Neidio i'r prif gynnwy

Cylch Gorchwyl Grŵp Llywio Symleiddio Budd-daliadau Cymru.

Cefndir

Fel rhan o ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu, o dan y cytundeb cydweithio, i archwilio'r seilwaith sydd ei angen ar gyfer datganoli ymhellach y gwaith o gweinyddu budd-daliadau lles, mae Gweinidogion wedi cytuno i symud ymlaen â'r camau canlynol: 

  1. Siarter Budd-daliadau Cymru Symud y Siarter yn ei blaen o'r fersiwn ddrafft i'r fersiwn gyhoeddedig derfynol, gan sicrhau bod partneriaid yn y sector cyhoeddus yn cytuno iddi. Datblygu fframwaith gweithredu a gwerthuso. 
  2. Symleiddio'r broses weinyddu: [cyd-d]datblygu cynllun gweithredu ar gyfer dull cyffredin o weinyddu grantiau/taliadau, wedi'i lywio gan yr argymhellion yn yr adroddiad Policy in Practice
  3. Caffael ymchwil bellach sy'n ymwneud â'r diffiniad o "weinyddu" budd-daliadau lles: bydd hyn yn darparu'r sylfaen i ddod i gytundeb ar y cyd ar yr hyn sy'n gyfystyr â gweinyddu lles a llywio penderfyniadau ar ddatganoli swyddogaethau. 

Bydd y camau uchod nid yn unig yn paratoi'r seilwaith ar gyfer unrhyw ddatganoli budd-daliadau lles yn y dyfodol fel y gellir eu darparu mewn modd tosturiol a theg ond hefyd yn rhan allweddol o ymateb Llywodraeth Cymru i'r argyfwng costau byw a'i ymateb tymor hwy o ran trechu tlodi.

Mae lefel uchel o ddiddordeb a disgwyliadau yn y maes gwaith hwn gan y Senedd a rhanddeiliaid allanol allweddol. Mae hwn yn faes cymhleth o waith gyda sawl agwedd iddo a fydd yn gofyn am arbenigedd allanol a datblygu datrysiadau pwrpasol.

Diben

Cyflawni'r newid diwylliant a'r newidiadau ymarferol sydd eu hangen i sicrhau bod yr ystod o grantiau/taliadau a rhaglenni a lywodraethir gan Lywodraeth Cymru nid yn unig yn cael yr effaith fwyaf ar bobl yng Nghymru ond yn cael eu darparu mewn ffordd gynhwysol, dosturiol a chydgysylltiedig. Bydd y rhaglen waith hon yn cynnwys nifer o amcanion allweddol.

Amcanion

Nid yw'r rhestr  mewn unrhyw drefn o ran blaenoriaeth:

  • I oruchwylio a bwrw ymlaen â'r 3 llinyn gwaith uchod ac adrodd ar gynnydd i Gyngor Partneriaeth Cymru . 
  • Cefnogi gweithredu Siarter Budd-daliadau Cymru
  • Edrych ar y dystiolaeth a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill megis Policy in Practice i ddatblygu cynllun gweithredu gydag atebion ymarferol a fydd yn helpu i greu system fudd-daliadau fwy cydlynol i Gymru. 
  • Bydd y camau gweithredu yn y cynllun gweithredu yn cael eu blaenoriaethu i'r rhai y gellir eu cyflawni yn y tymor byr a'r rhai a fydd yn cymryd mwy o amser i gael eu gwireddu, a disgwylir i atebion dros dro gael eu datblygu. 

Rhaid i'r atebion fod yn gynhwysol ac yn addas ar gyfer y dyfodol a sicrhau bod barn y defnyddiwr terfynol a'r partneriaid cyflenwi yn cael eu hystyried.  

Aelodaeth

Cadeirydd annibynnol

  • Fran Targett, annibynnol.

Aelodau

  • Amanda Main, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
  • Anna Friend, Cyngor Sir y Fflint.
  • Katie Till, Ymddiriedolaeth Trussell.
  • Claire Germain, Llywodraeth Cymru.
  • Helal Uddin, Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid.
  • Joanna Goodwin, Y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol.
  • Lindsey Phillips, Y Prif Swyddog Digidol ar gyfer Llywodraeth Leol,  Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
  • Lisa Hayward, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
  • Matthew Evans, Gweithgor Rheolwyr Refeniw a Budd-daliadau Cymru ar ran Cymdeithas Trysoryddion Cymru.
  • Miranda Evans, Anabledd Cymru.
  • Nigel Griffiths, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
  • Sean O'Neill, Plant yng Nghymru.
  • Simon Hatch, Cyngor ar Bopeth.
  • Steffan Evans, Sefydliad Bevan.
  • Victoria Lloyd, Cynghrair Henoed Cymru.

Cydnabyddir y gallai fod angen galw ar bobl ychwanegol i fynychu cyfarfodydd pan fydd angen arbenigedd ychwanegol ar fater penodol. 

Pa mor aml y cynhelir cyfarfodydd

Bydd y grŵp yn anelu at gyfarfod yn rheolaidd, o leiaf bob chwarter, er bod disgwyl i'r cyfarfodydd fod yn fwy rheolaidd i ddechrau.

Bydd gofyn datblygu is-grwpiau thema (e.e. i symud gwaith penodol ymlaen ar faterion allweddol megis datrysiadau dylunio, rhannu data a meini prawf cymhwystra ac ati).

Bydd y cyfarfodydd hyn yn cael eu cynnal y tu allan i gyfarfodydd y grŵp llywio ond byddant yn adrodd i'r grŵp ar gynnydd. Cytunnir ar aelodaeth yr is-grwpiau unwaith y byddant wedi'u datblygu.