Neidio i'r prif gynnwy

Rydym ni wedi ymrwymo i gefnogi cynllun uchelgeisiol a arweinir gan y diwydiant i ddileu Dolur Rhydd Feirysol Buchol (BVD) yng Nghymru.

O 1 Gorffennaf 2024 tan 1 Gorffennaf 2025, ni fydd unrhyw gyfyngiadau symud ar lefel buches ar gyfer buchesi sydd wedi cael prawf gwrthgyrff BVD positif. 

Rydym ni’n argymell yn gryf y dylai'r camau priodol a ddisgrifir yn yr adran opsiynau profi a argymhellir isod gael eu cymryd cyn 1 Gorffennaf 2025. Y nod yw sicrhau bod y fuches yn rhydd o BVD cyn i gyfyngiadau symud ar gyfer buchesi gael eu cyflwyno ym mis Gorffennaf 2025.

Sgrinio blynyddol gorfodol

O 1 Gorffennaf 2024, mae'n ofynnol i bob buches gynnal profion gwrthgyrff BVD bob blwyddyn:

  • rhaid cyflwyno samplau i labordy cymeradwy
  • bydd y canlyniad yn cael ei gyhoeddi gan y labordy a bydd yn gosod statws y fuches fel BVD Negatif neu BVD Annegatif
  • bydd y labordy'n adrodd y canlyniadau wrth y ceidwad, ei brif ddarparwr gofal milfeddygol a Llywodraeth Cymru
  • bydd statws y fuches yn cael ei newid yn awtomatig gan system cronfa ddata BVD i BVD Negatif, ar yr amod nad oes unrhyw anifeiliaid BVD Positif ac anifeiliaid PI BVD yn y fuches

Rhaid i geidwaid buchesi gwartheg yng Nghymru sicrhau bod eu buchesi'n cael eu sgrinio bob blwyddyn am BVD. 

Nid oes rhaid i chi brofi pob anifail yn y fuches yn unigol i ganfod a yw BVD yn bresennol. Yn hytrach, bydd rhaid i chi wneud prawf sgrinio gwrthgyrff a fydd yn dangos a yw'r fuches wedi dod i gysylltiad â BVD. Bydd canlyniad y prawf sgrinio yn dweud wrthych chi a'ch milfeddyg a yw'r fuches yn rhydd o BVD neu a oes angen i chi wneud rhagor o brofion i ganfod a oes haint BVD gweithredol yn eich buches.

Bydd eich milfeddyg yn gallu rhoi cyngor ar ba anifeiliaid i'w dewis ar gyfer profion gwrthgyrff. Rhaid i chi ddefnyddio un o'r dulliau canlynol:

Dull sgrinio gwrthgyrff BVD blynyddol gorfodol:

Pryd bynnag y modd, defnyddiwch opsiwn (a) isod ar gyfer prawf sgrinio. Os nad yw hyn yn bosibl, dylid defnyddio opsiynau (b) ac (c) mewn trefn. Nod y prawf hwn yw adnabod gwrthgyrff a bydd yn dangos a yw’ch buches wedi dod i gysylltiad â'r feirws BVD.

Cyn penderfynu gwneud prawf sgrinio, siaradwch â'ch milfeddyg i weld faint o grwpiau a reolir ar wahân sydd gennych chi yn eich buches. Bydd eich milfeddyg yn penderfynu faint o anifeiliaid sydd angen cael prawf gwaed.

a) Pum llo heb eu brechu rhwng 9 a 18 mis oed

Dylai’ch milfeddyg gymryd samplau gwaed o ddim llai na phum llo heb eu brechu rhwng 9 i 18 mis oed ym mhob grŵp a reolir ar wahân. Os oes llai na phum llo mewn grŵp, dylech chi brofi pob llo yn y grŵp.

