Apeliadau caniatâd hysbysebu: canllawiau ar gyfer apelyddion
Sut a phryd y gallwch wneud apêl yn gysylltiedig â chaniatâd hysbysebu.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Yn aml, mae caniatâd hysbysebu yn ofynnol ar gyfer arddangos hysbyseb, fel y nodir yn Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) 1992 (fel y’u diwygiwyd) (‘y Rheoliadau Hysbysebion’). Ceir rhagor o wybodaeth am ddeddfwriaeth berthnasol yn adran 16 Llawlyfr Rheoli Datblygu Llywodraeth Cymru.
Caiff ceisiadau am ganiatâd hysbysebu eu cyflwyno i’r Awdurdod Cynllunio Lleol (ACLl) ar gyfer yr ardal berthnasol. Gall cais hysbysebu fod ar gyfer hysbyseb benodol neu ar gyfer defnyddio safle i hysbysebu. Gall enghreifftiau gynnwys arwyddion ar gyfer blaen siop neu fusnes, posteri, hysbysiadau, tafluniadau golau, hysbysfyrddau, arwyddion crog neu faneri.
Wrth asesu cais hysbysebu, yr unig faterion y gellir eu hystyried yw amwynder, a diogelwch y cyhoedd. Mae’r Rheoliadau Hysbysebion yn nodi y dylai’r ACLl ystyried:
“(a) o ran amwynder, nodweddion cyffredinol y lleoliad, gan gynnwys presenoldeb unrhyw nodwedd o ddiddordeb hanesyddol, pensaernïol, diwylliannol neu debyg, gan ddiystyru, os gwelant yn dda, unrhyw hysbyseb sy’n cael ei harddangos yno;
(b) o ran diogelwch y cyhoedd—
(i) diogelwch unrhyw berson sy’n ddefnyddio unrhyw ffordd, rheilffordd, dyfrffordd, doc, harbwr neu faes awyr;
(ii) p’un a yw arddangos unrhyw hysbysebion yn debygol o guddio, neu rwystro dehongliad parod, unrhyw arwydd traffig ffyrdd, signal rheilffordd neu gymorth mordwyo ar ddŵr neu yn yr awyr.”
O ran caniatâd hysbysebu, mae amwynder yn ymwneud ag effaith arddangos yr hysbyseb ar olwg yr adeilad neu gymeriad yr ardal gyfagos, gan ystyried unrhyw nodweddion hanesyddol, pensaernïol neu ddiwylliannol. Er enghraifft, os lleolir hysbyseb o fewn Ardal Gadwraeth, byddai angen i’r sawl sy’n penderfynu ystyried effaith arddangos yr hysbyseb ar gymeriad yr Ardal Gadwraeth a’r effaith weledol. Os yw’r hysbyseb yn cynnwys sain, byddai aflonyddwch sŵn posibl (amwynder clywedol) yn cael ei ystyried, hefyd.
Mae asesu effaith hysbyseb ar ddiogelwch y cyhoedd yn cynnwys yr effaith ar ddefnydd a gweithrediad diogel unrhyw fath o draffig neu gludiant (gan gynnwys diogelwch cerddwyr) ar dir, ar ddŵr, neu yn yr awyr. Mae hyn yn cynnwys ymddygiad (h.y. tynnu sylw) gyrwyr cerbydau a fydd yn gweld yr hysbyseb, dryswch posibl gydag unrhyw arwydd traffig neu signal arall, ac ymyrraeth bosibl â goleuadau llywio neu oleufeydd.
Wrth gyflawni eu swyddogaethau, rhaid i’r ACLl (a Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PCAC) wrth benderfynu ar apeliadau) roi sylw hefyd i’w dyletswyddau statudol eraill, gan gynnwys y rhai o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, er mwyn cyflawni’r nod llesiant o ddiwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. Mae gwybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ar gael gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru. Mae hyn yn arbennig o berthnasol mewn cymunedau Cymraeg eu hiaith yn bennaf, lle mae’r Gymraeg yn rhan annatod o’u gwead a gall fod yn berthnasol i benderfyniadau ar hysbysebion.
