Neidio i'r prif gynnwy

Manylion

Dyddiad cadarnhau: Medi 2024.

Cefndir

1.1 Mae undebau llafur, cyflogwyr gofal cymdeithasol a Llywodraeth Cymru wedi ffurfio'r bartneriaeth hon er mwyn cytuno ar set o 'fodelau arferion gorau' ar gyfer cyflogaeth i'r rhai sy'n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol annibynnol ledled Cymru (a amlinellir yn Atodiad A). Bydd y 'modelau arferion gorau' hyn yn cael eu datblygu i ddarparu dulliau clir a chyson o ymdrin â pholisïau ar draws y sector gofal cymdeithasol i sicrhau eu bod wedi'u cynllunio'n dda, yn hawdd eu deall, yn gynhwysol ac yn hygyrch i bawb.

1.2 Mae partneriaeth gymdeithasol yn ffordd o weithio sy'n anelu at gyflawni canlyniadau y cytunwyd arnynt ar y cyd, er budd pawb sy'n gysylltiedig. Mae partneriaeth gymdeithasol yn dwyn ynghyd y llywodraeth, cyflogwyr ac undebau llafur mewn meysydd sydd o ddiddordeb i bob parti, i gydweithio, dylunio a datblygu'r camau gweithredu ar y cyd sydd eu hangen i ddatrys problemau cyffredin a rhoi atebion gwell ar waith.

1.3 Bydd hon yn bartneriaeth gyfartal a bydd yn gweithio yn unol ag egwyddorion partneriaeth gymdeithasol i ddatblygu perthnasoedd y gellir ymddiried ynddynt a meithrin ymddygiad sy'n hyrwyddo cydweithredu, parch ac ymddiriedaeth, a chynyddu cyfranogiad yn ogystal â sicrhau enillion a buddion i'r ddwy ochr.

1.4 Mae angen clir am gymorth i fynd i'r afael â materion cyflog, recriwtio a chadw ym maes gofal cymdeithasol, sydd wedi'u gwaethygu gan yr heriau eithafol a gyflwynwyd yn ystod ystod Brexit, pandemig Coronafeirws (COVID-19), a bellach yr argyfwng costau byw. Mae gweithio gyda'n gilydd i gytuno ar set o fodelau arferion gorau ar gyfer cyflogaeth yn dangos ein hymrwymiad ar y cyd i wella telerau ac amodau gwasanaeth gweithwyr gofal cymdeithasol.

Nodau ac amcanion

2.1 Nod cyffredinol y bartneriaeth hon yw cytuno ar set o fodelau arferion gorau ar gyfer cyflogaeth i staff sy'n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol annibynnol (Atodiad A), a bydd y rhain yn cael eu mabwysiadu yn wirfoddol gan gyflogwyr.

2.2 Bydd y bartneriaeth yn cyfleu'r modelau hyn i staff a chyflogwyr yn y sector gofal cymdeithasol annibynnol.

2.3 Bydd y bartneriaeth yn cytuno ar y modelau cyflogaeth hyn sy'n cwmpasu'r telerau a'r amodau a amlinellir yn 3.1.

2.4 Bydd y bartneriaeth yn gweithredu ar sail wirfoddol a bydd yn annog cyflogwyr gofal cymdeithasol i fabwysiadu'n wirfoddol y modelau hyn y cytunir arnynt gan y bartneriaeth hon.

2.5 Bydd y bartneriaeth yn cytuno ar ba faterion cyflogaeth a amlinellir yn 3.1 a fydd yn cael eu hystyried yn ystod ei blwyddyn gyntaf, gyda'r bwriad o allu dod i gytundeb ar faterion y gall cyflogwyr eu rhoi ar waith a'u mabwysiadu yn y tymor byr.

2.6 Bydd y bartneriaeth yn cytuno ar fframwaith ar gyfer y broses o sut y bydd yn gweithredu – gan gasglu a dadansoddi tystiolaeth gyda mewnbwn gan arbenigwyr a amlinellir yn 4.5. Bydd ei fframwaith gweithredu yn ddogfen fyw a fydd yn cael ei datblygu a'i gwella drwy gydol y cyfnod datblygu gwirfoddol.

2.7 Uchelgais tymor hwy y bartneriaeth yw ymgorffori gwaith teg yn y sector gofal cymdeithasol a mabwysiadu'r modelau y bydd yn cytuno arnynt fel arferion gorau ar gyfer yr holl staff o fewn cwmpas y sector gofal cymdeithasol.

