Lynne Neagle AS, Cabinet Secretary for Education
Ers mis Mehefin 2008 mae pobl ledled y DU wedi dathlu Mis Hanes Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Mae'n gyfle gwych i ddysgu am gyfoeth gwahanol ddiwylliannau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a sut mae'r cymunedau wedi cyfrannu at y gymdeithas yma yng Nghymru, yn y Deyrnas Unedig, yn Ewrop, ac ar draws y byd.
Mae Llywodraeth Cymru yn ymgorffori gwrth-hiliaeth yn y system addysg, ac yn ysgogi tegwch mewn addysg fel bod pob plentyn a pherson ifanc yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi mewn ysgolion ac mewn lleoliadau addysg. Yn ystod 2024-25 mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyfanswm o £11m i'n hawdurdodau lleol drwy'r Grant Disgyblion o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol, Sipsiwn, Roma a Theithwyr i gefnogi plant a phobl ifanc o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr sy'n profi rhwystrau rhag dysgu, a rhag manteisio ar y cwricwlwm neu ar addysg yn gyffredinol.
Mae'n hanfodol bod pob plentyn yn cael ei annog i fynychu'r ysgol a manteisio ar addysg, a'u bod yn gallu symud ymlaen i'r coleg, i'r brifysgol neu i hunangyflogaeth os ydynt yn dymuno gwneud hynny. Ond, mae gormod o blant a phobl ifanc o gefndir Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn yr ysgol yn profi bwlio, gwahaniaethu a hiliaeth. Mae hyn yn annog y plant a'r bobl ifanc hynny i beidio â mynychu'r ysgol, ac mae'n effeithio'n andwyol ar eu hiechyd meddwl a'u lles, ar eu cyrhaeddiad academaidd ac ar eu cyfleoedd mewn bywyd yn y dyfodol.
Ar 7 Rhagfyr 2023, cyhoeddwyd “Dathlu a chyfranogi – canllawiau addysg i gefnogi plant a phobl ifanc sy'n Sipsiwn, Roma a Theithwyr”. Mae ein canllawiau diweddaraf yn mynd i'r afael â sawl maes allweddol yr oedd dysgwyr sy'n Sipsiwn, Roma a Theithwyr ac ysgolion wedi nodi bod angen mwy o arweiniad arnynt.
Rwy'n annog pawb, nid dim ond athrawon ac ymarferwyr addysg, i ddysgu mwy am amrywiaeth diwylliannau a threftadaeth gyfoethog ein cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yng Nghymru yn ystod Mis Hanes Sipsiwn, Roma a Theithwyr 2024.