Neidio i'r prif gynnwy

Dadansoddiad o’r amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn wedi’u hailsylfaenu (2012 i 2021) yn dilyn Cyfrifiad 2021, Cymru

Ar 9 Ebrill, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddadansoddiad o'r amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn wedi’u hailsylfaenu (canol 2012 i ganol 2021) yn dilyn Cyfrifiad 2021, ar gyfer Cymru.

Mae’r erthygl ystadegol hon yn rhoi dadansoddiad pellach o’r amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn wedi’u hailsylfaenu gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn dilyn Cyfrifiad 2021 ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r erthygl yn canolbwyntio ar yr amcangyfrifon wedi’u hailsylfaenu ar gyfer Cymru ac awdurdodau lleol yng Nghymru ar gyfer y cyfnod canol 2012 i ganol 2021.

Y prif bwyntiau 

  • Yn yr amcangyfrifon poblogaeth wedi’u hailsylfaenu, gwelwyd gostyngiad o 66,600 ym mhoblogaeth Cymru – o 3.17 miliwn i 3.11 miliwn – rhwng canol 2011 a chanol 2021.
  • Mae hyn yn ostyngiad o 2.1%, sy’n fwy o ostyngiad ar gyfartaledd na’r hyn a welwyd ar gyfer Lloegr (gostyngiad o 0.4%) yn ystod yr un cyfnod. 
  • Roedd yr amcangyfrifon poblogaeth wedi’u hailsylfaenu yn is na’r amcangyfrifon poblogaeth treigl ar gyfer 20 o’r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru. 
  • Casnewydd a Wrecsam oedd yr unig awdurdodau lleol yr oedd eu hamcangyfrifon poblogaeth wedi’u hailsylfaenu yn uwch na’u hamcangyfrifon treigl.
  • Gan Wynedd, a welodd ostyngiad yn y boblogaeth o 6.2% rhwng canol 2011 a chanol 2021 – o 124,800 i 117,100 – yr oedd y gwahaniaeth negyddol mwyaf rhwng yr amcangyfrifon poblogaeth treigl a’r amcangyfrifon wedi’u hailsylfaenu.
  • Yn ystod y cyfnod hwn, newid yn y boblogaeth na ellid ei briodoli – newid na ellid dweud yn sicr mai newidiadau mewn genedigaethau, marwolaethau neu fudo oedd i gyfrif amdano – oedd i gyfrif am y mwyafrif (58,700) o'r gostyngiad cyffredinol ym mhoblogaeth Cymru o ganlyniad i’r ymarfer ailsylfaenu. 

Mae’r amcangyfrifon poblogaeth sydd wedi’u hailsylfaenu i'w gweld ar StatsCymru, ac mae’r amcangyfrifon treigl ar gael i'w lawrlwytho yma.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso ichi gysylltu â ni ar ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru

Ystadegau cofrestru etholiadol

Ar 11 Ebrill, cyhoeddodd SYG ystadegau etholiadol ar nifer yr etholwyr ar 1 Rhagfyr 2023. Fe'u cyhoeddwyd fel tablau data yn unig.

Nid yw data etholwyr llywodraeth leol Cymru, a gyhoeddwyd gan SYG, yn adlewyrchu’r newidiadau i’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer etholiadau’r Senedd ac etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru ers 2020 ar gyfer pob etholaeth yng Nghymru. Nid yw’r wybodaeth sy’n cael ei chasglu gan SYG oddi wrth swyddogion cofrestru etholiadol yng Nghymru ar hyn o bryd yn cynnwys pob etholwr 16 oed a phob cyrhaeddwr 15 oed yng Nghymru sydd wedi’i gofrestru i bleidleisio yn etholiadau’r Senedd ac yn yr etholiadau llywodraeth leol ym mhob etholaeth. Rydym yn parhau i weithio gyda SYG i ddatrys y mater hwn fel y gallwn gyhoeddi ystadegau wedi’u cywiro ar gyfer etholwyr y Senedd a llywodraeth leol yng Nghymru ar gyfer y cyfnod 2020 i 2023. Sylwer, mae hyn hefyd yn golygu na allwn ddiweddaru ein tablau StatsCymru. Gweler tablau data SYG i gael rhagor o wybodaeth.

Cyhoeddwyd datganiad sy’n crynhoi’r data ar gyfer etholwyr Senedd y DU yng Nghymru.

Y prif bwyntiau 

  • Roedd cyfanswm nifer etholwyr Senedd y DU a oedd wedi’u cofrestru i bleidleisio fel ag yr oedd ar 1 Rhagfyr 2023 yng Nghymru yn 2,304,800.
  • Mae hyn yn debyg i 1 Rhagfyr 2022, pan roedd 2,304,700 o etholwyr wedi’u cofrestru i bleidleisio.
  • Cynyddodd cyfanswm nifer etholwyr Senedd y DU a oedd wedi’u cofrestru i bleidleisio yn y DU yn gyfan o 0.3% rhwng 1 Rhagfyr 2022 a 1 Rhagfyr 2023.

Sylwer, ar gyfer rhai etholaethau yng Nghymru (ac yn Lloegr), fod SYG wedi gorfod defnyddio data cofrestru etholiadol o 2022 fel amcangyfrif o gofrestriadau etholiadol ar gyfer 2023. Mae rhagor o wybodaeth am hynny i'w chael yn ein datganiad.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso ichi gysylltu â ni ar ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru

Amcangyfrifon y Parciau Cenedlaethol

Ar 3 Mai, cyhoeddodd SYG amcangyfrifon poblogaeth y parciau cenedlaethol canol 2021 a chanol 2022 ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r rhain newydd gael eu cyhoeddi fel tablau data.

Ein nod yw diweddaru ein tablau StatsCymru cyn gynted â phosibl

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y data, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost i ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru.

Mudo rhyngwladol hirdymor y DU, dros dro: blwyddyn a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2023

Ystadegau'r Gymraeg

I gael gwybodaeth am Ystadegau'r Gymraeg, gweler Diweddariad chwarterol ystadegau Cymru.

Manylion cyswllt

Rhif ffôn: 0300 025 0373

E-bost: ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099