Rhesymau dros apelio
Gallwch apelio yn erbyn unrhyw un o’r canlynol:
- gwrthod cais am ganiatâd hysbysebu;
- amod sydd ynghlwm wrth ganiatâd hysbysebu (er enghraifft, amod sy’n afresymol neu’n ddiangen, yn eich barn chi); neu
- os nad yw’r ACLl yn gwneud penderfyniad ar y cais am ganiatâd hysbysebu o fewn y cyfnod o 8 wythnos (methu penderfynu).
Pwy sy’n gallu apelio
Gall apêl gael ei chyflwyno gan yr ymgeisydd a restrir ar y ffurflen gais neu gan asiant sy’n gweithredu ar eu rhan.
Trosolwg o weithdrefnau apelio
Fel arfer, ymdrinnir ag apeliadau ynghylch caniatâd hysbysebu drwy weithdrefnau sylwadau ysgrifenedig. Eich datganiad achos ysgrifenedig, fel y’i cyflwynir gyda’ch ffurflen apêl, yw eich unig gyfle i gyflwyno’ch dadl. Mewn rhai achosion, mae’n bosibl y bydd angen gwrandawiad neu ymchwiliad. Swyddogion PCAC sy’n dewis y weithdrefn yn y lle cyntaf, ac yn ddiweddarach, caiff ei hadolygu gan yr Arolygydd penodedig ar ôl cyfnewid tystiolaeth ysgrifenedig. Ceir gwybodaeth ychwanegol yn ein canllawiau ar y Dewis o Weithdrefn.
Bydd yr holl ddogfennau tystiolaeth a gyflwynir gydag apêl yn cael eu cyhoeddi ar y Porth Gwaith Achos Cynllunio. Ceir rhagor o wybodaeth yn ein hysbysiad preifatrwydd. Os oes gennych unrhyw ymholiadau am ein polisi neu os hoffech wneud cais am eich data personol, cysylltwch â ni.
Mae’r broses apelio wedi’i nodi isod.
Mae’r rhan fwyaf o apeliadau yn mynd rhagddynt o dan Ran 3 y Rheoliadau Apelau. Mae’n bosibl y bydd amgylchiadau pan fydd PCAC yn penderfynu y dylid bwrw ymlaen â’r apêl o dan Ran 4, a nodir y gwahaniaethau yn y weithdrefn isod.
- Mae’r apelydd yn cyflwyno apêl gyda’u datganiad llawn o’u hachos. Dyma’r unig gyfle i esbonio’r rhesymau dros yr apêl a rhaid ei ddarparu ar y cam hwn.
- Bydd PCAC yn cydnabod bod apêl wedi’i chyflwyno. Bydd PCAC yn cynnal gwiriadau dilysu i sicrhau bod yr apêl wedi’i chyflwyno mewn pryd a gyda’r holl ddogfennau angenrheidiol.
- Os yw’r apêl yn ddilys, bydd PCAC yn ysgrifennu at yr apelydd a’r ACLl i gadarnhau dyddiad dechrau’r apêl a’r amserlenni amcangyfrifedig ar gyfer eu penderfyniad. Sylwch y gall fod cyfnod o amser rhwng cydnabod derbyn, a chwblhau gwiriadau dilysu. Gweler ein diweddariad i wasanaeth i gael rhagor o fanylion.
- O fewn 5 diwrnod gwaith o ddyddiad dechrau’r apêl, rhaid i’r ACLl hysbysu unrhyw bartïon â buddiant (y sawl a fu’n ymwneud â’r cais gwreiddiol, er enghraifft, Swyddog Priffyrdd y Cyngor) ynghylch yr apêl a chadarnhau y bydd unrhyw sylwadau o’r cam ymgeisio yn cael eu hanfon ymlaen at PCAC a’r apelydd.
