Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Fel Cynghorwyr Cenedlaethol ar gyfer Gweinidogion Cymru, caiff ein cynllun ei weithredu yn unol â Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. Mae Adran 22 o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i ni baratoi cynllun blynyddol sy'n nodi ein huchelgais a'n blaenoriaethau ar gyfer y cyfnod 2024 i 2025.

Fel rhan o'n rôl fel Cynghorwyr Cenedlaethol Cymru, mae'r cynllun blynyddol hwn yn llywio ein hymdrechion i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru. Drwy alinio'r hyn a wnawn ag amcanion Deddf Trais a Cham-drin 2015 a strategaeth Trais a Cham-drin 2022 i 2026, ein nod yw gweithredu ymyriadau a mentrau sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac sy'n blaenoriaethu atal trais a cham-drin, amddiffyn unigolion a chefnogi goroeswyr. 

Drwy ymgysylltu'n rheolaidd â rhanddeiliaid dros y flwyddyn ddiwethaf, ac yn ystod ein paratoadau ar gyfer datblygu'r cynllun blynyddol hwn, rydym wedi ymdrechu i sicrhau bod lleisiau'r rhai sydd angen cymorth a gwasanaethau fwyaf yn cael eu clywed. Mae ein cynllun yn integreiddio gwaith Model Gweithredu Glasbrint Trais a Cham-drin i fynd i'r afael yn effeithiol â materion cymhleth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, ac mae'n cyd-fynd â'r Strategaeth Trais a Cham-drin Genedlaethol i gyflawni ein nod cyffredinol. 

Mae lefelau trais a cham-drin a'r effaith ddinistriol ar fywydau yn eithafol: yn adroddiad y Comisiynydd Cam-drin Domestig yn 2023, A Patchwork of Provision, amcangyfrifir bod hyn yn effeithio ar 2.4 miliwn o oedolion bob blwyddyn. Mae un o bob pump o lofruddiaethau yn digwydd yn y cartref. Ac mae'r gost i gymdeithas gyfan yn un uchel. Amcangyfrifodd gwaith ymchwil gan Lywodraeth y DU gost gymdeithasol ac economaidd o £66 biliwn yn sgil cam-drin domestig ar gyfer y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2017. Erbyn heddiw, gan ystyried costau chwyddiant, byddai hyn oddeutu £74 biliwn. Yn ôl Adroddiad Cyflwr y Sector Cymorth i Ferched Cymru 2023 i 2024 a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2024, roedd gwasanaethau arbenigol yng Nghymru yn nodi cynnydd o 28% mewn adroddiadau o gam-drin ariannol ymhlith goroeswyr a ddefnyddiodd wasanaethau cymunedol rhwng 2021 i 2022 a 2022 i 2023. 

Y prif beth wrth ddatblygu ein cynllun yw cydnabod bod yr heriau sy'n wynebu dioddefwyr a goroeswyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru yn amlochrog ac wedi ymwreiddio'n ddwfn. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r cyfuniad o ffactorau economaidd-gymdeithasol amrywiol, ynghyd â mwy o ymwybyddiaeth ac o adrodd am achosion, wedi gwaethygu'r heriau hyn, gan dynnu sylw at yr angen brys am fecanweithiau ymyrraeth a chymorth cynhwysfawr. 

Mae ein darparwyr arbenigol yng Nghymru yn dod â phersbectif a dealltwriaeth i'n Grŵp Cyfeirio Arbenigol Cenedlaethol, drwy eu gwaith yn cefnogi dioddefwyr a goroeswyr camdriniaeth. Rydym yn cydnabod eu bod yn wynebu straen digynsail, ac mae llawer yn gorfod tynnu o’u cronfeydd wrth gefn wrth iddynt geisio delio â'r galw cynyddol am eu gwasanaethau. Rhaid i'n cynllun blynyddol fod yn ystyriol o'r effaith y mae hyn yn ei chael ar y "trydydd sector brys" sy'n darparu'r gefnogaeth y mae ei hangen yn fawr ar gyfer llwyth achosion cynyddol uchel sydd hefyd â lefelau uwch o gymhlethdod a risgiau.

