Amlinelliad o Gynllun Dileu Dolur Rhydd Feirysol Buchol newydd Cymru.
Rydym wedi ymrwymo i gefnogi cynllun uchelgeisiol a arweinir gan y diwydiant i ddileu Dolur Rhydd Feirysol Buchol (BVD) yng Nghymru.
Datblygwyd y cynllun hwn mewn partneriaeth â chynrychiolwyr o blith:
- y diwydiant da byw
- y proffesiwn milfeddygol
- y sector gwyddoniaeth
- Llywodraeth Cymru
Mae ceidwaid gwartheg Cymru wedi gwneud cynnydd aruthrol ers i'r cynllun dileu BVD ddechrau fel rhaglen wirfoddol yn 2017. Mae'r rhan fwyaf o fuchesi bellach yn BVD Negatif.
Mae angen i ni ddiogelu'r buchesi BVD Negatif drwy ddod o hyd i bob anifail PI (sydd wedi'i heintio'n barhaus) yng Nghymru a'i atal rhag heintio gwartheg eraill.
O 1 Gorffennaf 2024, bydd mesurau i reoli a dileu BVD yn cael eu cyflwyno yng Nghymru.
I'ch helpu chi i gydymffurfio â Gorchymyn Dolur Rhydd Feirysol Buchol (Cymru) 2024, darllenwch ganllawiau cynllun dileu BVD Cymru.