadegol drwy gyfrifon @ystadegaucymru a @statisticswales. Fodd bynnag, yn ystod y cyfnod cynetholiadol, dylid osgoi cynhyrchu ffeithluniau neu siartiau newydd ar gyfer cyfryngau cymdeithasol nad ydynt wedi'u llunio na'u cyhoeddi yn flaenorol.

9. Cymerwch ofal mawr drwy'r amser i fod yn ddiduedd ac yn wrthrychol yn y modd y byddwch yn cyflwyno ac yn disgrifio ystadegau ac mewn cyfarfodydd briffio wyneb yn wyneb.

10. Dylid osgoi blogiau ystadegol newydd yn ystod y cyfnod cynetholiadol.

Cyhoeddi adroddiadau ymchwil

11. Dylid cyhoeddi unrhyw adroddiadau y rhoddwyd rhag-hysbysiad amdanynt cyn dechrau'r cyfnod cynetholiadol. Fodd bynnag, gan ystyried y cyfnod rhag-hysbysiad byr (pythefnos) ar gyfer ymchwil, y disgwyliad cyffredinol yw na fydd ymchwil yn cael ei chyhoeddi yn ystod y cyfnod. Er hyn, os oes rhesymau dros gyhoeddi yn ystod y cyfnod cynetholiadol, dylid rhoi cyfnod rhag-hysbysiad hirach a chlirio'r mater â'r Prif Swyddog Ymchwil Gymdeithasol. Gallwch ofyn am gyngor ar achosion penodol hefyd gan y Prif Swyddog Ymchwil Gymdeithasol.

Caffael ymchwil

12. Ni ddylid ymgymryd â gweithgarwch caffael ar gyfer ymchwil newydd yn ystod y cyfnod cynetholiadol. Dylid gofyn am gyngor gan y Prif Swyddog Ymchwil Gymdeithasol os oes amgylchiadau sy'n golygu na fyddai'n bosibl aros tan ar ôl yr etholiad i ddechrau'r broses gaffael.

Ceisiadau am wybodaeth neu gyngor

13. Dylid ymdrin â cheisiadau am wybodaeth ffeithiol yn unol â'r Canllawiau ar gyfer Swyddogion Llywodraeth Cymru. Os nad yw'r wybodaeth y gofynnir amdani yn ffeithiol, cyfeiriwch y person at Swyddfa Breifat y Gweinidog priodol.

14. Byddwch yn deg wrth ymateb i geisiadau am wybodaeth ffeithiol gan ymgeiswyr – er enghraifft o ran manylder yr wybodaeth y byddwch yn ei rhoi ac o ran prydlondeb eich ateb.

15. Dylech barhau i ymateb i geisiadau am arweiniad ffeithiol ar fethodoleg.

16. Cymerwch ofal mawr wrth ymdrin â cheisiadau am gyngor ar ddehongli neu ddadansoddi ystadegau, yn arbennig ceisiadau sy'n ymwneud â pholisïau neu addewidion maniffesto pleidiau. Peidiwch â chostio polisïau nac addewidion heb ymgynghori'n gyntaf ag Is-adran y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth.

17. Bydd y deunydd sy'n cael ei lunio'n rheolaidd mewn ymateb i geisiadau am wybodaeth ystadegol bob pythefnos yn parhau i gael ei gyhoeddi drwy'r cyfnod cynetholiadol. Dylid sicrhau y rhoddir gwybod i'r tîm cyhoeddiadau Ystadegol am geisiadau o'r fath gan ei bod yn bwysig y gwneir hyn yn systematig gan osgoi'r argraff o ddethol.

Ceisiadau am ddeunydd sydd wedi'i gyhoeddi

18. Gallwch ddarparu niferoedd bach o daflenni, papurau cefndir neu gyhoeddiadau am ddim a oedd ar gael cyn cyfnod yr etholiad, mewn ymateb i geisiadau amdanynt. Peidiwch â chaniatáu archebion mawr heb ganiatâd y Prif Ystadegydd, oherwydd mae'n bosibl mai'r bwriad yw eu defnyddio at ddibenion ymgyrchu.

Arolygon

19. Gallwch barhau i gynnal cyfrifiadau ac arolygon rheolaidd, arolygon parhaus ac arolygon sydd ar y gweill eisoes. Gall arolygon ad hoc sy'n rhan o gyfres ystadegol barhaus gael eu cynnal hefyd.

20. Gall arolygon ad hoc eraill fod yn ddadleuol neu fod yn gysylltiedig â mater yn ymwneud â'r etholiad. Lle bo hyn yn debygol, dylech ystyried eu gohirio neu eu canslo. Petai hyn yn anodd neu'n gostus, holwch Dîm Cyngor Arolygon y Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi am gyngor.

Ymchwil maes

21. Yn gyffredinol, ni ddylid gwneud gwaith maes sy'n ymwneud â phrosiect ymchwil yn ystod y cyfnod cynetholiadol, er y gall fod yn amhosibl osgoi'r cyfnod cynetholiadol ar gyfer gwaith arolwg parhaus neu waith ymchwil lle mae amser yn hollbwysig. Dylid gofyn i'r Prif Swyddog Ymchwil Gymdeithasol am gyngor ar achosion penodol.

Cyngor

22. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, cysylltwch â'r bobl isod:

  • Prif Ystadegydd
  • Y Prif Swyddog Ymchwil Gymdeithasol
  • Y Pennaeth Safonau a Pholisïau Ystadegol