2.8 Yn y tymor hwy, bydd y bartneriaeth yn edrych ar ddulliau ar gyfer cytuno ar lefelau disgwyliedig o wobrwyo ar draws rolau ym maes gofal cymdeithasol, gan ddefnyddio'r fframwaith tâl a dilyniant sy'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd gan y Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol.

Cwmpas

3.1 Bydd y bartneriaeth yn ystyried yr holl faterion sy'n ymwneud â chyflogaeth y rhai sy'n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol a amlinellir yn Atodiad A. Mae'r rhain yn cynnwys y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt:

  • telerau ac amodau
  • polisïau adnoddau dynol enghreifftiol
  • mynediad at undebau llafur
  • polisïau cynefino
  • cwynion yn ymwneud â bwlio a gwahaniaethu
  • diogelwch mewn perthynas â chwythu'r chwiban

3.2 Bydd y bartneriaeth yn dod i gytundeb ar y modelau arferion gorau ar gyfer cyflogaeth, a fyddai, pe baent yn cael eu mabwysiadu, yn gymwys i'r gweithlu gofal cymdeithasol cyfan, gan gynnwys y rhai nad ydynt yn cael eu cyflogi'n uniongyrchol gan y sector cyhoeddus. At ddibenion y memorandwm hwn, cyfeirir at hyn fel y 'sector annibynnol' (a amlinellir yn Atodiad A).

3.3 Bydd yn cwmpasu'r sector annibynnol ac ni fydd yn torri ar draws unrhyw drefniadau lleol a gwmpesir gan drefniadau cydfargeinio cydnabyddedig. Bydd y bartneriaeth yn adolygu'r trefniadau hyn yn flynyddol.

3.4 Dylai cyflogwyr sy'n mabwysiadu'r modelau y cytunir arnynt gan y bartneriaeth hon eu hymgorffori fel rhan o'u contractau cyflogaeth a rhoi'r polisïau Adnoddau Dynol y cytunir arnynt ar waith yn eu sefydliadau.

3.5 Bydd yr egwyddorion a amlinellir yn y memorandwm hwn yn cael eu monitro'n barhaus gan y bartneriaeth yn ystod y flwyddyn gyntaf wrth i'w gwaith ddatblygu. Bydd yn adolygu'r trefniadau partneriaeth yn ffurfiol ar ôl blwyddyn, ac yn ystyried sut y caiff y polisïau y cytunir arnynt eu hadolygu yn y tymor hir.

Aelodau

4.1 Aelodau ffurfiol y bartneriaeth fydd Llywodraeth Cymru, undebau llafur a chynrychiolwyr cyflogwyr. Ni fydd proses ardystio ffurfiol gan na fydd y trefniant yn drefniant cydfargeinio ffurfiol, a gydnabyddir yn gyfreithiol. Bydd aelodau yn cael eu dwyn ynghyd gan y cadeirydd / Llywodraeth Cymru ar sail wirfoddol yn unol ag egwyddorion partneriaeth gymdeithasol a amlinellir ym mharagraff 1.1.

4.2 Llywodraeth Cymru: bydd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol yn cynrychioli Llywodraeth Cymru ar y bartneriaeth; os na fydd y Cyfarwyddwr yn gallu bod yn bresennol yn un o gyfarfodydd y bartneriaeth, bydd uwch-swyddog enwebedig yn ymuno yn ei le.

4.3 Undebau llafur: bydd undebau llafur a gydnabyddir ym maes gofal cymdeithasol yn cynrychioli aelodau ar y bartneriaeth.

4.4 Cyflogwyr: sefydliadau cyflogi sy'n gyfrifol am gytuno ar enwebiadau'r cynrychiolydd ar gyfer cyflogwyr. I ddechrau, bydd yr unigolyn hwn yn gynrychiolydd o'r Fforwm Darparwyr Cenedlaethol a Fforwm Gofal Cymru. Bydd cynrychiolaeth cyflogwyr yn datblygu drwy gydol y flwyddyn gyntaf, ac wrth wneud hynny yn sicrhau bod cyfranogwyr yn adlewyrchu natur amrywiol gofal cymdeithasol ledled Cymru.

