Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes
Yn gynharach eleni, cyflwynais gynigion ar gyfer sicrhau cyfeiriad strategol gwaith ieuenctid yng Nghymru. Roedd hyn yn cynnwys datblygu Strategaeth Gwaith Ieuenctid newydd a sefydlu Bwrdd Gwaith Ieuenctid Interim.
Ar 2 Gorffennaf 2018, cyhoeddais mai Keith Towler fyddai Cadeirydd y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Interim ac, ers ei benodiad, mae brwdfrydedd ac ymroddiad Keith wrth gyflawni’r swydd, a’i ymrwymiad clir i ymgysylltu’n ystyrlon â phobl ifanc a’r sector wedi gadael argraff arnaf.
Rwyf nawr yn falch o gadarnhau, yn dilyn proses Penodiadau Cyhoeddus lai manwl dan arweiniad Keith, fy mod yn gallu cyhoeddi enwau’r ymgeiswyr sydd wedi llwyddo gyda’u ceisiadau i fod yn aelodau o’r Bwrdd. Y rhain yw:
Efa Gruffudd Jones - Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Joanna Sims - Rheolwr Gwasanaethau Ieuenctid Blaenau Gwent
Eleri Thomas - Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent
Dusty Kennedy - Arweinydd Partneriaeth Cenedlaethol gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru
Simon Stewart - Deon Cyfadran Gwyddorau Gymdeithasol a Bywyd Prifysgol Glyndŵr Wrecsam
Sharon Lovell - Cyfarwyddwr Gweithredol y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol
Gyda’i gilydd, mae gan yr ymgeiswyr hyn amrywiaeth o sgiliau a gwybodaeth a fydd yn gwneud cyfraniad allweddol at benderfynu sut rydym yn mynd ati i sicrhau cyfeiriad strategol gwaith ieuenctid yng Nghymru. Maent yn bobl brofiadol iawn yn eu meysydd perthnasol, a byddant yn cyflawni gwaith hanfodol wrth ystyried tystiolaeth, ymgysylltu â phobl ifanc a rhanddeiliaid, a herio ein ffordd o feddwl am beth y gellir ei gyflawni ym maes gwaith ieuenctid. Bydd aelodau’r Bwrdd yn dilyn saith egwyddor Bywyd Cyhoeddus, ac wrth wneud hynny bydd disgwyl i bob aelod weithio o fewn Egwyddorion Bywyd Cyhoeddus Nolan.
Derbyniwyd nifer o geisiadau o safon uchel gan unigolion medrus a gwybodus sy’n frwd am waith ieuenctid. Er na wnaethant lwyddo gyda’u cais i fod yn aelodau o’r Bwrdd Gwaith Ieuenctid Interim y tro hwn, hoffwn ddiolch iddynt am eu diddordeb. Mae’n galonogol gwybod bod yr unigolion ymroddedig hyn yn gweithio yng Nghymru ac yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc.
Gyda'r Bwrdd nawr wedi’i sefydlu a’r cyfarfod cyntaf yn digwydd yfory; mae llawer i’w wneud gyda agenda uchelgeisiol o’n blaenau. Mae yna lawer i’w wneud ac agenda uchelgeisiol o’n blaenau. Byddaf yn disgwyl eu gweld yn cefnogi datblygiad dull newydd ac arloesol o ddarparu gwaith ieuenctid yng Nghymru, un sy’n rhoi pobl ifanc yn y canol. Rwy’n siŵr y byddwch am ymuno â mi i groesawu’r Bwrdd, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda nhw’n agos wrth i ni ddod at amser prysur a chyffrous i waith ieuenctid yng Nghymru.
Yn olaf, hoffwn ddiolch yn bersonol i aelodau’r Grŵp Cyfeirio Gwaith Ieuenctid. Rydych wedi cefnogi Llywodraeth Cymru dros y 4 blynedd diwethaf, yn enwedig o ran sicrhau bod lleisiau a phrofiadau pobl ifanc a gweithwyr ieuenctid yn cael eu clywed. Bydd y Grŵp yn dod i ben nawr er mwyn ffurfio Grŵp Rhanddeiliaid newydd; un a fydd yn cefnogi’r Bwrdd gyda’i waith dadansoddi a chasglu tystiolaeth, gan sicrhau cynrychiolaeth eang o leisiau gan bobl ifanc a’r rhai sy’n gweithio’n agos gyda nhw.