- O fewn yr un 5 diwrnod gwaith, rhaid i’r ACLl gyflwyno eu holiadur a’u dogfennau ategol sy’n ymwneud â’r cais i PCAC. Y dogfennau hyn yw sylwadau’r ACLl, ac nid oes cyfle i gyflwyno datganiad achos. Fel arall, os yw’r apêl yn bwrw ymlaen o dan Ran 4, dylai’r ACLl gadarnhau a fyddant yn dibynnu ar yr holiadur a’r dogfennau ategol i gyflwyno ei achos, neu a ydynt yn bwriadu cyflwyno datganiad llawn o’u hachos, y mae’n rhaid i PCAC ei dderbyn o fewn 4 wythnos o’r dyddiad dechrau ar gyfer yr apêl. Rhaid i’r ACLl anfon copi o’r holiadur at yr apelydd, hefyd.
- O dan Ran 3, nid yw partïon â buddiant yn gallu cyflwyno sylwadau newydd ar y cam apelio. Fodd bynnag, gallant dynnu’n ôl eu sylwadau a wnaed ar y cam ymgeisio wrth ysgrifennu at PCAC o fewn 4 wythnos o ddyddiad dechrau’r apêl. Fel arall, os yw’r apêl yn bwrw ymlaen o dan Ran 4, gall partïon â buddiant gyflwyno sylwadau newydd yn ystod y cam apelio. Nid oes angen ailadrodd yr hyn a gyflwynwyd ar y cam ymgeisio. Y terfyn amser ar gyfer sylwadau gan bartïon â buddiant yw 4 wythnos o ddyddiad dechrau’r apêl.
- Os yw’r apêl yn bwrw ymlaen o dan Ran 4, ar ôl y dyddiad 4 wythnos, bydd PCAC yn anfon copïau o unrhyw sylwadau gan bartïon â buddiant at yr ACLl a’r apelydd, ac os yw’r ACLl wedi cyflwyno datganiad achos, bydd PCAC yn anfon copi at yr apelydd. Ar ôl cyfnewid tystiolaeth, os yw’r apelydd, yr ACLl neu barti â buddiant yn dymuno cyflwyno sylwadau ysgrifenedig ar sylwadau gan unrhyw barti arall, gallant eu cyflwyno i PCAC. Rhaid i PCAC dderbyn unrhyw sylwadau o fewn 6 wythnos o ddyddiad dechrau’r apêl.
- Bydd PCAC yn penodi Arolygydd Cynllunio i benderfynu ar yr apêl. Bydd yr Arolygydd yn ymweld â safle’r apêl cyn gwneud eu penderfyniad. Gan fod y rhan fwyaf o hysbysebion yn weladwy o fannau cyhoeddus, bydd yr Arolygydd fel arfer yn cynnal ymweliad â’r safle ar eu pen eu hunain.
- Mae PCAC yn anelu at gyhoeddi penderfyniad o fewn 8 wythnos o ddyddiad dechrau’r apêl, neu os nad yw hynny’n bosibl, o fewn 3 wythnos ar ôl yr ymweliad â’r safle.
Sut i apelio
Terfynau amser a’r dogfennau gofynnol
Mae terfynau amser ar gyfer cyflwyno apeliadau caniatâd hysbysebu wedi’u nodi yn Rhan III Atodlen 4 y Rheoliadau Hysbysebion. Prosesir apeliadau yn unol â Rhan 3 a Rhan 4 Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ceisiadau Atgyfeiriedig a Gweithdrefn Apelau) (Cymru) 2017 (fel y’u diwygiwyd) [‘y Rheoliadau Apelau’].
Os ydych yn apelio yn erbyn penderfyniad yr ACLl i wrthod eich cais, neu os ydych yn apelio yn erbyn amod sydd wedi’i gynnwys yn eich caniatâd, rhaid i chi apelio o fewn 8 wythnos o’r dyddiad ar yr hysbysiad o benderfyniad gan yr ACLl.
Os ydych yn cyflwyno apêl oherwydd nad yw’r ACLl wedi penderfynu ar eich cais, gallwch gyflwyno’ch apêl 8 wythnos ar ôl y dyddiad y daeth eich cais i law’r ACLl.