Fel Cynghorwyr Cenedlaethol, rydym yn cadeirio'r Panel Craffu Llais Goroeswyr Cenedlaethol, gan ystyried profiadau goroeswyr wrth lunio polisïau a chynllunio'n strategol. Mae hyn yn llywio gwaith y Glasbrint a'i ffrydiau gwaith. Mae aelodau'r panel goroeswyr yn darparu safbwyntiau go iawn a chywir ar yr hyn sy'n bwysig i oroeswyr. Darperir y mewnbwn hwn yn uniongyrchol i'r Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol a ffrydiau gwaith y Glasbrint. Lle y bo'n berthnasol, efallai y caiff adborth ei ddarparu hefyd i Weinidogion a ffora eraill priodol. Mae aelodau'r panel yn aml yn codi materion ynghylch 'y system' ac maent yn cyfrannu safbwyntiau a her ar yr hyn y mae angen ei newid.

Rhaid i ni hefyd gydnabod bod ymdrechion sylweddol yn mynd rhagddynt i atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru drwy fentrau atal cynhwysfawr. Mae'r ymdrechion hyn yn cwmpasu ystod o strategaethau sydd â'r nod o herio agweddau cymdeithasol, hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau, a meithrin cydberthnasau o gyd-barch o oedran cynnar. Er bod cynnydd sylweddol wedi'i wneud, mae'r gwaith i atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn parhau i fod yn flaenoriaeth gyson sy'n galw am fuddsoddiad, cydweithio ac ymrwymiad parhaus gan bob sector o gymdeithas. 

Un enghraifft gadarnhaol yw ymgyrch ddiweddar Iawn, sy'n targedu dynion ifanc yng Nghymru, gan eu hannog i ddysgu am drais ar sail rhywedd a thrafod eu cydberthnasau, eu hymddygiad a'u syniadau â'i gilydd. Â'i chynnwys diddorol ac addysgiadol ynghylch cydberthnasau iach ar draws y cyfryngau cymdeithasol, podlediadau, y teledu a sianeli ffrydio, y nod yw dadwneud y naratif. Mae'r ymgyrch yn canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar, sef un o'r blaenoriaethau yn y strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais  Rhywiol bresennol. 

Gwyddom fod sicrhau bod ein gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn abl i atal trais a cham-drin ac ymyrryd cyn gynted â phosibl yn hanfodol. Yn aml, yno mae'r lle mwyaf cyffredin i oroeswr geisio cymorth. Canfu adroddiad y Comisiynydd Cam-drin Domestig, A Patchwork of Provision mai dweud wrth yr heddlu yr oedd goroeswyr yng Nghymru fwyaf tebygol o wneud i ddechrau (48%), ac yna ddweud wrth y gwasanaethau iechyd (44%). Rhaid i ni sicrhau bod llwybrau ar gael i gymorth pellach, gan gynnwys gwasanaethau arbenigol, unwaith y bydd datgeliad wedi'i wneud. Mae cynlluniau fel rhaglen IRIS meddygfeydd teulu ynghyd ag eiriolwyr arbenigol dynodedig yn hanfodol i sicrhau y gallwn ddarparu'r 'drws' iawn i bob goroeswr. Mae ariannu llwybrau o'r fath mewn ffordd gynaliadwy yn parhau i fod yn heriol, ac rydym yn pryderu am y risg sy'n dal i fod yno na fydd y rhain yn parhau. Byddwn yn gweithio gyda'r model ariannu i archwilio ffyrdd o gydnabod effaith hirdymor IRIS, dysgu gwersi a'u hintegreiddio i greu dull cynaliadwy ar draws systemau i'r dyfodol, ac i newid y systemau hynny.

Cyd-destun Polisi Cymru a'r DU

Y Bil Dioddefwyr a Charcharorion

Ym mis Mai 2022, cyhoeddwyd Bil Dioddefwyr drafft, ac mae wedi cyrraedd y Cyfnod Adrodd. Crëwyd y Bil Dioddefwyr a Charcharorion i gefnogi dioddefwyr troseddau, gan gynnwys goroeswyr cam-drin domestig a thrais rhywiol. Bydd y prif fesurau yn cynnwys:

  • anfon neges glir am yr hyn y gall ac y dylai dioddefwyr ei ddisgwyl gan y system cyfiawnder troseddol
  • cryfhau tryloywder lleol a chenedlaethol a sut y goruchwylir y ffordd y mae cyrff cyfiawnder troseddol perthnasol yn trin dioddefwyr ar lefel leol a chenedlaethol, fel y gallwn nodi problemau a chodi safonau
  • gwella'r gefnogaeth i ddioddefwyr er mwyn iddynt allu ymdopi, meithrin gwytnwch i symud ymlaen â bywyd bob dydd, a theimlo eu bod yn gallu ymgysylltu â'r system cyfiawnder troseddol a pharhau i ymgysylltu â hi
  • canllawiau statudol gan yr Ysgrifennydd Gwladol ynghylch rôl Eiriolwyr Trais Domestig Annibynnol ac Eiriolwyr Trais Rhywiol Annibynnol. Bydd angen ystyried hyn ymhellach os na chytunir i fabwysiadu'r cymal hwn yng Nghymru i sicrhau cydraddoldeb i oroeswyr a darparwyr

Mae'r Ddeddf yn mynegi safbwynt dim goddefgarwch o ran risg diogelwch plant, ac mae'n sicrhau bod platfformau'r cyfryngau cymdeithasol yn cael eu dal yn gyfrifol am eu deunydd. Os na fyddant yn gweithredu'n gyflym i atal a dileu cynnwys anghyfreithlon ac i atal plant rhag gweld deunydd sy'n niweidiol iddynt, fel bwlio, byddant yn wynebu dirwyon sylweddol a allai gyrraedd biliynau o bunnoedd. Mewn rhai achosion, gallai eu penaethiaid wynebu carchar hyd yn oed. Mae'r Ddeddf yn cynnwys pwerau newydd i gymryd camau pendant i fynd i'r afael â thwyll a thrais ar-lein yn erbyn menywod a merched. 

Deddf diogelwch ar-lein 2023

Drwy'r ddeddfwriaeth hon, bydd yn haws dwyn euogfarn yn erbyn rhywun sy'n rhannu delweddau personol heb gydsyniad, a bydd deddfau newydd yn troseddoli ymhellach yr arfer o rannu delweddau personol ffug heb gydsyniad. Bydd y newid yn y gyfraith yn ei gwneud yn haws cyhuddo camdrinwyr sy'n rhannu delweddau personol, yn rhoi mwy o droseddwyr yn y carchar ac yn diogelu'r cyhoedd yn well. Cosbir y rhai a geir yn euog o'r drosedd hon â dedfryd o hyd at 6 mis yn y ddalfa.

Byddwn yn ceisio monitro gweithrediad y Ddeddf hon, gan gynnwys drwy ffrwd waith Aflonyddu ar sail Rhyw mewn Mannau Cyhoeddus.

Confensiwn Istanbul

Yn sgil cydsynio â Chonfensiwn Istanbul, nodwyd y camau hanfodol y mae angen i'r DU eu cymryd i atal trais o bob math yn erbyn menywod, diogelu'r menywod hynny sy'n profi trais, ac erlyn cyflawnwyr trais tra'n diogelu gwasanaethau arbenigol ar yr un pryd. Er bod cydsynio â'r Confensiwn yn arddangos ymrwymiad y llywodraeth i sicrhau bod menywod a phlant yn ddiogel, dylem barhau i bryderu nad yw'r DU yn darparu digon o gefnogaeth i ddioddefwyr mudol. Mae gan Gonfensiwn Istanbul ddarpariaethau penodol ar gyfer menywod a merched sy'n ffoaduriaid ac sy'n mudo, ac mae'n galw am amddiffyniad cyfartal i bob goroeswr, waeth beth fo'u statws mewnfudo. Ni roddodd llywodraeth y DU fynediad i oroeswyr mudol at gefnogaeth lawn a chyfartal yn y Ddeddf Cam-drin Domestig, ac mae'r Ddeddf Cenedligrwydd a Ffiniau yn creu anawsterau pellach i fenywod a merched sy'n cael eu cam-drin. Rydym yn parhau i bledio achos menywod mudol y mae cam-drin domestig yn effeithio arnynt, ac i roi cyngor i grŵp rhanddeiliaid y Comisiynydd Cam-drin Domestig sy'n cynrychioli Cymru.