b) Deg llo heb eu brechu rhwng 0 a 9 mis oed

Os yw unrhyw un o'ch sampl o loi yn 0-9 mis oed, dylai’ch milfeddyg gymryd sampl gwaed o ddim llai na deg llo heb eu brechu rhwng 0 a 9 mis oed ym mhob grŵp a reolir ar wahân. Os oes llai na deg llo mewn grŵp, dylech chi brofi pob llo yn y grŵp.

c) Pump o wartheg heb eu brechu dros 18 mis

Os nad oes gennych chi loi yn y naill gategori oedran uchod na’r llall, dim ond wedyn y gallwch chi ddewis defnyddio'r dull canlynol: 

Dylai’ch milfeddyg gymryd sampl gwaed o ddim llai na phum anifail heb eu brechu o bob grŵp a reolir ar wahân. 

Opsiynau profi a argymhellir:

a) Profion llo gwirfoddol

Profi pob llo sydd newydd gael ei eni yn y fuches yn unigol am y feirws drwy sampl gwaed neu feinwe. Gallwch chi brofi'r lloi wrth iddyn nhw gael eu geni neu i gyd ar unwaith. Gall profion tagio meinwe clust (mae esboniad isod) fod yn ffordd arbennig o ddefnyddiol o wneud hyn a dyma'r unig ddull y gallwch ei ddefnyddio heb gymorth milfeddyg.

Tagiau meinwe clust

Mae tagiau samplu meinwe clust wedi'u dylunio i gymryd sampl o feinwe'r glust wrth dagio'r anifail. Mae'r feinwe yn mynd i mewn i'r capsiwl wedi'i labelu pan fydd yr anifail yn cael ei dagio, yna byddwch chi'n ei dorri i ffwrdd a'i anfon i'r labordy.

Os ydych chi am brynu tagiau samplu meinwe clust, cysylltwch â'ch cyflenwr tagiau clust arferol. Os nad yw'n eu stocio, dylai allu’ch cyfeirio at rywle sy'n eu gwerthu. Os ydych chi'n samplu lloi o dan 20 diwrnod oed, rhaid i chi ddefnyddio tag adnabod swyddogol i gymryd y sampl BVD. Mae hyn yn lleihau nifer y tagiau sy'n cael eu rhoi ar glust llo ac yn lleihau gwallau teipograffyddol yn y labordy profi BVD. Gellir defnyddio tagiau rheoli i gymryd samplau o wartheg eraill (e.e. lloi marw, anifeiliaid hŷn).

Nodyn lles pwysig ar dagio clustiau

Os ydych chi am ddefnyddio tagiau samplu meinwe, dylech chi roi cyn lleied o dagiau â phosibl ar bob anifail. Gall defnyddio tagiau clust ychwanegol achosi problemau lles i wartheg.

Os byddwch chi'n penderfynu defnyddio tagiau samplu meinwe, gofalwch eich bod yn defnyddio'r teclyn cywir i’w gosod. Efallai y bydd yn ymddangos bod teclyn yn gweithio gyda thagiau eraill ond mae’n bosibl y bydd yn eu gosod yn rhy dynn, gan achosi poen ac arwain at haint.

b) Profion antigenau gwirfoddol ar y fuches gyfan 

Cymryd sampl gwaed neu sampl meinwe unigol o'r holl anifeiliaid yn y fuches. Mae hwn yn brawf am y feirws BVD ac mae ganddo'r fantais bod modd adnabod yr holl anifeiliaid sydd wedi'u heintio'n barhaus (PI) yn y fuches a'u dileu o’r fuches. Efallai y byddwch chi'n dewis defnyddio tagiau meinwe ac, os felly, nid oes angen i chi ymgynghori â milfeddyg; fodd bynnag, os byddwch chi'n dewis cymryd samplau gwaed, bydd angen cymorth eich milfeddyg. 