Rhaid i chi lenwi’r ffurflen apêl caniatâd hysbysebu a chyflwyno’r dogfennau perthnasol:
- eich ffurflen gais wreiddiol a gyflwynwyd i’r ACLl;
- copi o’r ffurflenni, dogfennau, cynlluniau, lluniadau, tystiolaeth, mynegiadau, datganiadau neu dystysgrifau a gyflwynwyd i’r ACLl gyda’ch cais; ac
- os yw’r apêl yn erbyn gwrthod y cais neu yn erbyn amod, darparwch yr hysbysiad o benderfyniad gan yr ACLl, neu
- os yw’r apêl yn erbyn methiant yr ACLl i benderfynu ar eich cais, darparwch gopi o lythyr yr ACLl yn cofrestru eich cais.
Rhaid i chi gyflwyno eich datganiad llawn o’ch achos gyda’r apêl.
Os na fyddwn yn derbyn eich apêl a’ch dogfennau o fewn y terfyn amser, mae’n bosibl na fyddwn yn derbyn eich apêl.
Nid oes ffi ar gyfer cyflwyno’r math hwn o apêl.
Cyflwyno eich apêl
Mae’n well gennym ddefnyddio dulliau electronig. Gallwch gyflwyno’r ffurflen apêl a’r dogfennau ategol drwy e-bost er mwyn gwneud y broses apelio mor effeithlon â phosibl.
Rhaid i chi hefyd anfon copi o’r ffurflen apêl wedi’i llenwi at yr ACLl fel eu bod yn ymwybodol eich bod wedi apelio yn erbyn eu penderfyniad. Os ydych wedi cyflwyno unrhyw ddogfennau ategol nad oeddent yn rhan o’ch cais cynllunio gwreiddiol, rhaid i chi anfon y rhain hefyd at yr ACLl gyda’r ffurflen apêl. Os na fyddwch yn gwneud hyn, mae’n bosibl na fyddwn yn derbyn eich apêl.
Llenwi’r ffurflen apêl
Mae’r adrannau isod yn dilyn trefn y ffurflen apêl caniatâd hysbysebu.
Manylion yr apelydd
Dim ond yr ymgeisydd gwreiddiol sy’n gallu apelio. Felly, rhaid i bob apêl fod yn eu henw nhw.
Os nad chi yw’r ymgeisydd gwreiddiol (er enghraifft, os ydych wedi prynu’r safle yn ddiweddar) ac rydych eisiau apelio, mae angen caniatâd ysgrifenedig arnoch gan yr ymgeisydd/ymgeiswyr gwreiddiol. Mae hyn yn eich gwneud yn gyfrifol am unrhyw gostau sy’n ymwneud ag apêl. Ysgrifennwch eich enw ar y llinell “Enw”, ac wedyn “ar ran”, ac enw’r ymgeisydd gwreiddiol. Anfonwch y caniatâd wedi’i lofnodi atom gyda’ch ffurflen apêl.
Manylion asiant
Nid oes rhaid i chi ddefnyddio asiant i ymdrin â’ch apêl. Os byddwch yn penderfynu defnyddio asiant, mae’n debygol y byddant yn llenwi’r ffurflen apêl ar eich rhan.
Os oes gennych asiant, byddwn yn anfon ein cyfathrebiadau atyn nhw. Ni fyddwn yn anfon copi atoch chi. Dylech gadw mewn cysylltiad â’ch asiant gan y byddwn yn anfon yr hysbysiad o benderfyniad atyn nhw.
Manylion yr awdurdod cynllunio lleol
Bydd manylion eich awdurdod cynllunio lleol wedi’u cynnwys ar unrhyw hysbysiad neu unrhyw gyfathrebiad y byddant yn ei anfon atoch.
Cyfeiriad safle’r apêl
Os nad oes cod post gan safle’r apêl, rhowch god post yr adeilad agosaf. Hefyd, rhowch wybodaeth i’n helpu i adnabod y safle, e.e. map neu gynllun yn dangos y safle ac o leiaf 2 ffordd leol wedi’u henwi neu eu rhifo.