Ymchwiliad Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol Senedd Cymru

Sefydlwyd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol gan y Senedd i roi sylw i bolisi a deddfwriaeth, ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif mewn meysydd penodol, gan gynnwys trais a cham-drin. Yng ngoleuni'r diben hwn, cynhaliodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ymchwiliad i ddull gweithredu iechyd y cyhoedd o atal trais ar sail rhywedd. Archwiliwyd pa mor effeithiol fu gweithredu'r dull hwn o atal trais ar sail rhywedd, a beth arall y gellid ei wneud. Ym mis Ionawr 2024, cyhoeddodd y Pwyllgor yr adroddiad Sut y mae'n rhaid i ni i gyd chwarae ein rhan: dull iechyd y cyhoedd o atal yr epidemig trais ar sail rhywedd. Gwnaeth y Pwyllgor 12 argymhelliad yn yr adroddiad, gan gynnwys hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau, mynd i'r afael â chroestoriadedd, gan gynnwys sicrhau cefnogaeth i oroeswyr mudol, creu llwybr carlam i wasanaethau therapiwtig ar gyfer plant a phobl ifanc, ac adolygu rhaglenni i gyflawnwyr trais. Derbyniodd Llywodraeth Cymru bob un o'r 12 argymhelliad neu eu derbyn mewn egwyddor. Byddwn yn monitro gweithrediad effeithiol holl argymhellion y Pwyllgor dros y flwyddyn i ddod.

Cynlluniau Gweithredu ac Unedau Tystiolaeth

Gan gydnabod yr angen am ddull croestoriadol sy'n seiliedig ar wybodaeth, mae'r Cynlluniau Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Cydraddoldeb Hiliol, LHDTC+ ac Anabledd yn feysydd gwaith hanfodol. Mae'r rhain hefyd yn cael eu cefnogi gan unedau tystiolaeth. Fel y nodwyd yn adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, mae'r angen am ddull gweithredu sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn hanfodol, ynghyd â chyfraniad yr unedau tystiolaeth at y gwaith o ddatblygu a gwerthuso polisi, nid yn unig o ran model gweithredu'r glasbrint ond hefyd ar draws y cyd-destun ehangach o safbwynt trais a cham-drin.

Heriau

Pwysau ariannol

Mae gwasanaethau arbenigol sydd wedi'u neilltuo i gefnogi dioddefwyr a goroeswyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn wynebu straen digynsail, ac mae llawer yn gorfod tynnu o’u cronfeydd wrth gefn wrth iddynt geisio delio â'r galw cynyddol am eu gwasanaethau. A'u cyllid a'u hadnoddau yn gyfyngedig, mae'r sefydliadau hyn yn stryffaglu i ddiwallu anghenion cynyddol unigolion sy'n ceisio cymorth, tra bod eu haelodau staff yn gorfod mynd ati fwyfwy i lenwi'r bylchau sy'n cael eu gadael gan wasanaethau cyhoeddus dan ormod o bwysau. 

Mae gwasanaethau arbenigol yn aml yn gweithredu o fewn cyllidebau tynn, gan ddibynnu ar gyllid cyfyngedig grantiau, rhoddion a chontractau'r llywodraeth. Fodd bynnag, mae'r argyfwng economaidd, a waethygwyd gan ddigwyddiadau byd-eang yn ystod y blynyddoedd diwethaf, wedi arwain at doriadau ariannol, llai o roddion, a chystadleuaeth gynyddol am yr adnoddau sydd ar gael. O ganlyniad, mae llawer o wasanaethau arbenigol yn eu cael eu hunain yn gweithredu ar sail cronfeydd wrth gefn, sy'n lleihau eu clustog ariannol ac yn effeithio ar eu cynaliadwyedd hirdymor. Aethom ati i sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen Recriwtio a Chadw Staff ar y cyd ag aelodau'r Grŵp Cyfeirio Arbenigol. Rydym wedi codi gyda'r cyn-Weinidog Cyfiawnder Cymdeithasol aruthredd y materion sy'n wynebu'r sector, lle mae'r diffyg cynnydd mewn cyllidebau, yn unol â chwyddiant, wedi arwain at gyflogau isel, problemau recriwtio a chadw staff, a'r angen i elusennau ddefnyddio cronfeydd wrth gefn i ategu cyllidebau contractau. 