Gwartheg sydd wedi'u heintio'n barhaus (anifeiliaid PI)

Gall gwartheg sy'n cael eu heintio â BVD ym mhedwar mis cyntaf eu beichiogrwydd roi genedigaeth i lo sydd wedi'i heintio'n barhaus (PI). Yr anifeiliaid PI hyn yw prif ffynhonnell haint BVD gan y bydd ganddyn nhw'r feirws ar hyd eu hoes a byddan nhw’n ei ledaenu mewn symiau enfawr. Maen nhw'n cael eu geni'n BVD Positif ac yn aros felly am weddill eu bywyd. Bydd llawer yn marw o fewn blwyddyn gyntaf eu bywyd, ond gall rhai fyw yn hirach o lawer a gallan nhw ymddangos yn normal. Mae gwartheg sydd wedi'u heintio â BVD ar ôl genedigaeth yn cael eu heintio dros dro a byddan nhw fel arfer yn gwella ymhen tua thair wythnos, ond mae ganddyn nhw lai o allu i ymladd clefydau heintus eraill ac mae’n debygol o amharu ar eu ffrwythlondeb nes iddyn nhw wella.

Gall ceidwaid ddewis ailbrofi anifail Positif i ganfod a yw'n anifail PI neu'n anifail sydd wedi'i heintio dros dro yn unig. Rhaid i'r ail brawf gael ei wneud gan filfeddyg. Yr arfer gorau yw tynnu anifeiliaid BVD Positif ac anifeiliaid PI BVD o'r fuches cyn gynted â phosibl. Gellir gwneud hyn drwy ddifa ar y fferm neu anfon yr anifail i'r lladd-dy yn syth. Rhaid i anifeiliaid BVD Positif gael eu hanfon i'r lladd-dy yn syth oni bai eu bod yn cael ail brawf negatif am antigenau BVD 21 diwrnod ar ôl y prawf cyntaf.

Mae buchesi sydd ag anifail PI BVD yn cael eu dosbarthu fel BVD Annegatif a chyfyngir ar eu symudiadau. Dim ond anifeiliaid BVD Negatif all symud allan o'r fuches, cyn belled â bod ganddyn nhw ganlyniad prawf antigenau BVD cyn symud dilys. 

O 1 Gorffennaf 2024, bydd anifeiliaid PI BVD yn cael eu cyfyngu i’r fferm am oes. Rhaid iddyn nhw:

  • gael eu cadw dan do
  • cael eu cadw ar wahân i weddill y fuches, gyda statws bwyd anifeiliaid a sarn ar wahân 
  • peidio ag achosi unrhyw risg sylweddol o ledaenu BVD 

Argymhellir yn gryf y dylai anifeiliaid PI BVD gael eu tynnu o'r fuches cyn gynted â phosibl. 

Statws BVD

Newidiadau i statws BVD y fuches:

Y prawf sgrinio gwrthgyrff blynyddol gorfodol neu adnabod anifail PI mewn buches yw'r unig sbardunau ar gyfer newid statws BVD buches o BVD Negatif i BVD Annegatif. 

Er mwyn i statws y fuches newid o BVD Annegatif i BVD Negatif, rhaid datrys pob anifail sydd â statws BVD Positif. Rhaid tynnu pob anifail sydd â statws PI BVD o'r fuches.

Statws BVD anifail unigol: 

Yn dibynnu ar statws y clefyd, gall anifail buchol unigol fod yn:

  • BVD Negatif – mae'r statws hwn yn gymwys i wartheg sydd wedi cael canlyniad negatif yn y prawf antigenau. Mae'r anifail hwn wedi'i eithrio o brofion PI yn y dyfodol ond bydd angen prawf BVD cyn symud er mwyn ei dynnu o'r fuches os mai BVD Annegatif yw statws y fuches.
  • BVD Positif – mae'r statws hwn yn gymwys i wartheg sydd wedi cael canlyniad positif yn y prawf antigenau. Gall yr anifeiliaid hyn gael eu tynnu o'r fuches neu eu hailbrofi am antigenau BVD 21 diwrnod ar ôl y prawf antigenau positif cyntaf.
  • PI BVD – mae'r statws hwn yn gymwys i wartheg sydd wedi cael dau ganlyniad positif yn olynol mewn prawf antigenau. Rhaid i'r anifeiliaid hyn gael eu hynysu oddi wrth weddill y fuches am weddill eu bywyd. Argymhellir yn gryf y dylid tynnu'r anifeiliaid hyn o'r fuches cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.
  • BVD Anhysbys – mae'r statws hwn yn berthnasol i wartheg nad ydyn nhw wedi cael eu profi'n unigol am BVD o dan gynllun dileu BVD Cymru.

