Rebecca Evans AS, Cabinet Secretary for Finance, Constitution and Cabinet Office
Cynlluniwyd y Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MIM) gan Lywodraeth Cymru i hybu buddsoddiad mewn seilwaith ac mae wedi chwarae rhan bwysig yn y gwaith o gyflawni'r canlyniadau a nodir yn y Strategaeth Buddsoddi yn Seilwaith Cymru ar gyfer economi carbon sero (WIIS). Pan lansiwyd y MIM yn 2017, gwnaethom ymrwymiad i fod mor dryloyw â phosibl am ein camau gweithredu.
Heddiw, mae Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi Adroddiad Blynyddol cyntaf MIM – dogfen sy'n disgrifio ein gweithgareddau dros y cyfnod o fis Gorffennaf 2022 i fis Mawrth 2024. Mae'r adroddiad yn disgrifio yn fanwl:
- Prif nodweddion MIM,
- Manylion prosiectau MIM presennol,
- Y partïon sy'n ymwneud â phrosiectau MIM a'u priod rolau,
- Data dychwelyd ecwiti, a
- Buddion Cymunedol a gyflawnir drwy'r prosiectau.