Roedd y grŵp yn cytuno bod cyfuniad o alw mwy, adnoddau cyfyngedig, a'r baich emosiynol o gefnogi goroeswyr mewn argyfwng wedi arwain at lethu staff, gan ychwanegu ymhellach at heriau cadw staff o fewn gwasanaethau arbenigol. Mae aelodau staff yn gweithio oriau hir, yn wynebu llwythi achosion trwm, ac yn delio â thrawma wrth iddynt dystio i ddioddefaint goroeswyr. Gan gydnabod bod heriau ariannol hefyd yn broblem i wasanaethau cyhoeddus a chomisiynwyr, rydym yn debygol o weld gostyngiad mewn gwasanaethau hanfodol.  Rydym yn parhau i weithio gyda'r holl randdeiliaid i sicrhau ein bod yn cydweithio drwy'r heriau hyn i sicrhau bod dioddefwyr a goroeswyr yng Nghymru yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt, a'r cymorth y dylent ei gael os yw Cymru am gyflawni ei huchelgeisiau. 

Ar yr un pryd, bu cynnydd amlwg yn nifer yr atgyfeiriadau a'r achosion o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae'r rhan fwyaf o ddarparwyr rydym yn ymgysylltu â nhw fel rhan o'r panel Cyfeirio Arbenigol, os nad pob un, wedi nodi cynnydd yn yr atgyfeiriadau, ac mae un darparwr gwasanaeth atal trais rhywiol yn nodi bod y rhestrau aros am wasanaethau cwnsela wedi cyrraedd y lefelau a oedd yn bodoli cyn y pandemig. Mae ymwybyddiaeth gynyddol y cyhoedd, ynghyd â mecanweithiau ac ymgyrchoedd adrodd gwell, wedi arwain at ymchwydd yn nifer y goroeswyr sy'n ceisio cefnogaeth ac ymyrraeth. Mae'r ymchwydd hwn wedi rhoi pwysau sylweddol ar wasanaethau cymorth sydd eisoes yn stryffaglu, gan dynnu sylw at yr angen brys am adnoddau ychwanegol a mentrau meithrin gallu i ateb y galw cynyddol. 

I grynhoi, mae'r croestoriad rhwng yr argyfwng economaidd, y lefel uwch o drais, a'r gost sylweddol i'r economi yn tanlinellu'r angen brys am ymatebion cynhwysfawr a chydlynol i gefnogi dioddefwyr a goroeswyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Wrth flaenoriaethu, rhaid i ni ystyried sut y gallwn fynd i'r afael â rhai o'r materion systematig a gwella'r drefn gomisiynu i sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau cynaliadwy i ddioddefwyr a goroeswyr. Dylai hyn ddigwydd mewn ffordd sy'n sicrhau y gall ein darparwyr arbenigol bach barhau i gyfrannu gwasanaethau sy'n diwallu anghenion goroeswyr yn y ffordd orau drwy eu cynrychiolaeth ar gyrff sy'n gwneud penderfyniadau a phaneli craffu. Mae'n bwysig ystyried paneli goroeswyr sydd eisoes yn bodoli, boed yn rhai annibynnol neu sydd gan ddarparwyr arbenigol, i sicrhau bod y gwaith o lunio polisi trawslywodraethol yn ehangach yn adlewyrchu'r bylchau yn y ddarpariaeth bresennol ac i nodi tueddiadau a materion sy'n dod i'r amlwg.

Mae'r Ffrwd Waith Dull Cynaliadwy ar draws Systemau yr ydym yn darparu rôl cyd-gadeirydd ar ei chyfer, wedi dylunio a dosbarthu arolwg a fydd yn arwain at ymgynghori pellach â rhanddeiliaid allweddol, fel y gallwn nodi'r rhwystrau strwythurol i ddarpariaeth sy'n seiliedig ar anghenion a sicrhau'r newid yn ein systemau o ran comisiynu cydweithredol lle bo angen. Drwy ein hymgysylltiad â rhanddeiliaid, rhaid i ni hefyd godi'r materion sy'n effeithio ar ddarparwyr arbenigol mewn perthynas â chaffael cymdeithasol wrth gomisiynu ym maes trais a cham-drin, lle mae cyfyngiadau mewn trefniadau cytundebol presennol yn methu â sicrhau'r cyflog byw neu unrhyw gynyddrannau blynyddol. 