Mesurau sy'n cael eu cyflwyno o 1 Gorffennaf 2025

Cyfyngiadau symud 

Yn dechrau ar 1 Gorffennaf 2025, bydd pob buches yng Nghymru sydd â statws BVD Annegatif yn cael eu rhoi o dan gyfyngiadau symud.

Ni all buches sy'n BVD Annegatif symud unrhyw wartheg o'r fuches, heb brawf antigenau BVD cyn symud negatif dilys. Bydd y canlyniad prawf antigenau BVD negatif hwn yn ddilys am 30 diwrnod calendr o ddyddiad samplu'r anifail. Mae cyfyngiadau symud buches yn gymwys o'r adeg y nodir unrhyw wrthgyrff BVD Positif mewn buches yn ystod y sgrinio gwrthgyrff BVD gorfodol blynyddol.

  • Ni all ceidwaid symud anifeiliaid BVD Positif neu anifeiliaid PI BVD o'r fuches heblaw i'w lladd.

Mae cyfyngiadau symud yn cael eu codi:

  • ar ôl yr ail brawf, pan NAD yw'r anifeiliaid BVD Positif wedi'u cadarnhau fel anifeiliaid PI BVD, neu
  • pan fo'r anifail BVD Positif yn cael ei symud i'w ladd neu ei ladd ar y fferm, a
  • phan fo'r dystiolaeth yn cadarnhau bod BVD wedi'i ddileu o'r fuches.

Profion antigenau BVD cyn symud:

Bydd angen prawf antigenau cyn symud negatif ar bob anifail BVD Negatif mewn buchesi BVD Annegatif (sy'n ddilys am 30 diwrnod o gymryd y sampl) oni bai eu bod yn cael eu symud i'w lladd neu'n symud o dan drwydded a roddir gan arolygydd milfeddygol neu Weinidogion Cymru.

Os bydd anifail yn profi'n bositif yn y prawf antigenau cyn symud, ni ellir symud yr anifail a bydd angen ei ailbrofi ar ôl 21 diwrnod. Bydd statws y fuches yn aros yr un fath ac nid oes angen profi'r anifeiliaid eraill yn y fuches heblaw at ddibenion cyn symud.

Prynu anifeiliaid o'r tu allan i Gymru: 

Bydd rhaid i geidwaid sy'n symud gwartheg sydd â statws BVD anhysbys i ddaliad yng Nghymru gynnal prawf antigenau ar yr anifeiliaid o fewn 20 diwrnod i'r symud. Ni all anifeiliaid sydd â statws BVD anhysbys sy’n cael eu cyflwyno i’r fuches adael y fuches heb statws BVD Negatif unigol.

Os bydd anifail yn profi'n bositif ar ôl symud, caiff statws y fuches ei newid i BVD Annegatif a bydd angen ailbrofi'r anifail dan sylw ar ôl 21 diwrnod. Os bydd yr anifail yn profi'n bositif ar ôl ei ailbrofi, bydd yn cael ei ddosbarthu'n anifail "PI" a rhaid ei ynysu.

Gwartheg cyflo: 

Rhaid i geidwaid sy'n prynu gwartheg cyflo eu hynysu nes eu bod yn lloia oni bai eu bod wedi cael prawf negatif am antigenau BVD a'u bod yn dod o fuches BVD Negatif.

