Neidio i'r prif gynnwy

Cylchlythyr rheoliadau adeiladu

Rhif y cylchlythyr:    WGC 008/2024

Dyddiad cyhoeddi:    21/05/2024

Statws:    Er gwybodaeth

Teitl: Newid i'r corff dynodedig sy'n goruchwylio Arolygwyr Cymeradwy

Cyhoeddwyd gan: Kevin Davies, Rheolwr Cymhwysedd a Safonau Rheoli Adeiladu

Ar gyfer:    

Prif Weithredwyr yr Awdurdodau Lleol
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru 
Cymdeithas yr Arolygwyr Corfforaethol Cymeradwy

I'w anfon ymlaen at:

Swyddogion Rheoli Adeiladu yr Awdurdodau Lleol
Aelodau Senedd Cymru

Crynodeb:

Dynodi pŵer i reoleiddio Arolygwyr Cymeradwy yn ystod cyfnod pontio diogelwch adeiladu.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

Y Tîm Rheoliadau Adeiladu
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru
Merthyr Tudful
CF10 3NQ  

Llinell uniongyrchol:   0300 060 4400

E-bost:    enquiries.brconstruction@llyw.cymru
Gwefan:   Adeiladu a chynllunio

Cyflwyniad

  1. Fe'm cyfarwyddir gan Weinidogion Cymru i dynnu eich sylw at y canlynol: mae y corff dynodedig sy'n rheoleiddio Arolygwyr Cymeradwy wedi newid.

Cwmpas y Cylchlythyr hwn

  1. Mae'r Cylchlythyr hwn yn berthnasol i adeiladau a gwaith adeiladu yng Nghymru, yn ogystal ag i weithwyr rheolaeth adeiladu proffesiynol sy'n gweithredu yng Nghymru.

Hysbysiad am newid y corff sy'n goruchwylio Arolygwyr Cymeradwy

  1. Fel rhan o'r gyfres o newidiadau a gyflwynwyd mewn perthynas â Deddf Diogelwch Adeiladu 2022 lle y bydd Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu (RBCAs) yn disodli Arolygwyr Cymeradwy at ddibenion gweithredu rheolaeth adeiladu'r sector preifat, rhoddodd Gweinidogion Cymru rybudd y byddai dynodiad Cofrestr Arolygwyr Cymeradwy Cyngor y Diwydiant Adeiladu (CICAIR) fel y corff sy'n rheoleiddio Arolygwyr Cymeradwy yn cael ei ddirymu.
     
  2. O 31 Mawrth 2024 peidiodd CICAIR â bod y corff a ddynodwyd i gymeradwyo arolygwyr.
     
  3. Ar gyfer y cyfnod pontio, mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) wedi cael ei ddynodi gan Weinidogion Cymru fel y corff newydd i oruchwylio Arolygwyr Cymeradwy at ddibenion Rhan 2 o Ddeddf Adeiladu 1984 a'r Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) 2010.
     
  4. Daeth y dynodiad hwn i rym ar 5 Ebrill 2024 a daw i ben ar 1 Hydref 2024. Ar ddiwedd y cyfnod pontio ni chaiff Arolygwyr Cymeradwy barhau i weithredu.
     
  5. Er mai'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch bellach yw'r corff dynodedig ar gyfer rheoleiddio Arolygwyr Cymeradwy, ni fydd unrhyw Arolygwyr Cymeradwy newydd yn cael eu cofrestru yn ystod y cyfnod pontio, gan fod y diwydiant yn symud tuag at holl swyddogaethau rheolaeth adeiladu'r sector preifat yn cael eu cyflawni gan Gymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu.
     
  6. Bydd rôl yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn hyn o beth yn cael ei chyfyngu i gofrestriadau sy'n bodoli eisoes – gan gynnwys monitro cofrestriadau sydd wedi dod i ben neu sydd wedi cael eu tynnu'n ôl – ymchwilio i gwynion a defnyddio sancsiynau lle bo hynny'n berthnasol ac yn briodol.
     
  7. Bydd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn mabwysiadu'r Cod Ymddygiad yr oedd CICAIR yn ei ddefnyddio yn flaenorol pan gawsant eu dynodi, a byddant yn mabwysiadu a gweithredu'r weithdrefn gwynion a'r drefn sancsiynau yr oedd CICAIR yn eu defnyddio wrth ddatrys unrhyw gwynion a wneir mewn perthynas ag Arolygwyr Cymeradwy.

Ymholiadau

Anfonwch unrhyw ymholiadau am y Cylchlythyr hwn at:

Rheoliadau Adeiladu, 
2il Lawr, 
Llywodraeth Cymru, 
Parc Cathays, 
Caerdydd CF10 3NQ

E-bost  enquiries.brconstruction@llyw.cymru

Yn gywir,

Mark Tambini 

Pennaeth Polisi Rheoliadau Adeiladu