Cyllideb Ddrafft 2024 i 25 Llywodraeth Cymru
Cyfarfod Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol, 1 Chwefror 2024: eitem agenda 8.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Mater
1. Gosodwyd Cyllideb Ddrafft 2024-25 Llywodraeth Cymru ar 19 Rhagfyr 2023. Mae'r Senedd yn craffu ar y Gyllideb Ddrafft ar hyn o bryd, gyda'r bleidlais ar y Gyllideb Derfynol yn cael ei chynnal yn y Siambr ar 5 Mawrth 2024.
Cefndir
2. Yng nghyfarfod olaf y Fforwm Partneriaeth Gymdeithasol (rhagflaenydd y CPG) ym mis Rhagfyr, cynigiodd sawl aelod y dylai'r Gyllideb Ddrafft gael ei chynnwys ar yr agenda ar gyfer cyfarfod cyntaf y CPG.
3. Cytunodd y Prif Weinidog i'r cynnig hwn fel Cadeirydd y CPG, ac mae copi o'r Gyllideb Ddrafft ynghlwm yn Atodiad A. Mae hyn yn cynnwys yr Asesiad Effaith Integredig Strategol o'r Gyllideb Ddrafft.
Argymhelliad
4. Gwahoddir aelodau i rannu eu barn ar y Gyllideb Ddrafft gyda'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a fydd yn mynychu cyfarfod y CPG.