Profi lloi mewn Buchesi BVD Annegatif: 

Rhaid i geidwaid gynnal prawf antigenau o fewn 20 diwrnod i enedigaeth pob llo sy’n cael ei eni yn y 12 mis ar ôl canfod gwrthgyrff BVD.

Profi lloi a erthylwyd neu loi marwanedig:

Rhaid profi lloi a erthylwyd neu loi marwanedig o fewn 7 diwrnod cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol. Nid yw'r gofyniad hwn yn cael unrhyw effaith ar statws BVD y fuches. Fe'i defnyddir i gasglu tystiolaeth i helpu’ch milfeddyg i roi'r cyngor gorau posibl i chi ar ddileu BVD o'ch buches.

Prynu Gwybodus - Hysbysu o statws BVD cyn symud 

Rhaid i geidwaid ddatgelu statws BVD y fuches a statws BVD yr anifail unigol cyn i'r symudiad ddigwydd.

Rhaid i geidwaid roi hysbysiad o fewn 72 awr cyn symud/gwerthu gwartheg drwy'r system ar-lein cyn symud/gwerthu i'r bobl lle mae'r anifail yn cael ei symud iddo, e.e. gweithredwr marchnad, darpar geidwad yr anifail, unrhyw berson a fydd yn cadw’r anifail dros dro.

Defnyddio tag swyddogol ar gyfer tagio meinwe

Os bydd tag meinwe’n cael ei ddefnyddio ar lo llai na 20 diwrnod oed, rhaid i'r tag a ddefnyddir fod yn un o dagiau swyddogol y llo.

Ailbrofi anifail BVD Positif

Rhaid i sampl ar gyfer ail brawf anifail BVD Positif gael ei chymryd gan filfeddyg.

Adrodd canlyniadau profion

Rhaid i ganlyniadau profion gael eu hadrodd a'u lanlwytho i’r gronfa ddata BVD o fewn 5 diwrnod i'r profion labordy.

Labordai cymeradwy

O dan Orchymyn Dolur Rhydd Feirysol Buchol (Cymru) 2024, rhaid i samplau a gyflwynir i'w profi fel prawf sgrinio blynyddol gorfodol gael eu hanfon i labordy sydd wedi cael ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru at y diben hwnnw.

I gyflwyno sampl i labordy cymeradwy, defnyddiwch ffurflen a roddir gan y labordy.

Cymeradwyaeth labordy

Er mwyn cael cymeradwyaeth, rhaid i labordy:

1.     Fod ag achrediad ISO17025 cyfredol gan sefydliad sydd ei hun wedi'i achredu i ISO 17011 (EN 45002/3) ar gyfer profi am antigenau a/neu wrthgyrff BVD.

2.     Bod wedi'i leoli yn DU neu Undeb Ewropeaidd.

3.     Cytuno i gyflawni dyletswyddau labordai cymeradwy fel y’u disgrifir isod.

Dyletswyddau ar labordai cymeradwy

Rhaid i'r labordy brofi samplau a gyflwynir o dan y Gorchymyn o fewn pum diwrnod gwaith i’r samplau ddod i law.

Rhaid i'r labordy ddatgan canlyniad y samplau a gyflwynir. Bydd y statws yn seiliedig ar ganlyniadau'r profion a gynhyrchir gan y samplau a gyflwynir. Bydd y statws naill ai'n:

  • negatif am dystiolaeth o haint BVD
  • positif am dystiolaeth o haint BVD neu
  • prawf anaddas/annigonol lle na ellir rhoi canlyniad pendant

Bydd labordai'n defnyddio’u barn broffesiynol wrth ddod i benderfyniad am ganlyniadau profion. Gallan nhw ofyn am unrhyw wybodaeth y mae'n rhesymol iddyn nhw ofyn i'r person sy'n cyflwyno'r samplau amdani er mwyn penderfynu ar ganlyniad prawf. Os nad oes digon o wybodaeth wedi'i darparu er gwaethaf cais o'r fath, gall y labordy ddal canlyniad prawf yn ôl.

