Neidio i'r prif gynnwy

Mis Hanes Sipsiwn, Roma a Theithwyr yw mis Mehefin ac mae'n gyfle i ddathlu a dysgu mwy am ddiwylliant a threftadaeth gyfoethog cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Mehefin 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn ystod 2024 i 2025 mae Llywodraeth Cymru yn darparu £11m i awdurdodau lleol i gefnogi plant a phobl ifanc sy'n Sipsiwn, Roma a Theithwyr sy'n profi rhwystrau wrth geisio dysgu, a manteisio ar y cwricwlwm neu ar addysg yn gyffredinol. 

Ym mis Rhagfyr 2023 cyhoeddwyd canllawiau newydd i helpu ysgolion i gefnogi plant a phobl ifanc sy'n Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Cyfrannodd dros 40 o blant a phobl ifanc o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yng Nghymru at y canllawiau newydd drwy dynnu sylw at yr hyn sy'n bwysig iddyn nhw.

Mae'r canllawiau hyn yn rhan annatod o'r gwaith sy'n cael ei hyrwyddo gan Lywodraeth Cymru a chyrff statudol, yn ogystal ag ysgolion, i greu ac ymgorffori system addysg wrth-hiliol, a gwlad wirioneddol wrth-hiliol erbyn 2030.

Mae Llywodraeth Cymru yn ymgorffori gwrth-hiliaeth yn y system addysg, ac yn hyrwyddo tegwch mewn addysg fel bod pob plentyn a pherson ifanc yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi yn yr ysgol.  Mae hanesion a phrofiadau Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn rhan orfodol o'r cwricwlwm, bellach.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle:

"Mae ymarfer cynhwysol yn hollbwysig yn ein system addysg fel bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael eu cynnwys, eu hunaniaeth yn cael ei dathlu, a'u deilliannau addysgol yn gwella.

"Dw i'n annog pawb, nid dim ond athrawon ac ymarferwyr addysg, i ddysgu mwy am amrywiaeth diwylliannau a threftadaeth gyfoethog ein cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yng Nghymru."

Mae ysgolion fel Ysgol Gynradd Cil-maen yn Sir Benfro yn dylunio eu cwricwlwm gan ganolbwyntio nid yn unig ar eu hysgol nhw, ond hefyd ar gymeriad unigryw eu hardal leol, ac mae 33% o ddisgyblion yr ysgol yn dod o'r gymuned Sipsiwn a Theithwyr.

Mae Ysgolion Bro yn darparu gwasanaethau a gweithgareddau ar gyfer y gymuned ehangach, gan gynnwys helpu rhieni sy'n Sipsiwn, Roma a Theithwyr i barhau â'u haddysg a datblygu eu sgiliau. Yn Ysgol Gynradd Maindee yng Nghasnewydd lle mae dros 40 o ieithoedd yn cael eu siarad, mae strategaeth ysgolion bro wedi cael effaith gadarnhaol ar gydlyniant cymunedol  ac ymgysylltu â theuluoedd. Mae'r ymdeimlad hwn o berthyn yn helpu i sicrhau bod pob dysgwr yn cael eu cefnogi i gyrraedd eu llawn botensial.