Neidio i'r prif gynnwy

Mae gwaith i wella safonau mathemateg yn ysgolion Cymru yn mynd rhagddo, sy'n cynnwys rhoi cynlluniau newydd ar waith i helpu i hybu hyder, datblygu sgiliau ac annog mwy o ddysgwyr i ddewis astudio mathemateg.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mai 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyn y pandemig, roedd ysgolion yng Nghymru yn gwneud cynnydd cadarnhaol mewn rhifedd, ac mae gwaith ar y gweill erbyn hyn i gael pethau yn ôl ar y trywydd iawn.

Ers mis Ebrill 2023, mae mwy na 3,500 o ddysgwyr wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau a ddarperir gan Raglen Gymorth Mathemateg Cymru (RhGMC), ac mae rhagor o ysgolion yn bwriadu cymryd rhan. Mae'r cynllun, sy'n cael ei reoli gan Brifysgol Abertawe, yn cael ei gefnogi gan £450,000 o gyllid gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r gweithgareddau'n cynnwys clybiau a dosbarthiadau meistr mathemateg, sgyrsiau am rôl mathemateg yn y byd gwaith, adnoddau adolygu a digwyddiadau sy'n annog mwy o ferched i gymryd mathemateg fel pwnc.

Wrth siarad ar Ddiwrnod Rhifedd Cenedlaethol, dywedodd Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:

Mae gwelliant parhaus mewn cyrhaeddiad yn brif flaenoriaeth i mi fel Ysgrifennydd y Cabinet. Dyna pam rydyn ni'n cyflwyno'r cynlluniau hyn i gefnogi cynnydd disgyblion mewn mathemateg ar hyd eu taith ddysgu.

Mae ein taith ni i ddiwygio'r cwricwlwm yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i chwyldroi ansawdd addysg yng Nghymru – ac rwy'n hyderus y bydd yn sicrhau buddion enfawr i'n pobl ifanc ac yn helpu i godi safonau yn ein hysgolion.

Mae Ysgol Bryn Tawe yn Abertawe yn elwa ar gefnogaeth bwrpasol gan RhGMC, sy'n cynnwys dysgu proffesiynol ar gyfer staff, er mwyn iddynt allu addysgu mathemateg bellach yn yr ysgol. Mae clybiau mathemateg amser cinio, sgyrsiau am yrfaoedd mewn mathemateg a sesiynau adolygu ar gael, ac mae dysgwyr wedi cael y cyfle i fynychu cynadleddau ym Mhrifysgol Abertawe.

Dywedodd Carly Shanklin sy'n arwain Adran Mathemateg Ysgol Bryn Tawe:

Fel ysgol rydyn ni'n angerddol am daith gallu mathemategol ein dysgwyr. Mae gweithio gyda Rhaglen Gymorth Mathemateg Cymru yn ein helpu ni i gyflawni ein dyhead i bob disgybl fwynhau mathemateg a rhifedd.

Clybiau Mathemateg yw fy ffefryn personol i! Rwy wrth fy modd yn gweld myfyrwyr a staff yn dod i mewn i wneud pethau anarferol drwy ddefnyddio mathemateg.

Ers mis Ebrill, mae RhGMC wedi ehangu ei gweithgareddau i ddarparu mwy o gymorth i ddisgyblion iau, gan eu helpu i ddatblygu eu sgiliau, eu hyder a'u hangerdd am fathemateg.

Mae Academi Seren, sy'n cefnogi tua 22,000 o ddysgwyr 14-19 oed ledled Cymru trwy ddarparu profiadau astudio allgyrsiol a gweithgareddau cyfoethogi uwch-gwricwlaidd, yn ymestyn ei chefnogaeth i ddysgwyr galluog mewn mathemateg wrth i'r Academ bartneru â Mathemateg Axiom. Bydd y rhaglen fathemateg uwchgwricwlaidd ychwanegol yn ariannu athrawon i arwain ar gylchoedd mathemateg, gan ddod â grwpiau o ddysgwyr at ei gilydd yn wythnosol, i fynd i'r afael â phroblemau mathemateg heriol.

Diolch i bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a'r Gwasanaeth Arian a Phensiynau, mae disgyblion yn elwa ar becyn cymorth addysg ariannol newydd, sy'n bwriadu helpu ysgolion i gynllunio eu darpariaeth addysg ariannol a rhoi gwybodaeth well i bobl ifanc am arian. Mae'r canllawiau newydd yn rhoi enghreifftiau o'r byd go iawn o dasgau ariannol fel cyllidebu, benthyca a rheoli arian, ac maent yn cyd-fynd â'r cwricwlwm newydd. 

Mae gwaith ar y gweill hefyd i gyflawni camau gweithredu Cynllun Mathemateg Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd fis Tachwedd diwethaf. Sefydlwyd Grŵp Ymchwil, Tystiolaeth a Chyngor newydd, sy'n cynnwys arbenigwyr mathemategol profiadol mewn systemau addysg rhyngwladol. Mae pecyn dysgu proffesiynol newydd yn cael ei greu gyda chymorth gan bartneriaid gwella ysgolion. Ar ben hynny, mae ymgyrch gyfathrebu i hyrwyddo meddylfryd 'gallu gwneud' cadarnhaol mewn perthynas â mathemateg yn cael ei chynllunio, ac mae datblygu'r ymgyrch ar y cyd ag ysgolion yn ganolog i'r gwaith hwnnw.