Yn y canllaw hwn
1. Trosolwg
Os ydych yn cael trafferth mynd o gwmpas a'ch bod yn defnyddio car, gallech gael Bathodyn Glas.
Mae Bathodyn Glas yn eich galluogi i barcio'n agosach at eich cyrchfan. Gall eich helpu hefyd i aros yn actif ac annibynnol.
Mae'r bathodyn fel arfer yn ddilys am 3 blynedd. Bydd angen i chi wneud cais arall am Fathodyn Glas ar ddiwedd y 3 blynedd. Gall gymryd hyd at 12 wythnos i brosesu cais. Dylech ystyried hyn i wneud yn siŵr nad ydych heb fathodyn glas.