Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Mater

1. Mae'r papur hwn yn archwilio potensial y CPG i gefnogi a gwella cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac mae'n gwahodd barn aelodau'r CPG ar y mater hwn.

Cefndir

2. Yn ystod gwaith craffu'r Senedd ar yr hyn sydd bellach yn Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023, pwysleisiodd nifer o randdeiliaid botensial y ddeddfwriaeth fel ffordd o hyrwyddo mwy o gydraddoldeb ac amrywiaeth mewn gweithleoedd yng Nghymru.

3. Cafodd y mater hwn ei ystyried ymhellach gan y Fforwm Partneriaeth Gymdeithasol (rhagflaenydd y CPG), gydag aelodau'r Fforwm yn cytuno y dylid cyflwyno papur i'r CPG, unwaith y bydd wedi'i sefydlu, yn esbonio sut y gellid defnyddio'r dyletswyddau a'r strwythurau a grëwyd gan y Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus i sicrhau'r effaith gadarnhaol fwyaf ar gydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae'r papur hwn yn darparu'r wybodaeth honno ac yn gwahodd barn aelodau'r CPG.

Cyd-destun: Deddf Cydraddoldeb 2010

4. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn diogelu pobl rhag gwahaniaethu oherwydd:

  • oedran
  • anabledd
  • ailbennu rhywedd
  • priodas a phartneriaeth sifil
  • beichiogrwydd a mamolaeth
  • hil
  • crefydd neu gred
  • rhyw
  • cyfeiriadedd rhywiol

5. Mae Deddf 2010 hefyd yn cyflwyno Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus ("PSED") sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r rhai sy'n ddarostyngedig i'r ddyletswydd (Rhestrir y rhain yn Atodlen 19 i'r Ddeddf ac maent yn cynnwys amrywiaeth o gyrff cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys BILlau ac Ymddiriedolaethau'r GIG, awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu ysgolion a Gweinidogion Cymru) roi sylw priodol i'r angen i:

  • ddileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth ac unrhyw ymddygiad arall a waherddir gan Ddeddf 2010;
  • hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig a'r rhai nad ydynt;
  • meithrin perthynas dda rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig a'r rhai nad ydynt.

6. Nod y Ddyletswydd yw sicrhau bod y rhai sy'n ddarostyngedig iddi yn ystyried hyrwyddo cydraddoldeb wrth gyflawni eu busnes o ddydd i ddydd. Nid yw'r ddyletswydd yn berthnasol i nodwedd warchodedig priodas a phartneriaeth sifil.

Cyd-destun: beth mae'r Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus yn ei ddweud am gydraddoldeb ac amrywiaeth  

7. Mae Rhan 3 o'r Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus yn ymdrin â chaffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol. Mae Adran 27 o Ran 3 yn cynnwys y darpariaethau canlynol:

Cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol mewn contractau adeiladu mawr 
  1. Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi cymalau enghreifftiol ar gyfer contractau adeiladu mawr (“cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol”) sydd wedi eu cynllunio i sicrhau’r gwelliannau o ran llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol a restrir o dan bob categori yn y Tabl yn isadran (2).
  2. categorïau a’r gwelliannau yw:

Categori: Taliadau
Gwelliannau: sicrhau a gorfodi taliadau prydlon.

Categori: Cyflogaeth
Gwelliannau: darparu cyfleoedd cyflogaeth i bobl ifanc, pobl hŷn, pobl ddi-waith hirdymor, pobl ag anableddau neu bobl a all fel arall fod o dan anfantais (er enghraifft oherwydd eu hil, eu crefydd neu eu cred, eu rhyw, eu hunaniaeth rhywedd neu eu cyfeiriadedd rhywiol).

Categori: Cydymffurfedd
Gwelliannau: sicrhau cydymffurfedd â rhwymedigaethau cyfreithiol mewn perthynas â hawliau cyflogaeth (gan gynnwys yr isafswm cyflog a chyflog byw), iechyd a diogelwch, a chynrychiolaeth undebau llafur.

Categori: Hyfforddiant 
Gwelliannau: darparu hyfforddiant priodol i weithwyr.

