Neidio i'r prif gynnwy

Sut y gall hyrwyddwyr digidol helpu'r sector cyhoeddus i wella cysylltedd symudol a rhyngrwyd yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mai 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cefndir

Gwnaethom greu'r Tasglu Chwalu Rhwystrau i gael gwared ar rwystrau i ddarparu seilwaith digidol.

Mae'r adroddiad Tasglu Chwalu Rhwystrau yn argymell creu hyrwyddwyr digidol yn y sector cyhoeddus.

Beth yw hyrwyddwyr digidol

Penodir hyrwyddwyr digidol i:

  • wella dealltwriaeth o fuddion cysylltedd digidol.
  • gwella cyfathrebu rhwng darparwyr rhwydwaith symudol/band eang a chyrff cyhoeddus. 

Mae dau fath o hyrwyddwyr digidol:

  • Hyrwyddwr Digidol Seilwaith: gweithredu fel y prif gyswllt rhwng cyrff cyhoeddus a chwmniau rhwydwaith symudol/band eang.
  • Hyrwyddwr Digidol Cymunedol: helpu trigolion a busnesau i ddeall eu hopsiynau o ran cysylltedd digidol.

Hyrwyddwr Digidol Seilwaith

Mae cyfathrebu da rhwng darparwyr rhwydwaith ac awdurdodau lleol yn hanfodol er mwyn darparu seilwaith digidol. Gallai un cyswllt o fewn cyrff cyhoeddus ar gyfer materion digidol gefnogi hyn.

Uwch hyrwyddwr digidol ym mhob awdurdod lleol fyddai'r prif gyswllt ar gyfer diwydiant, llywodraeth ac adrannau mewnol ar seilwaith digidol.

Mae'r hyrwyddwyr hyn yn rheoli ymholiadau gan ddarparwyr seilwaith digidol ar draws adrannau awdurdodau lleol, fel priffyrdd a chynllunio. Maent yn helpu i ddatrys materion sy'n oedi'r broses o ddarparu a hyrwyddo buddion cysylltedd digidol o fewn cyrff cyhoeddus.

Hyrwyddwr Digidol Cymunedol

Efallai na fydd gan breswylwyr a busnesau wybodaeth am gysylltiad band eang a symudol. Gall rhwydwaith o hyrwyddwyr digidol cymunedol fynd i'r afael â hyn.

Mae hyrwyddwyr digidol cymunedol yn gweithio gyda chymunedau lleol i:

  • esbonio technolegau band eang a'r opsiynau sydd ar gael.
  • cynghori ar dechnolegau amgen a chefnogi problemau cysylltedd.

Buddion i awdurdodau lleol

Mae hyrwyddwyr digidol yn helpu awdurdodau lleol i gyflawni eu nodau digidol. Maent yn lleihau rhwystrau i ddefnyddio isadeiledd, gan arwain at fand eang cyflymach, dibynadwy a gwell darpariaeth symudol i breswylwyr a busnesau.

Adnoddau arfer gorau

Mae gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe hyrwyddwyr digidol ym mhob awdurdod lleol. Ewch i'w gwefan am fanylion am rolau a chysylltiadau. Am fwy o wybodaeth, gweler y dudalen 'Cwrdd â'n Hyrwyddwyr Digidol'.

Er mwyn cefnogi'r arfer gorau mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe wedi sicrhau bod disgrifiadau swyddi enghreifftiol ar gael: Hyrwyddwyr digidol y sector cyhoeddus: enghreifftiol disgrifiadau swydd