4.5 Bydd angen mewnbwn gan bartneriaid eraill fel rhan o'r broses hon a bydd grŵp cynghori o arbenigwyr yn cael ei sefydlu i ymgynghori ag ef fel y cytunir gan y bartneriaeth. Bydd y partneriaid hyn yn cynnwys:

  • y Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol
  • cynrychiolydd gwasanaethau comisiynu byrddau iechyd
  • cynrychiolaeth o blith rheolwyr comisiynu awdurdodau lleol
  • cynrychiolydd swyddogion adran 151 awdurdodau lleol
  • Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol Cymru
  • Gofal Cymdeithasol Cymru
  • Cyngres yr Undebau Llafur

Monitro

5.1 Mae'r holl bartneriaid yn ymrwymo i fonitro'n barhaus, gyda'r nod o sicrhau atebolrwydd a pherfformiad yn erbyn cerrig milltir.

Llywodraethu a goruchwylio

6.1 Mae partneriaid unigol yn atebol i'w sefydliadau eu hunain a bydd gan bob un eu trefniadau llywodraethu eu hunain ar waith mewn perthynas ag ystod o faterion, gan gynnwys gwneud penderfyniadau a llif gwybodaeth.

6.2 Daw’r cylch gorchwyl hwn i rym yn syth ar ôl i’r partneriaid gytuno arno. Gellir ei ddiwygio, ei amrywio neu ei addasu ar unrhyw adeg drwy gytundeb y partneriaid.

6.3 Gwneir penderfyniadau a chytundebau ar sail consensws, a bydd yr holl bartneriaid yn gwneud penderfyniadau yn unfrydol.

Ymwadiad

7.1 Dylid nodi, drwy lofnodi'r ddogfen hon neu drwy fabwysiadu'r cytundeb, nad yw'r partneriaid yn ymrwymo i rwymedigaethau cyfreithiol rwymol. Y bwriad yw bod y partneriaid yn parhau i fod yn annibynnol ar ei gilydd ac nad yw eu cydweithio a'u defnydd o'r term 'partner' yn gyfystyr â chreu endid cyfreithiol, nac yn awdurdodi'r un partner i ymrwymo i ymrwymiad ar gyfer neu ar ran ei gilydd.

7.2 Nid oes unrhyw gymorth ariannol ar gael yn ganolog ar hyn o bryd, ac felly mae partneriaid yn derbyn y bydd elfen o risg ariannol yn gysylltiedig ag ymrwymo i'r cytundeb hwn.

Llofnodwyr

Mae'r sefydliadau a ganlyn wedi cytuno ar y memorandwm hwn:

  • Llywodraeth Cymru

Ar ran gweithwyr:

  • Unsain
  • GMB
  • Y Coleg Nyrsio Brenhinol

Ar ran cyflogwyr:

  • Y Fforwm Darparwyr Cenedlaethol
  • Fforwm Gofal Cymru 
  • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)

Atodiad A

Gweithwyr sydd o fewn cwmpas

Y gweithwyr a restrir isod yw'r rhai a gyflogir yn y sector 'annibynnol'. At ddibenion y bartneriaeth hon, dehonglir hwn fel unrhyw sefydliad sy'n gweithredu yn y sector gofal cymdeithasol nad yw'n cynnwys cyrff cyhoeddus. Hynny yw awdurdodau lleol a'r GIG.

Nid diben y bartneriaeth hon yw torri ar draws unrhyw drefniadau cydfargeinio ar wahân sy'n bodoli ar hyn o bryd yn y sector cyhoeddus.

Mae'r gweithwyr sydd o fewn cwmpas yn cynnwys:

  • yr holl staff sy'n gweithio mewn cartrefi gofal cofrestredig (plant ac oedolion)
  • gweithwyr gofal cymdeithasol mewn canolfannau preswyl i deuluoedd
  • gweithwyr gofal cartref mewn gwasanaethau cymorth cartref cofrestredig (gan gynnwys gwasanaethau byw â chymorth)
  • cynorthwywyr personol a gyflogir gan bobl sy'n cael taliad uniongyrchol gan awdurdod lleol
  • micro-ofalwyr
  • gweithwyr gofal eraill sy'n cael eu talu gan ddefnyddio taliadau uniongyrchol gan yr awdurdod lleol ond nad ydynt yn cael eu cyflogi fel cynorthwyydd personol gan y sawl sy'n derbyn gofal a chymorth