Categori: Is-gontractio
Gwelliannau: darparu cyfleoedd i fusnesau bach a chanolig a sefydliadau gwirfoddol i gyflawni gweithiau, cyflenwi cynhyrchion neu ddarparu gwasanaethau.

Categori: Yr amgylchedd
Gwelliannau: Gwneud rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, defnyddio deunyddiau cynaliadwy, cydnerthedd rhag effaith newid hinsawdd, lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, a gwella’r amgylchedd naturiol a bioamrywiaeth yn ofynnol.

Materion i'w hystyried gan y CPG

8. Gallai'r CPG ddarparu cyfrwng i ddarparu gwybodaeth a chyngor gan bartneriaid cymdeithasol ar faterion perthnasol, gan alluogi Gweinidogion i glywed barn a phrofiadau gweithwyr a chyflogwyr. Mae gan undebau llafur strwythurau democrataidd a chynrychiadol sydd â photensial i gipio profiadau, pryderon a safbwyntiau'r rhai sydd â nodweddion gwarchodedig. Yn ogystal, mae strwythurau mewnol llawer o undebau hefyd yn cynnwys cynrychiolaeth gyfrannol. 

9. Mae adran 8 o'r Ddeddf hefyd yn darparu y caiff CPG sefydlu is-grwpiau perthnasol. Caiff is-grŵp o'r CPG (a) gyflawni unrhyw swyddogaeth o dan adran 1 o'r Ddeddf a ddirprwyir iddo gan y CPG; a (b) cynorthwyo’r CPG i gyflawni ei swyddogaethau mewn unrhyw ffordd a bennir gan y CPG. Mae swyddogion a'r Dirprwy Weinidog wedi trafod gyda phartneriaid cymdeithasol yr angen i sicrhau bod aelodau a enwebir ac a benodir i'r CPG yn dod o ystod amrywiol o gefndiroedd; fodd bynnag, gyda dim ond 18 lle ar y Cyngor ei hun ar gyfer partneriaid cymdeithasol, byddai'n ymddangos yn briodol ystyried a ddylech chi, fel aelodau o'r CPG, sefydlu Is-grŵp Cydraddoldeb ac Amrywiaeth i sicrhau'r gynrychiolaeth ehangaf bosibl, a sicrhau bod profiad bywyd pobl â nodweddion gwarchodedig yn cael ei ystyried yn llawn yng ngwaith y Cyngor. Er hynny, mater i'r CPG ei hun fydd penderfynu a yw'n dymuno sefydlu unrhyw is-grwpiau.  Byddai unrhyw is-grwpiau yn cael eu cadeirio gan aelod o'r CPG a gallant gynnwys unigolion eraill (nid dim ond aelodau o'r CPG ei hun). 

10. Bydd y ddyletswydd partneriaeth gymdeithasol ar gyrff cyhoeddus yn ei gwneud yn ofynnol iddynt geisio consensws neu gyfaddawd gyda'u hundebau llafur cydnabyddedig neu gynrychiolwyr staff eraill wrth osod eu hamcanion llesiant o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) ac wrth wneud penderfyniadau strategol am y camau rhesymol y mae cyrff yn eu cymryd i gyflawni'r amcanion hynny. Gallai deialog go iawn rhwng cyflogwyr y sector cyhoeddus a chynrychiolwyr gweithwyr / undebau llafur gyda'r nod o wella penderfyniadau a gwella llesiant ategu a chefnogi Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a sut y caiff ei gweithredu gan gyrff cyhoeddus.

11. Mae Canllaw i Waith Teg yn nodi (1) beth mae gwaith teg yn ei olygu yn ymarferol; (2) pam mae hyrwyddo gwaith teg yn fuddiol i sefydliadau, gweithwyr a llesiant ehangach; a (3) rhai camau ymarferol y gall sefydliadau eu cymryd i barhau â'u taith gwaith teg. “Gwaith teg yw presenoldeb amodau gweladwy yn y gwaith sy’n golygu bod gweithwyr yn cael eu gwobrwyo’n deg, eu clywed a’u cynrychioli, eu bod yn ddiogel ac yn gallu gwneud cynnydd mewn amgylchedd gwaith iach, cynhwysol lle mae hawliau’n cael eu parchu”. Mae gan y gwaith o gyflawni gwaith teg, felly, a'r cyfeiriad a wneir ato nawr yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), y potensial i effeithio'n sylweddol ar gydraddoldeb ac amrywiaeth.