Heriau eraill

Er gwaethaf y cynnydd, mae heriau parhaus o ran sicrhau euogfarnau a gofalu bod cyflawnwyr trais yn cael eu dwyn i gyfrif am eu gweithredoedd. Mae angen gwneud mwy o waith i wella ymateb y system cyfiawnder troseddol a darparu cefnogaeth ddigonol i oroeswyr drwy gydol y broses gyfreithiol. Drwy'r dull cynhwysfawr sy'n integreiddio arferion sy'n canolbwyntio ar oroeswyr, strategaethau sy'n cael eu gyrru gan ddata ac ymyriadau wedi'u targedu, mae rhanddeiliaid yn dysgu o brofiadau'r rhai y mae cam-drin domestig wedi effeithio arnynt. Rydym yn gobeithio gweld parhad y gwaith pwysig sy'n cael ei wneud gan bartneriaid cyfiawnder troseddol, y sector arbenigol a goroeswyr i wella profiadau goroeswyr sy'n adrodd am droseddau cam-drin domestig a thrais rhywiol. 

Mae'r heriau yn parhau o ran diwallu anghenion amrywiol rhai goroeswyr a dioddefwyr, yn enwedig y rhai o gymunedau lleiafrifoedd ethnig. Mae'r gwaith gyda grŵp Mynediad at Gyfiawnder y Tasglu Anabledd wedi amlygu rhwystrau a phrofiadau penodol ymhlith goroeswyr sydd hefyd yn amlinellu'r bylchau penodol yn y ddarpariaeth bresennol ledled Cymru. Mae'n hanfodol mynd i'r afael â heriau o'r fath drwy'r pecyn cymorth a'r fframwaith croestoriadedd a ddatblygwyd fel ymateb i'r Glasbrint Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol a fydd yn helpu i wreiddio croestoriadedd yn ei waith. Bydd y dull hwn yn helpu i fireinio dulliau gweithredu a gwneud argymhellion effeithiol ar gyfer newid systemau i ymateb i nodweddion croestoriadol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn wrth fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ledled Cymru.

Ein nod a'n blaenoriaethau

Fel Cynghorwyr Cenedlaethol Cymru o dan Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2015, mae ein cynllun yn amlinellu'r nodau a'r blaenoriaethau ar gyfer cyfnod 2024 i 2025. Mae'r ymdrech gydweithredol hon yn tanlinellu ein hymrwymiad i amcan trosfwaol Strategaeth a Glasbrint Trais a Cham-drin, sy'n pwysleisio gweithredu mewn ffordd gynhwysfawr ar draws systemau i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru. Er mwyn cyflawni hyn, byddwn yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol yng Nghymru a gweithio gyda chyrff cyhoeddus i wella'r ddealltwriaeth o heriau penodol sy'n wynebu goroeswyr. 

Mae ein cynllun yn dechrau drwy nodi blaenoriaethau strategol yn seiliedig ar yr amcanion a amlinellir yn Neddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2015 a'r Strategaeth Trais a Cham-drin Genedlaethol. Mae'r blaenoriaethau hyn yn cynnwys atal trais a cham-drin, diogelu unigolion, darparu gwasanaethau cymorth, ac erlyn cyflawnwyr trais, ynghyd ag adeiladu ar y gwaith o Integreiddio Model Gweithredu'r Glasbrint. Rydym yn integreiddio gwaith Model Gweithredu'r Glasbrint a'r cyd-destun ehangach yn ein cynllun blynyddol i sicrhau dull cydgysylltiedig ac amlasiantaethol o fynd i'r afael â thrais a cham-drin.

Yn unol â'r uchelgais hirdymor, ein nod eleni yw: 

Gweithio gyda holl randdeiliaid Cymru i wella dealltwriaeth o drais a cham-drin ac ymateb i achosion sy'n codi o fewn eu gwasanaethau, a gwella llwybrau cymorth i oroeswyr mewn ffordd gydweithredol ar draws systemau.