Disgrifiad o’r hysbyseb(ion)
Mae angen i chi ddarparu manylion yr hysbyseb(ion) arfaethedig. Dylech ddefnyddio’r disgrifiad o’ch ffurflen gais wreiddiol. Os yw’r disgrifiad wedi’i ddiwygio yn ystod y cam ymgeisio, gallwch ddarparu’r disgrifiad wedi’i ddiweddaru. Amgaewch gopi o gytundeb yr ACLl i’r newid yn y disgrifiad o’r datblygiad.
Rheswm dros yr apêl
Dewiswch y rheswm dros yr apêl.
Datganiad llawn o’r achos
Dylech roi rhesymau dros yr apêl yn yr adran hon. Os dymunwch gyflwyno eich datganiad achos fel dogfen ar wahân, nodwch hynny ar y ffurflen. Rhaid i chi gyflwyno’ch datganiad llawn o’ch achos ar yr un pryd â’r ffurflen apêl. Y wybodaeth a gyflwynir gyda’ch apêl yw eich unig gyfle i gyflwyno’ch achos ar eich rhesymau dros yr apêl.
Dylech esbonio pam rydych yn anghytuno â’r penderfyniad. Fel y nodir uchod, yr unig faterion y gellir eu hystyried wrth asesu cais hysbysebu yw amwynder a diogelwch y cyhoedd.
Costau
Os yw unrhyw barti wedi ymddwyn yn afresymol ac mae hyn yn achos uniongyrchol i barti arall fynd i gost ddiangen neu wastraffus yn y broses ar gyfer apelio neu wneud cais, gallwch gyflwyno cais am gostau. Cyn i chi gyflwyno cais am gostau, darllenwch ein canllawiau ar gostau.
Dogfennau ategol hanfodol
Mae’r ffurflen apêl yn rhestru’r dogfennau ategol hanfodol perthnasol. Sicrhewch fod gennych yr holl ddogfennau a restrir a’u bod ar gael i’w cyflwyno gyda’ch apêl. Dylech gadarnhau hyn ar y ffurflen apêl wrth dicio’r blychau perthnasol.
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi anfon popeth atom. Os na, bydd hyn yn achosi oedi gyda’ch apêl wrth i ni ofyn i chi am y dogfennau coll. Os na chaiff yr holl ddogfennau eu cyflwyno o fewn y terfyn amser ar gyfer apelio, mae’n bosibl y caiff eich apêl ei gwrthod.
Gwnewch yn siŵr bod yr holl gynlluniau a lluniadau wedi’u llunio i raddfa a nodir ac, yn achos cynlluniau, yn dangos cyfeiriad y gogledd. Dylech anfon copïau atom o’r holl gynlluniau a lluniadau a anfonwyd at yr ACLl gyda’ch cais
Gwirio, cadarnhau a’r dyddiad
Gwiriwch eich ffurflen wedi’i llenwi, llenwch y cadarnhad perthnasol, a rhowch y dyddiad arni. Nid oes angen llofnod inc arnom.
Manylion personol
Llenwch yr adran hon â’r manylion personol ar gyfer yr apelydd a’u hasiant (os yw hynny’n briodol). Ni fyddwn yn gwneud y manylion personol a roddir ar y dudalen hon ar gael i’r cyhoedd.
Rhagor o wybodaeth
Cyfathrebu electronig
Os gwneir apêl yn electronig (h.y. drwy e-bost, y porth cynllunio), cymerir eich bod yn cytuno i ddefnyddio cyfathrebu electronig at ddibenion yr apêl. Gallwch dynnu’n ôl eich caniatâd ar gyfer cyfathrebu electronig wrth roi gwybod i ni’n ysgrifenedig.
Os ydych yn cyflwyno apêl neu unrhyw ddogfen arall drwy gyfathrebu electronig, ni fydd y ddogfen honno’n cael ei thrin fel pe bai wedi’i chyflwyno hyd nes y bydd:
- y derbynnydd yn gallu cael mynediad iddi
- yn ddarllenadwy ym mhob ffordd berthnasol
- yn ddigon parhaol i’w defnyddio ar gyfer cyfeirio dilynol