Neidio i'r prif gynnwy

Esboniad o sut i ddatgan diddordeb mewn grant i foderneiddio amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Mehefin 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Mae ein hamgueddfeydd, archifai a llyfrgelloedd lleol yn darparu gwasanaethau a chymorth hanfodol i gymunedau ledled Cymru. Maen nhw hefyd yn rhoi gwybodaeth, addysg a mwynhad i’r bobl sy’n ymweld â nhw. 

Mae moderneiddio cyfleusterau i wella hygyrchedd, annog rhagor o gydweithio rhwng gwasanaethau ac adnewyddu'r hyn sydd ar gael i ddefnyddwyr yn hanfodol er mwyn cynnal a gwella gwasanaethau. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod hyn ac yn cefnogi datblygu drwy ei rhaglen cyllid cyfalaf.

Newidiadau i'r broses ymgeisio

Ar gyfer 2025 i 2026, rydym wedi gwneud rhai newidiadau i broses ymgeisio'r cynllun. Yn y lle cyntaf bydd angen cyflwyno datganiad o ddiddordeb.

Mae newidiadau eraill yn cynnwys ffurflen gais wedi'i hailgynllunio a chymorth gan ymgynghorwyr yn gynharach yn y broses, i helpu ymgeiswyr i gyflwyno'r cais cryfaf posibl. 

Sut i wneud cais

Mae'n ofynnol i bob parti sydd â diddordeb gysylltu â'i gynghorydd sector perthnasol drwy diwylliant@llyw.cymru i gael cyngor ar ei brosiect posibl cyn 14 Mehefin 2024.

Bydd cynghorwyr yn rhyddhau'r gwaith papur ar gyfer datgan diddordeb i brosiectau yr ystyrir eu bod yn addas, unwaith y bydd y cyfnod ymgeisio wedi agor yn ffurfiol ar 3 Mehefin 2024.

Byddwn hefyd yn cynnal cyfres o weithdai ar-lein i roi cyngor ac arweiniad i ymgeiswyr

Amserlen

  • Mae'r cyfnod ar gyfer datgan diddordeb yn agor yn swyddogol ar: 3 Mehefin 2024
  • Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno datganiad o ddiddordeb: 5 Awst 2024
  • Cyhoeddi penderfyniadau Cam 1: yr wythnos yn dechrau 14 Hydref 2024.
  • Tair gweminar yn ystod mis Hydref a mis Tachwedd: mae'r union ddyddiadau i'w cyhoeddi.
  • Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau Cam 2: 20 Ionawr 2025
  • Cyhoeddi penderfyniadau Cam 2: ar neu cyn 29 Mawrth 2025.