Rheolaethau yn nyfroedd glannau'r Alban (0 i 6 milltir forol).
Mae'r amrywiad sy'n weithredol o 00:01 o'r gloch ddydd Sul 12 Mai 2024 fel a ganlyn:
Mesurau rheoli mewn perthynas â physgota mewn rhannau penodol o'r môr
Yn effeithio ar atodlenni A (11), B (31) ac C (41) trwyddedau cychod dros 10m
29. O 00:00 o'r gloch ar 12 Mai 2024, ni chaiff y cwch y mae'r drwydded hon yn ymwneud ag ef1 ddefnyddio cewyll, potiau na thrapiau yn unrhyw ran o ddyfroedd glannau'r Alban (0 i 6 milltir forol)2, ac eithrio dyfroedd y glannau o amgylch St Kilda (Hirta a Boreray), Ynysoedd Flannan, Rockall, Sula Sgeir, North Rona, Sule Stack a Sule Skerry.
1 Cychod pysgota trwyddedig sy'n fwy na 12 metr ar eu hyd, sydd wedi hysbysu'r awdurdod cymwys am ddalfeydd o ragor na 200 tunnell o grancod coch a/neu gimychiaid yn ystod unrhyw gyfnod o 12 mis o 2020 ymlaen.
2. Fel y'i diffinnir yn Neddf Pysgota ar y Glannau (Yr Alban) 1984.
Dychwelyd dalfeydd i'r môr yn Nyfroedd yr Alban
Yn effeithio ar atodlenni A (11), B (31) ac C (41) trwyddedau cychod dros 10m ac atodlen A(91) trwyddedau cychod 10m a llai.
Yn atodlenni cychod dros 10m:
30. O 00:00 o'r gloch ar 12 Mai 2024, ni chaiff y cwch y mae'r drwydded hon yn ymwneud ag ef1, gadw ar ei fwrdd gimychiaid (Homarus Gammarus) na chrancod coch (Cancer pagurus) sy'n cario wyau ar eu cynffonnau neu ar ran allanol arall o'u cyrff, na'u glanio, na chynnig eu gwerthu na'u haseinio; ni fyddant chwaith mewn cyflwr sy'n dangos eu bod pan gawsant eu dal yn cario wyau yn y modd hwnnw.
1 Pob cwch pysgota trwyddedig o bob categori.
Yn atodlenni cychod 10m a llai:
22. O 00:00 o'r gloch ar 12 Mai 2024, ni chaiff y cwch y mae'r drwydded hon yn ymwneud ag ef1, gadw ar ei fwrdd gimychiaid (Homarus Gammarus) na chrancod coch (Cancer pagurus) sy'n cario wyau ar eu cynffonnau neu ar ran allanol arall o'u cyrff, na'u glanio, na chynnig eu gwerthu na'u haseinio; ni fyddant chwaith mewn cyflwr sy'n dangos eu bod pan gawsant eu dal yn cario wyau yn y modd hwnnw.
1 Pob cwch pysgota trwyddedig o bob categori.