Er mwyn cyflawni'r nod hwn, rydym wedi nodi'r blaenoriaethau canlynol:

  • Gweithio gyda phob maes llywodraeth a chorff cyhoeddus i sicrhau ymateb ar lefel llywodraeth gyfan i drais a cham-drin yng Nghymru.
  • Mynychu cyfarfodydd a fforymau sy'n goruchwylio'r gwaith o gyflawni Strategaeth Trais a Cham-drin, dull y Glasbrint a'r ffrydiau gwaith, ynghyd ag unrhyw fforymau eraill perthnasol. Byddwn yn parhau i rannu cyngor a gwybodaeth gyda Llywodraeth Cymru a Gweinidogion a thîm gweithredu'r Glasbrint, a all wella profiad dioddefwyr a goroeswyr a thynnu sylw at fylchau a phrofiadau gwael mewn gwasanaethau.
  • Cefnogi'r gwaith o ddatblygu arferion da newydd a chydnabod arferion da sy'n bodoli eisoes i annog darpariaeth gyson ledled Cymru. Byddwn hefyd yn ymateb i themâu a phryderon sy'n dod i'r amlwg, lle bo angen, drwy greu mecanweithiau newydd. Byddwn yn gwneud hyn mewn cydweithrediad â'r sector arbenigol ac yn hyrwyddo'r arfer o gynnal darpariaeth o ansawdd uchel ledled Cymru.
  • Parhau i bledio'r achos dros fuddsoddi mewn gwasanaethau atal trais ar gyfer dioddefwyr posibl a'r rhai sy'n cyflawni niwed, gan gynnwys pobl ifanc. Cydnabyddir bod yna fwy o angen ymhlith pobl ifanc, a bod modd lleihau'r niwed yn sylweddol yn eu plith. Dylai hyn fod yn sbectrwm o ymyrraeth - o ymgyrchoedd a hyfforddiant sydd wedi'i anelu at y cyhoedd yn ogystal â gweithwyr proffesiynol ar y naill law, i ymyriadau uniongyrchol ar y llaw arall, gan gynnwys rhaglenni addysg ac ymyriadau i'r rhai sy'n dystion i sefyllfaoedd niweidiol. 
  • Cael y wybodaeth ddiweddaraf am brofiadau goroeswyr, hyrwyddo'r hyn sy'n gweithio ac eirioli pan nad yw systemau ac ymatebion wedi gweithio, a hynny drwy'r Panel Craffu Llais Goroeswyr Cenedlaethol a'r rhwydweithiau niferus i oroeswyr ledled Cymru. Sicrhau ein bod yn mabwysiadu dull croestoriadol drwy hyrwyddo ac ymgysylltu â materion penodol megis anghenion menywod mudol a rhwystrau penodol sy'n wynebu dioddefwyr camdriniaeth sy'n anabl. 
  • Darparu cyfleoedd ychwanegol i graffu ar gyflawniadau allweddol y Ddeddf, gan gynnwys strategaethau lleol a gweithgarwch sy'n ofynnol i wella arferion comisiynu a chaffael gwasanaethau trais a cham-drin ledled Cymru, gan weithio tuag at yr uchelgais o ddarparu dull cynaliadwy ar draws systemau.
  • Defnyddio pwerau fel y'u darperir o fewn y Ddeddf i ofyn am wybodaeth gan awdurdod perthnasol er mwyn craffu'n briodol a chynghori ar weithredu'r Ddeddf os oes angen.
  • Yn benodol, cynghori Gweinidogion a, lle bo'n briodol, gwasanaethau cyhoeddus a rhanddeiliaid perthnasol ar gyflawni eu cyfrifoldebau o fewn y Ddeddf i atal trais a cham-drin, diogelu unigolion, a chefnogi dioddefwyr a goroeswyr. 
  • Cefnogi'r sector arbenigol yn eu hymdrechion i gynnal gwasanaethau effeithiol a hanfodol i ddioddefwyr a goroeswyr trais a cham-drin, a sicrhau eu bod yn bresennol mewn sesiynau cynllunio lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.
  • Cefnogi'r gwaith o ddatblygu Dangosyddion Cenedlaethol a datblygu sylfaen dystiolaeth ategol mewn perthynas ag effaith gweithredu'r Ddeddf.
  • Parhau i ddarparu cymorth a chyngor ar y dull croestoriadol o gynnig gwasanaethau trais a cham-drin, a sicrhau bod yr ymrwymiad hwn yn cael ei droi'n weithredu a chyflawni. Rhaid i'r dull croestoriadol fod yn rhan o gyd-destun gwell dealltwriaeth o bob math o drais a cham-drin fel y gall pob goroeswr fod yn sicr o amddiffyniadau a chefnogaeth briodol ac effeithiol. Dylai hyn gynnwys ymyriadau sy'n briodol i oedran y plant a'r bobl ifanc a'r bobl hŷn dan sylw. Mae'n rhaid i ni gydnabod plant a dioddefwyr ar sail eu rhinwedd eu hunain a darparu'r gwasanaethau sy'n diwallu eu hanghenion. Mae'n rhaid i ni hefyd dynnu sylw at y bylchau yn y cyfnod pontio o fod yn blentyn i fod yn oedolyn, gan wella yn benodol ymatebion amlasiantaethol i bobl ifanc.
  • Cynrychioli a dylanwadu i sicrhau bod datblygiadau, safbwyntiau a phrofiadau Cymru yn cael eu cynnwys yng nghynlluniau rhanddeiliaid y DU, ym mholisi llywodraeth y DU ac mewn penderfyniadau.