12. Bydd y ddyletswydd caffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol a nodir yn y Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus penodol ystyried caffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol, gosod amcanion mewn perthynas â nodau llesiant y mae'n rhaid i'r cyrff hynny eu cyflawni wrth ymgymryd â gwaith caffael, a chyhoeddi strategaeth gaffael. Yn ogystal, mewn perthynas â rhai mathau o gontract, bydd yn ofynnol i gyrff cyhoeddus gyflawni dyletswyddau rheoli contractau i sicrhau bod canlyniadau cymdeithasol gyfrifol yn cael eu cyflawni drwy gadwyni cyflenwi. Mae tua £8 biliwn yn cael ei wario'n flynyddol ar gaffael cyhoeddus yng Nghymru; felly, mae gan y dyletswyddau caffael newydd a nodir yn y Ddeddf y potensial i weithredu fel sbardun sylweddol i helpu i wella cydraddoldeb ac amrywiaeth yng Nghymru.

13. Trafodwyd y mater yn y Fforwm Partneriaeth Gymdeithasol (rhagflaenydd y CPG) ym mis Gorffennaf ac eto ym mis Hydref. Cyfarfu rhai aelodau o'r Fforwm â swyddogion Llywodraeth Cymru i ystyried opsiynau ar gyfer cryfhau'r papur cychwynnol a gyflwynwyd i'r Fforwm. Codwyd pryderon gan yr undebau llafur bryd hynny y gallai is-grŵp Cydraddoldeb ac Amrywiaeth leihau statws gwaith cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y CPG ei hun. Roedd yr undebau llafur o'r farn y gallai eitemau ar agenda sefydlog y CPG fod yn ffordd fwy effeithiol o sicrhau bod lleisiau'r rhai o gefndiroedd amrywiol yn cael eu clywed, er y tynnwyd sylw at y ffaith y gallai hyn greu 'siop siarad’. Er mwyn goresgyn hyn a sicrhau bod profiad bywyd pobl â nodweddion gwarchodedig yn cael ei ystyried yn llawn, un dull amgen fyddai defnyddio grwpiau arbenigol presennol y gallai'r CPG droi atynt am gyngor perthnasol yn dibynnu ar y pwnc dan sylw.

Argymhelliad

14. Gwahoddir aelodau'r CPG i ystyried sut y dylid defnyddio'r dyletswyddau newydd a'r strwythurau partneriaeth gymdeithasol a sefydlwyd gan y Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus i sicrhau'r effaith gadarnhaol fwyaf posibl ar gydraddoldeb ac amrywiaeth.

15. Gofynnir yn benodol i aelodau'r CPG ystyried a ddylid sefydlu Is-grŵp Cydraddoldeb ac Amrywiaeth i gefnogi ei waith; ac i sicrhau bod llais a phrofiad pobl â nodweddion gwarchodedig yn cael eu hystyried yn llawn mewn gwybodaeth neu gyngor a roddir i Weinidogion Cymru ar faterion sy'n ymwneud â phartneriaeth gymdeithasol, gwaith teg neu gaffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol.

16. Gwahoddir aelodau'r CPG hefyd i ystyried a ddylai'r CPG gael mynediad at grwpiau arbenigol perthnasol sy'n adlewyrchu llais a phrofiad bywyd pobl â nodweddion gwarchodedig er mwyn llywio ei waith yn y dyfodol.

17. Os yw aelodau'r CPG yn cytuno â'r argymhelliad i sefydlu Is-grŵp Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, bydd cynigion manylach yn cael eu llunio ar gyfansoddiad, rôl a chynhwysiant posibl cyngor arbenigol i CPG grŵp o'r fath.