Rhaid i'r labordy roi gwybod i'r ceidwad, y person sy'n cyflwyno'r samplau a Gweinidogion Cymru am ganlyniadau'r profion.

Gall labordai godi tâl ar eu cwsmeriaid ar ba bynnag lefel y mynnant, ac ar wahanol lefelau ar gyfer gwahanol fathau o brofion. Dylid cyhoeddi lefelau ffioedd ar gyfer pob math o brawf ar wefan y labordy.

Rhaid i labordai gyflwyno’n electronig rifau adnabod swyddogol unigol pob anifail a brofwyd, y math o brawf, canlyniad pob sampl ac unrhyw wybodaeth arall sy'n ofynnol gan system BVDCymru.

Bydd gwartheg sy'n cael prawf positif yn cael eu dosbarthu'n BVD Positif a gall milfeddyg eu hailbrofi 21 diwrnod ar ôl y prawf cyntaf. Bydd gwartheg sy'n cael prawf positif am antigenau BVD ddwywaith yn olynol yn cael eu dosbarthu’n anifeiliaid PI BVD. Mae anifeiliaid PI BVD wedi'u cyfyngu i’r fferm am oes a rhaid eu hynysu oddi wrth weddill y fuches.

Rhaid i labordai gadw cofnodion am o leiaf dair blynedd. Gall Llywodraeth Cymru ofyn am gael cyrchu'r cofnodion neu fynnu bod darparwyr ymchwil yn cael eu cyrchu ar ei rhan.

Dolur rhydd feirysol buchol: rhaid defnyddio ffurflenni cyflwyno safonol ar gyfer pob prawf BVD.

Rhaid i labordai gysylltu ar unwaith â desg gwasanaeth BVDCymru i unioni unrhyw gamgymeriadau wrth gyflwyno canlyniadau profion.

Rhaid i labordai ddilyn cyfarwyddiadau BVDCymru ar lanlwytho canlyniadau wrth gyflwyno canlyniadau’r profion

Gofynion BVD wrth werthu a/neu symud gwartheg

Mae gan farchnadoedd da byw gyfraniad pwysig i'w wneud yn rhaglen dileu BVD Cymru. Dylai pob ceidwad gwartheg, gan gynnwys ceidwaid dros dro fel marchnadoedd, roi gwybod i ddarpar brynwyr am statws BVD eu buches neu'r anifail unigol. Mae darparu gwybodaeth gywir adeg gwerthu hefyd yn helpu i osgoi siom ac anghydfod pan fydd prynwyr yn mynd â'r anifeiliaid adref. Mae llawer o werthwyr yn gweld budd darparu gwybodaeth BVD ym mhob gwerthiant: mae datgeliad llawn yn caniatáu i brynwyr wneud trefniadau i brofi anifeiliaid BVD Annegatif, fel gwartheg stôr o Loegr heb eu profi, cyn eu cymysgu â'u buches.

Dim ond yn syth i'r lladd-dy y gellir symud anifeiliaid PI BVD. Ni chaniateir eu symud drwy farchnad nac i unrhyw ddaliad arall.  

Wrth werthu gwartheg cyflo, cofiwch fod statws BVD yn gymwys i'r fam yn unig. Ni ellir gwarantu statws y llo heb ei eni: dim ond ar ôl iddyn nhw gael eu geni y gellir profi lloi, ac efallai y bydd ganddynt statws gwahanol i'r fam. Y cyngor gorau yw i brynwyr ddefnyddio tag meinwe BVD i nodi'r llo pan gaiff ei eni. 

Cyfyngiadau ar symud anifeiliaid oddi ar ddaliad sydd â statws buches Annegatif, anifail BVD Positif neu anifail PI BVD

Bydd angen prawf antigenau cyn symud negatif (sy'n ddilys am 30 diwrnod o gymryd y sampl) ar bob anifail BVD Negatif mewn buchesi BVD Annegatif, oni bai ei fod yn cael ei symud i'w ladd neu'n symud o dan drwydded a roddir gan arolygydd milfeddygol neu Weinidogion Cymru. 

