Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Mehefin 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ddydd Mercher 22 Mai 2024, cyhoeddodd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig y byddai etholiad cyffredinol yn cael ei gynnal ar 4 Gorffennaf. Cynhaliwyd 'cyfnod cau pen y mwdwl' am ddeuddydd wedi hyn cyn addoedi Senedd y DU ddydd Gwener 24 Mai. Yna, diddymwyd Senedd y DU ddydd Iau 30 Mai.

Roedd y Biliau canlynol gan Senedd y DU yn destun y broses cydsyniad deddfwriaethol yn Senedd Cymru cyn diddymu Senedd y DU—

  • Y Bil Cyfiawnder Troseddol 
  • Y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol  
  • Y Bil Cŵn (Diogelu Da Byw) (Diwygio) 
  • Y Bil Gweithgarwch Economaidd Cyrff Cyhoeddus (Materion Tramor)   
  • Y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad  
  • Y Bil Rhentwyr (Diwygio)  
  • Y Bil Tybaco a Fêps 
  • Y Bil Dioddefwyr a Charcharorion 

Cafodd y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad a'r Bil Dioddefwyr a Charcharorion y Cydsyniad Brenhinol ar 24 Mai 2024. Methodd yr holl Filiau eraill a restrir uchod yn dilyn diddymu Senedd y DU.

Maes o law, bydd Llywodraeth Cymru yn rhannu rhagor o wybodaeth â Senedd Cymru ynglŷn â'r goblygiadau i Gymru yn sgil y Biliau hynny a gafodd y Cydsyniad Brenhinol yn ystod y cyfnod cau pen y mwdwl.