Rydym yn rhagweld y bydd nod a blaenoriaethau'r cynllun hwn yn gwneud y canlynol:

  • gwella argaeledd, hygyrchedd ac ansawdd gwasanaethau cymorth i oroeswyr trais a cham-drin ledled Cymru, gan sicrhau bod unigolion yn cael cymorth amserol a holistaidd sy'n diwallu eu hanghenion amrywiol. Mae hyn yn galw am ddull gonest o ariannu'r ddarpariaeth bresennol a dealltwriaeth o'r bylchau a'r heriau y mae angen mynd i'r afael â nhw ar lefel leol a chenedlaethol
  • gwella dealltwriaeth o ba mor aml y caiff achosion o drais a cham-drin eu cyflawni, ac ar ba ffurf, gan arwain at well dealltwriaeth o'r anghenion cysylltiedig, gan gydnabod trais rhywiol a phob math o drais yn erbyn menywod, ynghyd â cham-drin domestig
  • datblygu a gweithredu dulliau atal trais a cham-drin ac ymyriadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ynghyd â strategaethau ymyrraeth gynnar, gyda'r nod o fynd i'r afael ag achosion sylfaenol trais a cham-drin, hyrwyddo cydberthnasau iach, ac atal achosion pellach o drais yn y dyfodol
  • grymuso goroeswyr trais a cham-drin i godi llais mewn prosesau gwneud penderfyniadau a datblygu polisi ac ynghylch sut y dylid darparu gwasanaethau, gan sicrhau bod eu profiadau a'u safbwyntiau yn ganolog i bob ymdrech i fynd i'r afael â thrais a cham-drin
  • darparu tystiolaeth o ddull gweithredu croestoriadol o ran strategaeth, polisi, comisiynu a chyflawni
  • sicrhau bod lleisiau goroeswyr yn cael eu cynrychioli, eu chwyddo a'u clywed ym mhob rhan o'n gwaith i fynd i'r afael â thrais a cham-drin yng Nghymru, yn anad dim wrth gyflawni'r Strategaeth a'r Glasbrint, ond hefyd ar draws ein strwythurau rhanbarthol a lleol

Mae'r canlyniadau hyn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i sbarduno ymateb cynhwysfawr a chydlynol i drais a cham-drin yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar atal trais a cham-drin, a diogelu a helpu goroeswyr, fel yr amlinellir yn Neddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2015 a fframweithiau deddfwriaethol a pholisi dilynol.

Casgliad

Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i werthuso ac adolygu ein cynllun blynyddol yn rheolaidd i asesu ei effaith, nodi gwersi a ddysgwyd, ac addasu ein dull gweithredu ar sail tueddiadau a heriau sy'n dod i'r amlwg. Mae ein Grŵp Cyfeirio Arbenigol Cenedlaethol yn darparu lefel o graffu a chyngor ar yr heriau penodol i wasanaethau yng Nghymru. Yn ogystal, rydym yn ymgysylltu â rhanddeiliaid ehangach, gan gynnwys goroeswyr, darparwyr gwasanaethau, ac adrannau'r llywodraeth, i gasglu adborth a sicrhau bod ein hymdrechion yn ymateb i anghenion y rhai y mae trais a cham-drin yn effeithio arnynt.

Trwy gydweithio â Llywodraeth Cymru, darparwyr arbenigol, rhanddeiliaid allweddol, a goroeswyr, rydym wedi ymrwymo i sbarduno dull gweithredu ar draws systemau o ran mynd i'r afael â thrais a cham-drin, gan sicrhau bod ein hymdrechion yn cael eu cydlynu, yn effeithiol ac yn ymatebol i anghenion y rhai yr effeithir arnynt.