Os bydd anifail yn profi'n bositif yn y prawf antigenau cyn symud, ni ellir symud yr anifail a bydd angen ei ailbrofi ar ôl 21 diwrnod. Bydd statws y fuches yn aros yr un fath ac nid oes angen profi'r anifeiliaid eraill yn y fuches. 

Hysbysiad o statws BVD cyn symud 

Rhaid i geidwaid roi gwybod o fewn 72 awr cyn symud anifeiliaid drwy'r system ar-lein i'r bobl y mae'r anifail yn cael ei symud i’w eiddo e.e. 

  • gweithredwr marchnad
  • darpar geidwad yr anifail
  • unrhyw berson a fydd yn cadw’r anifail dros dro.

Hysbysiad preifatrwydd

Bydd rhywfaint o'r wybodaeth y byddwch yn ei rhoi ar ffurflen safonol y  labordy yn ddata personol. Llywodraeth Cymru fydd rheolydd data’r wybodaeth hon, ac fe fyddwn yn prosesu’r wybodaeth yn unol â’n tasg gyhoeddus a'r awdurdod swyddogol a roddwyd i ni. 

Bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'ch data i:

Gynhyrchu adroddiadau epidemiolegol cywir ac unrhyw ganfyddiadau perthnasol i ddeall yn well yr achosion o BVD a geir yng Nghymru a'u nifer, a; 

Cynhyrchu mapiau sy'n dangos statws presennol y clefyd yng Nghymru. 

Bydd yr adroddiadau, y canfyddiadau a'r mapiau hyn yn cael eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru fel rhan o gam monitro a gwerthuso'r cylch llunio polisi. Os bydd angen rhannu'r adroddiadau, y canfyddiadau a'r mapiau epidemiolegol gyda thrydydd partïon, bydd y data personol yn ddienw. 

Rhoi gwybod i'r sawl sydd wedi rhoi'r data am statws clefyd ei fuches. At y diben hwn, bydd y data personol a gesglir yn cael ei rannu â:

  • y labordy sy'n prosesu'r samplau – er mwyn cadw dilyniant o dystiolaeth i allu rhoi adroddiadau ar statws y clefyd a dadansoddi a dehongli data epidemiolegol.
  • Y milfeddyg sy'n casglu'r samplau prawf.

Rhoi gwybod i berchennog y data am statws clefyd ei fuches, cyngor a chefnogaeth, y camau nesaf yn y cylch profi, sut i adennill statws di-glefyd, a sut i gadw statws di-glefyd.

Bydd Llywodraeth Cymru'n casglu data personol i fonitro a chadw golwg ar y clefyd er mwyn darganfod y clefyd yn gyflym a sicrhau bod deddfwriaeth yn cael ei gorfodi a'i rhoi ar waith.

Bydd eich data yn cael ei gadw am hyd at 15 mlynedd yn unol â gofynion statudol Gorchymyn Dolur Rhydd Feirysol Buchol (Cymru) 2024. Mae hwn yn ofyn statudol. Bydd data'n cael ei gadw'n ddiogel er mwyn monitro cynnydd y cynllun. Byddwn yn cadw golwg ar y gofyn hwn.

Mae gennych yr hawl i wneud y canlynol:

  • gweld y data personol yr ydym yn ei brosesu amdanoch
  • i fynnu ein bod yn cywiro unrhyw beth anghywir yn y data hwnnw
  • gwrthwynebu prosesu'r data (o dan rai amgylchiadau) neu gyfyngu ar y data a brosesir
  • gofyn i'ch data gael ei ‘ddileu’ (o dan rai amgylchiadau)
  • yr hawl i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

Dyma fanylion cyswllt yr ICO:

Information Commissioner's Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac yn ei defnyddio, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, cysylltwch â:

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

E-bost: DataProtectionOfficer@gov.wales